Dwy ddelwedd, un o grŵp o bobl yn cerdded ar hyd prom ar lan y môr, a’r llall o gerddwyr ar lwybr troed trwy goetir.

Unwaith eto, mae Prifysgol Abertawe'n cynnal taith gerdded arbennig i godi ymwybyddiaeth o hunanladdiad – a gobeithiwn y bydd newid y dyddiad yn annog hyd yn oed mwy o bobl i ddod i'r daith gerdded eleni.

Cynhelir taith gerdded HOPEWALK eleni, a drefnir gan yr elusen atal hunanladdiad PAPYRUS, ar hyd glan môr Abertawe ddydd Mercher 21 Mai am 5pm.

Dyma'r seithfed tro y mae tîm Bywyd Campws y Brifysgol wedi bod yn rhan o gynnal y digwyddiad sydd â’r nod o godi ymwybyddiaeth o hunanladdiad a rhoi gwybod i bobl am y cymorth sydd ar gael.

Mae'r trefnwyr yn croesawu rhoddion tuag at waith yr elusen ac maen nhw hefyd yn annog myfyrwyr, staff ac unrhyw un sydd â diddordeb i gymryd rhan yn y daith gerdded gylchol sy'n dair milltir o hyd.

Drwy gydol mis Mai, mae PAPYRUS yn cynnal teithiau cerdded HOPEWALK ar draws y Deyrnas Unedig er mwyn codi ymwybyddiaeth o hunanladdiad ymhlith pobl ifanc.

Dywedodd Sian Bengeyfield, rheolwr iechyd meddwl a chwnsela Bywyd Myfyrwyr: "Mae hunanladdiad yn parhau i fod yn brif achos marwolaeth ymhlith pobl ifanc yn y DU. Ein nod yw codi ymwybyddiaeth a sicrhau bod pobl ifanc yn ymwybodol o sut i gyrchu'r cymorth sydd ar gael iddyn nhw.

“Rydym yn falch o gefnogi'r gwaith hanfodol sy'n achub bywydau y mae PAPYRUS yn ei ddarparu i bobl ifanc yn ein cymuned.

“Fel arfer, cynhelir y digwyddiad hwn ym mis Hydref, ond rydym yn hyderus y bydd y dyddiad diwygiedig hwn yn annog hyd yn oed mwy o bobl i gymryd rhan. Mae'n cynnig cyfle gwerthfawr i bobl ddod ynghyd a mynd am dro heddychlon ar lan y môr. Rydym yn estyn croeso cynnes i holl aelodau'r cyhoedd i ymuno â ni, oherwydd nid yw cymorth PAPYRUS ar gyfer myfyrwyr yn unig".

Mae PAPYRUS yn credu y gellir atal llawer o achosion o hunanladdiad ymhlith pobl ifanc, ac maen nhw'n cynnal HOPELINE247, llinell gymorth gyfrinachol dros y ffôn, drwy negeseuon testun ac e-bost i bobl ifanc sydd â meddyliau am hunanladdiad neu bobl o unrhyw oedran sy'n pryderu am berson ifanc a allai fod yn meddwl am hunanladdiad. Defnyddir pob £1 a godir i dalu am gyswllt â HOPELINE247 a allai achub bywyd.

Bydd y digwyddiad hwn yn dechrau ac yn gorffen yn 'The Secret Beach Bar and Kitchen', Heol y Mwmbwls, Abertawe, a byddwn yn cerdded i Blackpill ac yn ôl.

Os hoffech chi gymryd rhan yn y daith gerdded yn Abertawe, cofrestrwch ar-lein nawr neu os ydych eisiau rhagor o wybodaeth, e-bostiwch Carl Ely o dîm Llesiant@BywydCampws y Brifysgol.

Gallwch hefyd roi cyfraniad at waith yr elusen yma.

 

Rhannu'r stori