Grŵp mawr o redwyr yn sefyll o dan linell gychwyn y ras

Rydym yn cyfrif y dyddiau tan Hanner Marathon Abertawe eleni ac mae ein cyfranogwyr brwd yn brysur iawn wrth iddynt hyfforddi ar gyfer y diwrnod mawr ddydd Sadwrn 8 Mehefin.

Prifysgol Abertawe yw noddwr swyddogol y digwyddiad ac mae wedi bod yn annog ei staff, ei myfyrwyr a'i chyn-fyfyrwyr i ymuno â'i gilydd a rasio fel Tîm Abertawe unwaith eto.

Dros y ddwy flynedd ddiwethaf, maent wedi codi dros £40,000 ar gyfer ymgyrch Cymryd Camau Breision dros Iechyd Meddwl y Brifysgol, sy'n ariannu ymchwil hanfodol ym maes atal hunanladdiad, yn ogystal â chymorth iechyd meddwl a lles i fyfyrwyr. Ac eleni, mae tîm Abertawe o redwyr mentrus yn debygol o godi swm uwch fyth.

Mae eu cyfraniadau eisoes yn helpu'n fawr ac yn gwneud gwahaniaeth go iawn ar draws y Brifysgol.

Diolch i Dîm Abertawe, mae myfyrwyr wedi elwa o amrywiaeth o sesiynau ffitrwydd ac ymarfer corff am ddim sy'n helpu i hyrwyddo gweithgarwch corfforol fel ffordd o wella iechyd meddwl ac yn rhoi cyfle i fyfyrwyr gymryd rhan mewn gweithgareddau sy'n lleihau straen.

Ymhlith y rhain roedd sesiynau therapi syrffio a gynhaliwyd ym Mae Caswell. Cafodd y sesiynau hyn effaith go iawn ar iechyd meddwl ac emosiynol y cyfranogwyr.

Ar ôl cymryd rhan, dywedodd un o'r myfyrwyr: "Mae'r sesiynau wedi cael effaith gadarnhaol enfawr arna i; dyma'r hapusaf a'r mwyaf optimistaidd rydw i wedi bod yr holl flwyddyn."

Dywedodd myfyriwr arall wrth y trefnwyr: "Cyn therapi syrffio roeddwn i'n bryderus iawn, heb syniad o ran beth fyddai'r dyfodol yn ei gyflwyno imi. Roeddwn i bob amser yn meddwl am fy mhroblemau ac roedd hi’n teimlo fel bod fy mywyd yn troi o'u hamgylch nhw.

"Ond trwy fynd i syrffio, roeddwn i bob amser yn gwybod bod rhywbeth da'n aros amdana i ar ddiwedd yr wythnos. Roeddwn i'n edrych ymlaen ato a phan roeddwn i o dan straen, byddwn i bob amser yn meddwl 'bydda i'n teimlo'n well ar ôl syrffio'. Bydda i'n parhau i syrffio, ac rydw i mor ddiolchgar am y cyfle hwn."

Roedd yr holl fyfyrwyr o'r farn bod y sesiynau'n fuddiol. "Rydw i wedi cael fy ysbrydoli ac rydw i'n llawer mwy optimistaidd am dreulio mwy o amser yn yr awyr agored. Roedd rhoi cynnig ar weithgaredd newydd yn hwb mawr a hyd yn oed ar ôl dim ond un sesiwn, rydw i'n awyddus iawn i ddod yn ôl a pharhau i syrffio." ychwanegodd myfyriwr arall.

Bellach mae cynlluniau ar y gweill ar gyfer rhagor o weithgareddau awyr agored a digwyddiadau chwaraeon, yn enwedig i unigolion niwroamrywiol a'r rhai hynny sy'n chwilio am ffyrdd amgen o gadw'n actif.

At hynny, mae'r cyllid wedi galluogi'r Athro Ann John a'i thîm o ymchwilwyr yn yr Ysgol Feddygaeth i barhau i archwilio iechyd meddwl pobl ifanc, gan gynnwys atal hunanladdiad a hunan-niwed.

Mae'r rhoddion hefyd wedi cefnogi rhaglen arbennig sy'n helpu myfyrwyr nyrsio'r Brifysgol i feithrin y gwydnwch y mae arnynt ei angen i ymdopi â phwysau eu gyrfaoedd newydd.  Mae'r arian wedi talu am bensetiau VR sydd bellach yn cael eu defnyddio ar gyfer sesiynau ymwybyddiaeth ofalgar a rheoli straen llwyddiannus.

Dywedodd Pennaeth Datblygu ac Ymgysylltu Prifysgol Abertawe, Rachel Thomas: "Mae pob milltir yn gwneud gwahaniaeth ac rydym yn gobeithio y bydd clywed am y pethau y mae eu rhoddion wedi'u hariannu hyd yn hyn yn gymhelliad perffaith i redwyr eleni wrth iddynt symud tuag at y llinell derfyn.

"Rydym wedi cael cefnogaeth anhygoel gan aelodau'n tîm rhagorol yn Abertawe dros y ddwy flynedd ddiwethaf ac rydym am i redwyr 2025 wybod pa mor bwysig y bydd eu nawdd nhw hefyd."

Hyd yn oed os nad ydych chi'n rhedeg, gallwch chi gefnogi Tîm Abertawe o hyd drwy roi rhodd yma neu beth am ddod ar y diwrnod i gefnogi'r rhedwyr? Mae rhagor o wybodaeth am y ras a'r llwybr ar gael yma.  

 

Rhannu'r stori