Chwech o fenywod yn sefyll ochr yn ochr o flaen awditoriwm, dwy yn dal placardiau

O'r chwith: Lauren Henderson (Prifysgol Abertawe), Dr Liz Gregory (Parent-Infant Foundation), Dr Jacky Tyrie (Prifysgol Abertawe), Anna Westall (Plant yng Nghymru), Sarah Witcombe-Hayes (NSPCC), a Tina Taylor (Cyngor Sir Gâr).

Mae Prifysgol Abertawe a Phlant yng Nghymru wedi lansio menter newydd sydd â'r nod o amlygu a diogelu anghenion babanod.

Mae'r Adduned i Fabanod yng Nghymru, a gyhoeddwyd yng nghynhadledd Rhwydwaith Hawliau Plant yn y Blynyddoedd Cynnar (CREY)  eleni, yn galw ar bob unigolyn, gweithiwr proffesiynol a sefydliad sy'n ymwneud â bywydau babanod i ymrwymo i gydnabod eu hanghenion, eu profiadau a'u safbwyntiau unigryw ym mhob penderfyniad sy'n effeithio arnynt.

Fe'i datblygwyd i dynnu sylw at safbwynt y baban, gan roi cyfle i bawb sy'n gofalu am fabanod a'u teuluoedd ac yn gweithio gyda nhw i gydnabod, gwerthfawrogi ac ymateb i leisiau ac anghenion babanod.

Dan arweiniad Dr Jacky Tyrie, o Ysgol Y Gwyddorau Gymdeithasol ym Mhrifysgol Abertawe, ac Anna Westall, o Plant yng Nghymru, fe'i hariannwyd ar y cyd gan Gronfa Cyfrifon Cyflymu Effaith Prifysgol Abertawe a Phlant yng Nghymru.

Cyd-luniwyd yr adduned gan Rwydwaith Hawliau Plant yn y Blynyddoedd Cynnar, gan ymgynghori â gweithwyr proffesiynol, rhieni/gofalwyr a'u babanod. Bu grŵp llywio arbenigol hefyd yn cynghori ac yn arwain y broses ymgynghori a datblygu.

Dan arweiniad Rhwydwaith Hawliau Plant yn y Blynyddoedd Cynnar, roedd y broses ddatblygu yn cynnwys dwy rownd o waith ymgynghori, gan sicrhau bod yr Adduned wir yn adlewyrchu’r hyn sydd bwysicaf i fabanod ac i’r rhai sy’n eu cefnogi. Mae'n annog oedolion i wrando ar fabanod mewn rhyngweithiadau bob dydd, mewn lleoliadau gofal, ac wrth wneud penderfyniadau ehangach ynghylch gwasanaethau a pholisi.

Mae'r Adduned yn cydnabod rôl cymunedau wrth gefnogi teuluoedd a phwysigrwydd cefnogi oedolion i ddiwallu anghenion babanod. Mae'r tîm sydd wrth wraidd y gwaith hwn yn dweud bod y lansiad yn nodi dechrau ymgyrch ehangach i ymgorffori llais y baban mewn polisi ac ymarfer ledled Cymru.

Gwnaeth Gweinidog Plant a Gofal Cymru Dawn Bowden, a fynychodd y gynhadledd, dynnu sylw at bwysigrwydd hawliau plant ifanc a gwaith y Rhwydwaith.

Mae'r cam cyntaf hwn yn gwahodd pawb – o rieni a gofalwyr i ymarferwyr a'r rhai sy'n gwneud penderfyniadau – i gadarnhau eu hymrwymiad i roi babanod wrth wraidd penderfyniadau.

Darllenwch yr adduned a darganfod mwy

 

Rhannu'r stori