Awduron y rhestr fer

Mae rhestr fer y wobr uchel ei bri, Gwobr Stori Fer Rhys Davies 2025, wedi’i cyhoeddi.

Mae'r wobr hon yn cydnabod y straeon byrion gorau, nad ydynt wedi cael eu cyhoeddi, yn Saesneg ac sydd wedi eu hysgrifennu mewn unrhyw ffurf ac ar unrhyw bwnc, heb fod yn hwy na 5,000 o eiriau. Rhaid iddynt gael eu hysgrifennu gan ysgrifenwyr 18 oed neu'n hŷn a anwyd yng Nghymru, sydd wedi byw yng Nghymru am o leiaf ddwy flynedd, neu sydd yn byw yng Nghymru ar hyn o bryd.

Mae Cystadleuaeth Stori Fer Rhys Davies, a sefydlwyd ym 1991, wedi cael ei chynnal 12 o weithiau hyd yn hyn. Yn 2021, cafodd y gystadleuaeth ei hail-lansio gan Sefydliad Diwylliannol Prifysgol Abertawe ar ran Ymddiriedolaeth Rhys Davies ac mewn cydweithrediad â Parthian Books.

Rhestr fer 2025:

  • At Friday Club gan Ralph Bolland
  • Colonial Gifts gan Alan Bryant
  • Swim gan Miranda Davies
  • Politics gan Jonathan Edwards
  • Activity Week gan Sybilla Harvey
  • Fern Baby gan Natalie Ann Holborow
  • Fat Slug Lady gan Sian Hughes
  • Dead Friend's Coat gan Kate Lockwood Jefford
  • The Man on the Train gan Keza O'Neill
  • Last Words gan Jonathan Page
  • The Readers gan Jonathan Page
  • Fruits of Our Labour gan Tess Powell

Bydd yr enillydd yn derbyn £1,000 a bydd ei waith yn cael ei gynnwys yn The Rhys Davies Short Story Award Anthology 2025, a gyhoeddir gan Parthian Books ym mis Hydref 2025. 

Caiff y deuddeg stori eu cynnwys yn antholeg 2025, a gyhoeddir gan Parthian. Wedi'i olygu gan Dr Elaine Canning, Cyfarwyddwr Sefydliad Diwylliannol Prifysgol Abertawe, bydd y casgliad hefyd yn cynnwys cyflwyniad gan yr awdur ffuglen uchel ei bri a'r beirniad gwadd, Cynan Jones. Bydd yr ysgrifenwyr sydd wedi cyrraedd y rhestr fer hefyd yn derbyn £100.

Dywedodd Cynan Jones: "Wrth ddarllen y ceisiadau a dderbyniwyd eleni, sylweddolais ar yr anniddigrwydd a oedd yn taflu cysgod dros lawer o'r straeon, p'un a oedd hynny mewn modd cynnil neu'n amlwg. Roedd yr ymdeimlad o ysgrifennu i fyd ansicr yn ymdeimlad a rennir gan y ceisiadau. Mae'r deuddeg darn a gyrhaeddodd y rownd derfynol yn delio â’r anniddigrwydd hwn mewn ffyrdd gwahanol, weithiau'n anarchaidd, weithiau'n deimladwy neu'n greulon neu'n ystyrlon. Weithiau, roedd yr awdur yn delio â’r anniddigrwydd yn obeithiol a chyda boddhad tanseiliol. Ond ym mhob achos, roedd uchelgais yn y naratif a sgìl i'w weld yn y geiriau eu hunain. Roeddwn i'n chwilio am straeon cofiadwy. Am straeon a oedd yn aros yn y cof. Ac ar ôl beirniadu'r wobr hon, mae un peth yn glir. Os oes yna anniddigrwydd, mae gan Gymru yr awduron i fynd i'r afael ag ef. Dyma enghreifftiau amlwg o'r effaith y gall stori fer ei chael".

Dywedodd Dr Canning, golygydd yr antholeg: Mae'r straeon ar restr fer Cystadleuaeth Stori Fer Rhys Davies 2025 yn mynd â’r darllenydd i le a chyfnod gwahanol, gan amlygu heriau amgylcheddol, ein perthynas â’r byd naturiol ac effaith bydoedd newydd, annisgwyl.  Mae'r rhain yn straeon grymus a gwreiddiol am hiraeth, cyfeillgarwch, teulu, eiddilwch a chariad. Mae'n fraint medru cynnwys gwaith yr ysgrifenwyr a gyrhaeddodd y rownd derfynol mewn antholeg arbennig sy'n benodol ar gyfer y Gystadleuaeth hon - llongyfarchiadau mawr iddyn nhw".

Ganwyd Rhys Davies ym Mlaenclydach yn y Rhondda ym 1901, ac roedd ymysg yr ysgrifenwyr mwyaf ymroddedig, toreithiog a dawnus o Gymru a oedd yn ysgrifennu rhyddiaith drwy gyfrwng y Saesneg. Ysgrifennodd fwy na 100 o straeon, 20 o nofelau, tair nofel fer, dau lyfr topograffigol am Gymru, dwy ddrama, a hunangofiant.

Cyhoeddir yr enillydd ym mis Medi 2025, a chaiff yr antholeg ei lansio ddydd Iau 23 Hydref yn Waterstones Abertawe, yng nghwmni awduron y rhestr fer a'r enillydd cyffredinol, ynghyd â’r golygydd, Elaine Canning, y beirniad gwadd, Cynan Jones, a Chyfarwyddwr Parthian, Richard Davies.

Gweler antholeg 2024 A Dictionary of Light: The Rhys Davies Short Story Award Anthology.

Rhannu'r stori