Ms Angvara Akarathiti, Cyfarwyddwr Marchnata Ysgol Finn; Fiona Jordan, Deon Cysylltiol Rhyngwladol Cyfadran y Dyniaethau a'r Gwyddorau Cymdeithasol, Prifysgol Abertawe; Mr Kawin Panprasittiwech, Prif Swyddog Gweithredol a Sylfaenydd, Ysgol Finn; a Dr Prinn Sukriket, Cyfarwyddwr Academaidd a Sylfaeny

Ms Angvara Akarathiti, Cyfarwyddwr Marchnata Ysgol Finn; Fiona Jordan, Deon Cysylltiol Rhyngwladol Cyfadran y Dyniaethau a'r Gwyddorau Cymdeithasol, Prifysgol Abertawe; Mr Kawin Panprasittiwech, Prif Swyddog Gweithredol a Sylfaenydd, Ysgol Finn; a Dr Prinn Sukriket, Cyfarwyddwr Academaidd a Sylfaenydd, Ysgol Finn.

Mae Prifysgol Abertawe wedi llofnodi Memorandwm o Ddealltwriaeth gydag Ysgol Busnes a Thwristiaeth Finn yng Ngwlad Thai a fydd yn paratoi'r ffordd i'w myfyrwyr ymuno â'r rhaglen BSc Rheoli Busnes Byd-eang. 

Yn y cytundeb cyntaf o'i fath ar gyfer Prifysgol Abertawe a Gwlad Thai, bydd myfyrwyr o Ysgol Finn yn Bangkok, sy'n cwblhau eu Diploma Uwch, yn ymuno â blwyddyn olaf y rhaglen BSc Rheoli Busnes Byd-eang (Atodol).

Bydd y garfan gyntaf  yn cyrraedd Abertawe ym mis Medi eleni a bydd carfanau ychwanegol yn ymuno â'r Brifysgol wrth i'r bartneriaeth ddatblygu.

Llofnodwyd y Memorandwm o Ddealltwriaeth yn ystod ymweliad diweddar â Champws y Bae Prifysgol Abertawe gan gynrychiolwyr Ysgol Finn ac mae disgwyl iddo atgyfnerthu cysylltiadau rhyngwladol y Brifysgol, yn enwedig yn ne-ddwyrain Asia, a bydd yn dod â dawn byd-eang newydd i gampysau Abertawe.

Meddai Kawin Panprasittiwech, Rheolwr Gyfarwyddwr a Sylfaenydd Ysgol Busnes a Thwristiaeth Finn: 

"Mae'r bartneriaeth rhwng Ysgol Finn a Phrifysgol Abertawe yn golygu mwy na chysylltiad rhwng dau sefydliad. Mae'n gam arwyddocaol tuag at ehangu cyfleoedd addysgol i fyfyrwyr Thai, gan eu galluogi i gael mynediad gwirioneddol at addysg o'r radd flaenaf. Rydym yn credu'n gryf mai addysg o safon yw'r sylfaen ar gyfer meithrin dinasyddion byd-eang galluog a chyfrifol, a fydd yn dychwelyd â gwybodaeth, sgiliau a safbwyntiau rhyngwladol i ysgogi cynnydd cynaliadwy yn ein cymdeithas."

Meddai'r Athro Judith Lamie, Dirprwy Is-ganghellor dros Ymgysylltu Rhyngwladol ym Mhrifysgol Abertawe:

"Rydym yn falch iawn o ffurfioli ein partneriaeth ag Ysgol Busnes a Thwristiaeth Finn drwy'r cytundeb cydweddu newydd hwn. Mae'r cydweithrediad hwn yn adlewyrchu ymrwymiad Prifysgol Abertawe i ddarparu addysg o ansawdd uchel, sy'n hygyrch yn fyd-eang ac i feithrin llwybrau rhyngwladol sy'n cefnogi symudedd myfyrwyr a rhagoriaeth academaidd. Roedd yn bleser croesawu ein cydweithwyr o Ysgol Finn ar y campws - roedd eu hymweliad yn gam pwysig i gryfhau ein perthynas a chreu'r sylfaen ar gyfer partneriaeth lwyddiannus a pharhaol."

Rhannu'r stori