Mae Dr Emrys Evans, o Adran Gemeg Prifysgol Abertawe, wedi ennill Gwobr Gyrfa Gynnar Cemeg Deunyddiau am gyfraniadau arloesol at ddatblygu a nodweddu deunyddiau ymoleuol yn seiliedig ar radicalau organig, i'w defnyddio mewn dyfeisiau allyrru golau a thechnolegau cwantwm newydd.

Mae'r Gymdeithas Gemeg Frenhinol (RSC) wedi cyhoeddi bod ymchwilydd o Abertawe yn un o enillwyr ei gwobrau Ymchwil ac Arloesi 2025, sy'n dathlu pobl eithriadol sy'n hyrwyddo'r gwyddorau cemegol ar draws diwydiant a'r gymuned academaidd.

Mae Dr Emrys Evans, o Adran Gemeg Prifysgol Abertawe, wedi ennill Gwobr Gyrfa Gynnar Cemeg Deunyddiau am gyfraniadau arloesol at ddatblygu a nodweddu deunyddiau ymoleuol yn seiliedig ar radicalau organig, i'w defnyddio mewn dyfeisiau allyrru golau a thechnolegau cwantwm newydd. Mae Dr Evans hefyd yn derbyn £3,000 a medal.

Mae ei dîm ymchwil yng Nghanolfan Deunyddiau Lled-ddargludol Integreiddiol (CISM)  Abertawe, lle maen nhw'n defnyddio arbrofion laser i astudio llif ynni ac electronau mewn moleciwlau a rhyngddynt trwy fonitro amsugniad ac allyriadau golau gan ddechrau o bicoeiliad (miliwn-filiwnfed o eiliad). Datgelir strwythur electronig sylfaenol y deunyddiau drwy astudio effaith meysydd magnetig ar lefelau ynni a'r ddeinameg ffotogyffroi sy'n deillio o hynny.

Mae Dr Evans a'i dîm wedi datblygu radicalau carbon ymoleuol gydag allyriadau sy'n galluogi deuodau allyrru golau organig (OLEDs) hynod effeithlon ar gyfer cymwysiadau posibl mewn arddangosfeydd a delweddu.

Mae ei waith ar ddylunio cyflyrau cysylltiedig aml-electron mewn moleciwlau yn galluogi cymwysiadau posibl mewn synwyryddion uwch o amgylcheddau lleol (maes magnetig / trydanol, tymheredd) y gellid eu defnyddio mewn astudiaethau yn y dyfodol o ddeunyddiau a mecanweithiau biolegol.

Meddai Dr Emrys Evans, wrth dderbyn y wobr:

‘Mae’n anrhydedd mawr derbyn y wobr hon ac rwyf am gydnabod yr ymdrech dîm wych: pob myfyriwr, ymchwilydd, cydweithiwr a mentor o'r gorffennol i'r presennol. Mae'n fraint i mi fod yn wyddonydd ac yn gemegydd; bob dydd yn gweithio ar bynciau rwy'n credu sy'n ddiddorol ac yn bwysig; a gyda'i gilydd yn archwilio ac yn gwthio ffiniau maes. Mae'r tîm yn ei gwneud hi'n bosibl. Diolch yn fawr!’

Meddai'r Athro David Smith FRSC, Dirprwy Is-Ganghellor a Deon Gweithredol y Gyfadran Gwyddoniaeth a Pheirianneg a Chadeirydd Bwrdd Safonau Proffesiynol y Gymdeithas Gemeg Frenhinol:  

‘Mae’r wobr hon gan y Gymdeithas Gemeg Frenhinol yn gydnabyddiaeth haeddiannol i Emrys am ei waith arloesol ar ddatblygu a nodweddu deunyddiau ymoleuol.’ Mae hwn yn gamp eithriadol, sy'n amlygu cyfraniad rhagorol Emrys at gemeg deunyddiau.’

 

Rhannu'r stori