Grŵp o 25 o bobl o oedrannau cymysg yn sefyll mewn ystafell o flaen efelychydd hedfan

Rhoddodd myfyrwyr awyrofod eu sgiliau ar brawf mewn cystadleuaeth gyda'r nod o dynnu sylw at eu doniau technolegol – ac unwaith eto cipiodd Prifysgol Abertawe'r brif wobr.

Ymunodd y Brifysgol ag ST Engineering Antycip (Antycip), mewn cydweithrediad â Merlin Flight Simulation Group, i gynnal cystadleuaeth Dylunio a Thrin Awyrennau IT FLIES UK 2025.

Rhoddodd y digwyddiad blynyddol gyfle unigryw i fyfyrwyr arddangos eu creadigrwydd a'u harbenigedd technegol wrth brofi eu dyluniadau o awyrennau ar efelychwyr hedfan o'r radd flaenaf. Gan ddefnyddio meddalwedd efelychu hedfan Excalibur Merlin, roedd cyfranogwyr yn profi sut mae eu cysyniadau yn perfformio mewn gwahanol senarios hedfan, gyda gwerthusiadau gan beilotiaid prawf profiadol.

Bu tîm Abertawe, FlyGrow Butterfly, yn fuddugol ar ôl cystadlu yn erbyn cyd-fyfyrwyr o'r Gyfadran Gwyddoniaeth a Pheirianneg yn ogystal â thimau o Brifysgol De Cymru a Phrifysgol y Gwyddorau Cymhwysol Amsterdam.

Dyma'r enillwyr:

  • Y Dyluniad Awyrennau Gorau – FlyGrow Bumblebee, Prifysgol Abertawe
  • Yr Awyren Arloesol Orau – Little Red Dragon, Prifysgol De Cymru
  • Cyflwyniad Gorau – FlyGrow Bumblebee, Prifysgol Abertawe

Meddai Ben Evans, Athro Peirianneg Awyrofod: "Rydym wrth ein boddau bod tîm Prifysgol Abertawe wedi gwneud mor dda yn y gystadleuaeth unwaith eto. Rydym yn mwynhau cynnal y digwyddiad yn fawr a chael cyfle i dynnu sylw at ein perthynas hirsefydlog ag Antycip a'r gyfres o offer efelychu hedfan Merlin y mae wedi'i darparu."

"Rydym yn hynod falch o'n rhaglenni gradd awyrofod ac mae rhoi cyfle i fyfyrwyr – o Abertawe a thu hwnt – ddefnyddio ein cyfleusterau a'n hefelychwyr bob amser yn gyffrous. Unwaith eto, gwnaethant ddangos sgiliau a dyfeisgarwch mawr drwy gydol y gystadleuaeth a gobeithiwn y bydd yn eu paratoi ar gyfer gyrfaoedd llwyddiannus mewn peirianneg awyrofod."

Meddai Amir Khosh, Rheolwr Merlin yn Antycip: "Llongyfarchiadau i Brifysgol Abertawe ar berfformiad rhagorol yn y 25ain gystadleuaeth IT FLIES UK. Roedd eich ymrwymiad i arloesi a dysgu cymhwysol yn amlwg ym mhob dyluniad a chyflwyniad. Yn Antycip, rydym yn falch o gefnogi eich taith drwy ddysgu dan arweiniad efelychu ac o weld effaith efelychydd hedfan Merlin wrth feithrin y genhedlaeth nesaf o beirianwyr awyrofod."

Rhagor o wybodaeth am astudio peirianneg awyrofod ym Mhrifysgol Abertawe

 

Rhannu'r stori