Llun o'r ddirprwyaeth o Brifysgol Dechnegol Nanjing gyda chydweithwyr Prifysgol Abertawe yn Abaty Singleton, Campws Singleton.

Cytunwyd ar drefniant addysg drawswladol (TNE) nodedig i sefydlu Sefydliad Addysg ar Cyd (JEI) rhwng Prifysgol Abertawe a Phrifysgol Dechnoleg Nanjing (NJTU), Tsieina, a fydd yn cyflwyno ystod o raglenni gradd a dyma'r mwyaf o'i fath ar gyfer Abertawe.

Bydd y cytundeb uchelgeisiol yn golygu bod y JEI yn cyflwyno ddwywaith nifer y rhaglenni israddedig ac ôl-raddedig a addysgir ynghyd â rhaglen gradd ddoethurol Abertawe.  Bydd y graddau dwbl israddedig yn cael eu lansio ym mis Medi 2025 a'r ddarpariaeth ôl-raddedig a addysgir a PhD yn dilyn ym mis Medi 2026.

Bydd y cydweithrediad hwn yn galluogi myfyrwyr i astudio gradd sydd wedi'i chyd-ddylunio a'i hasesu'n llwyr yn NJTU gyda thiwtora wyneb yn wyneb gan staff Abertawe ac NJTU mewn lle dynodedig ar gampws NJTU.  Bydd myfyrwyr yn cwblhau un rhaglen astudio ond yn derbyn dwy radd ar wahân - un oddi wrth bob prifysgol.  Bydd y rhaglen PhD a ddyfernir gan Abertawe'n cael ei chyflwyno a'i hasesu gan Brifysgol Abertawe, a darperir cymorth goruchwylio gan NJTU.

Bydd y rhaglenni ym meysydd Peirianneg a rhagwelir y bydd y JEI, pan fydd yn llawn, yn addysgu ac yn goruchwylio bron 1,200 o fyfyrwyr. Mae'r JEI wedi cael cymeradwyaeth lawn gan Weinyddiaeth Addysg Tsieina ac roedd cynnig Abertawe-Nanjing yn un o 11 cais gan y DU i'w cymeradwyo.

Mae'r Athro Jiawei Wang o Brifysgol Abertawe wedi cael ei benodi'n Is-ddeon y Sefydliad Addysg ar y Cyd, sy'n gyfrifol am faterion academaidd ac addysgu.  Meddai'r Athro Wang:

"Rwy'n falch o gefnogi'r cydweithrediad unigryw hwn rhwng Prifysgol Abertawe a Phrifysgol Dechnoleg Nanjing. Mae'r bartneriaeth hon yn gam sylweddol mewn addysg fyd-eang, gan gynnig profiad rhyngwladol go iawn i fyfyrwyr a'u harfogi â'r sgiliau sydd eu hangen arnynt i ffynnu mewn byd cysylltiedig".

Meddai'r Athro Paul Boyle, Is-ganghellor Prifysgol Abertawe:

"Rydym yn hynod falch bod yn bartner i Brifysgol Dechnoleg Nanjing, y mae ei harbenigedd mewn addysg drawswladol yn ei gwneud hi'n gydweithredwr delfrydol. Mae'n arbennig o ystyrlon i ni fod y ddau sefydliad yn aelodau o Gonsortiwm Prifysgolion Blaenllaw 20+20 Jiangsu–DU, rhwydwaith sy'n dangos yr ymrwymiad a rennir i ddatblygu ymchwil ac addysg fyd-eang. Rydym yn llawn cyffro am y daith o'n blaenau ac edrychwn ymlaen at feithrin perthynas agos a chydweithredol sy'n cynnig effaith barhaus i fyfyrwyr a staff, drwy addysgu ac ymchwil".

Rhannu'r stori