
Mae Prifysgol Abertawe wedi esgyn i'w safle uchaf erioed yn Nhablau uchel eu bri Prifysgolion y Byd QS 2026, gan sicrhau safle 292 a chadarnhau ei lle ymysg 300 o brifysgolion gorau'r byd.
Mae hyn yn amlygu'r twf cyson dros y pum mlynedd diwethaf, gydag Abertawe'n esgyn 182 o safleoedd ers 2021, pan roedd yn safle 474.
Mae tabl cynghrair byd-eang QS Quacquarelli Symonds, sy’n dadansoddi addysg uwch, yn rhestru mwy na 1,500 o sefydliadau byd-eang blaenllaw ar draws naw categori allweddol: enw da academaidd, dyfyniadau fesul cyfadran, canlyniadau cyflogaeth, enw da ymysg cyflogwyr, y gymhareb rhwng myfyrwyr a staff academaidd, staff academaidd rhyngwladol, rhwydweithiau ymchwil rhyngwladol, myfyrwyr rhyngwladol a chynaliadwyedd.
Mae llwyddiant diweddaraf Abertawe o ganlyniad i gyflawniadau cryf mewn nifer o feysydd, gan gynnwys:
- Cynaliadwyedd: safle 121
- Myfyrwyr Rhyngwladol: safle 221
- Enw Da Ymysg Cyflogwyr: safle 222
- Enw Da Academaidd: safle 248
Meddai'r Athro Paul Boyle, Is-ganghellor Prifysgol Abertawe: "Mae safle QS eleni'n adlewyrchiad clir o enw da cynyddol Prifysgol Abertawe'n fyd-eang ac yn dyst i ragoriaeth ac ymroddiad rhagorol ein staff. Mae esgyn i safle 292 a chadw'r safle ymysg 300 o brifysgolion gorau'r byd am yr ail flwyddyn yn olynol yn gyflawniad sylweddol, y gallwn fod yn hynod falch ohono.
"Mae'r cyflawniad hwn yn amlygu cryfder ein henw da academaidd, amrywiaeth ein cymuned ryngwladol a'n heffaith cynyddol mewn meysydd allweddol megis cynaliadwyedd. Rwy'n diolch o galon i bawb ar draws cymuned ein Prifysgol y mae eu hymrwymiad ar y cyd wedi gwneud y llwyddiant hwn yn bosib flwyddyn ar ôl blwyddyn.”