
Mae wyth ymchwilydd o Brifysgol Abertawe wedi'u henwi ymysg talent y dyfodol mwyaf addawol Cymru fel rhan o garfan Crwsibl Cymru 2025. (o’r chwith i’r dde Dr Marcos del Pozo Baños, Dr Fernando Maestre Avila, Dr Ana Sergio Da Silva, Dr Laura Cowley, Dr Katie Preece, Dr Aimee Drane, a Dr Gemma Morgan.)
Mae wyth ymchwilydd rhagorol o Brifysgol Abertawe wedi'u dewis ar gyfer Crwsibl Cymru 2025, rhaglen arobryn ar gyfer datblygu arweinwyr ymchwil y dyfodol yng Nghymru.
Bob blwyddyn, gwahoddir 30 o ymchwilwyr i gyfres o labordai sgiliau, sef gweithdai preswyl sydd â'r nod o wella effaith ymchwil, meithrin cydweithredu rhyngddisgyblaethol a meithrin gyrfaoedd ymchwil rhyngwladol.
Mae ymchwilwyr Prifysgol Abertawe sy’n rhan o raglen eleni'n arddangos rhagoriaeth academaidd ac arloesedd ar draws disgyblaethau amrywiol. Mae cymryd rhan yn amlygu eu potensial i wella datblygiadau ymchwil yng Nghymru a thu hwnt.
Yr ymchwilwyr o Brifysgol Abertawe yw:
- Dr Aimee Drane, Athro Cysylltiol ac Academydd Clinigol mewn Ecocardiograffeg yn yr Academi Iechyd a Llesiant, sy'n astudio sut mae'r system gardiofasgwlaidd yn addasu i amgylcheddau gwahanol a pha mor dueddol ydyw i gael clefyd drwy anghysondeb esblygiadol.
- Mae Dr Ana Sergio Da Silva, Athro Cysylltiol a Chyfarwyddwr y Rhaglen MSc/PhD mewn Addysg Feddygol yn Ysgol Feddygaeth Prifysgol Abertawe, yn ymchwilio sut mae addysg sy'n seiliedig ar dystiolaeth yn cyfrannu at ddatblygu gweithlu gofal iechyd cymwys a chynaliadwy ar gyfer y dyfodol.
- Mae Dr Laura Cowley, Swyddog Ymchwil a Gwyddonydd Data yn archwilio iechyd plant, gofal cymdeithasol, a chyfiawnder teuluol gan ddefnyddio data gweinyddol a modelu ystadegol. Ar hyn o bryd mae hi'n ymgymryd â Chymrodoriaeth Gofal Cymdeithasol a ariennir gan Ymchwil Iechyd a Gofal Cymdeithasol Cymru.
- Dr Marcos del Pozo Baños, Uwch-ddarlithydd yn Ysgol Feddygaeth Prifysgol Abertawe, y mae ei ymchwil bresennol yn ymwneud â gwyddor data iechyd meddwl, gan gynnwys atal hunanladdiad a hunan-niwed, ac iechyd meddwl plant a phobl ifanc.
- Mae Dr Katie Preece, Uwch-ddarlithydd Daearyddiaeth, yn fylcanolegwr ac yn ddaearegwr sy'n integreiddio astudiaethau maes â phetroleg, geocronoleg a geocemeg i ymchwilio i hanes a deinameg echdoriadau.
- Mae Dr Gemma Morgan, Athro Cysylltiol Troseddeg, yn ymchwilio i ymatal, technoleg ddigidol yn y system cyfiawnder troseddol a chyfiawnder ieuenctid. Dyfarnwyd Ysgoloriaeth Fulbright iddi, a chyd-datblygodd yr ap My Journey i gefnogi unigolion sy'n pontio o'r carchar yn y DU.
- Mae Dr Fernando Maestre Avila, Darlithydd Cyfrifiadureg, yn archwilio dulliau Rhyngweithio rhwng Pobl a Chyfrifiaduron gyda chymunedau ymylol, gan sicrhau bod dyluniad technoleg yn cryfhau eu lleisiau ac yn lliniaru effeithiau negyddol.
- Mae Dr Mayara Silveira Bianchim, Swyddog Ymchwil ym Mhrifysgol Bangor, yn Gymrawd Ymchwil er Anrhydedd yn y Ganolfan Iechyd Poblogaethau ym Mhrifysgol Abertawe, sy'n arbenigo mewn gwerthuso realaidd ac ymchwil iechyd gymhwysol. Mae ei gwaith yn canolbwyntio ar gyd-gynhyrchu a gwella gwasanaethau i blant a phobl ifanc â phoen cronig.
Meddai'r Athro Helen Griffiths, Dirprwy Is-ganghellor Ymchwil ac Arloesi: "Rydym yn falch iawn o gymuned ymchwil Prifysgol Abertawe, ac mae'n wych gweld cynifer o'n hymchwilwyr wedi’u dewis ar gyfer Crwsibl Cymru 2025.
"Mae'r cyfranogiad hwn yn amlygu ein hymrwymiad i gydweithredu rhyngddisgyblaethol a rhagoriaeth ymchwil, a bydd yn darparu datblygiad arweinyddiaeth amhrisiadwy, cyfleoedd rhwydweithio a phlatfform i fynd i'r afael â heriau lleol a byd-eang."
Mae Crwsibl Cymru’n fenter ar y cyd a ariennir gan gonsortiwm o sefydliadau addysg uwch yng Nghymru a Chomisiwn Addysg Drydyddol ac Ymchwil Cymru (Medr).