ss

Nod prosiect arloesol gwerth £22 miliwn dan arweiniad Prifysgol Abertawe yw chwyldroi cadwyn gyflenwi dur y Deyrnas Unedig, gan wella'r seilwaith ffisegol a diogelwch cenedlaethol.

Bydd y prosiect amserol hwn, o'r enw IGNITE, yn archwilio sut y gall ymchwil prifysgol arloesol gyflymu datgarboneiddio diwydiannol yn niwydiant gweithgynhyrchu'r Deyrnas Unedig. Y prif nod yw cyflwyno cadernid strategol, amgylcheddol ac economaidd ar gyfer meysydd strategol allweddol economi gweithgynhyrchu'r Deyrnas Unedig gan gynnwys amddiffyn, trafnidiaeth ac ynni.

Gyda galw cynyddol y Deyrnas Unedig am ddur gwyrdd yn rhagori ar y cyflenwad domestig, nod IGNITE yw hybu cynhyrchu dur domestig, lleihau allyriadau a chefnogi modelau busnes carbon isel. Bydd yn datblygu ffyrdd mwy craff o reoli, olrhain ac ailgylchu cyflenwad toreithiog y Deyrnas Unedig o sgrap o ansawdd uchel wrth ail-lunio dyluniad a defnydd dur i gynnal ansawdd ac ymestyn oes cynnyrch.

Daw'r enw IGNITE o'i deitl Saesneg, Indigenous Green-steel for Net-zero Innovation, Technology and Enterprise. O dan arweiniad yr Athro Peirianneg Deunyddiau o Brifysgol Abertawe, Cameron Pleydell-Pearce, fe'i hariennir gan fuddsoddiad o £11M gan y Cyngor Ymchwil Peirianneg a'r Gwyddorau Ffisegol (EPSRC) fel rhan o'u rhaglen flaenllaw, Canolfannau Ymchwil Gweithgynhyrchu Cynaliadwy. Mae'n cael ei ategu gan £11.9M o gyllid partner. 

Mae'r prosiect yn dwyn ynghyd bartneriaid ar draws y gadwyn gyflenwi, gan gynnwys gwneuthurwyr dur, proseswyr sgrap, defnyddwyr dur, llunwyr polisi ac arbenigedd prifysgol amlddisgyblaethol. Mae ei raglen ymchwil saith mlynedd wedi'i chynllunio i drawsnewid gweithgynhyrchu sy'n ddwys o ran dur.

Bydd Prifysgol Abertawe yn arwain y rhwydwaith mewn cydweithrediad â Phrifysgolion Caerlŷr, Sheffield, a Warwick.  Mae dros 30 o bartneriaid strategol gan gynnwys British Steel, Network Rail, Nissan a Rolls-Royce.

Dywedodd yr athro Cameron Pleydell-Pearce o Brifysgol Abertawe, Cyfarwyddwr y Ganolfan:

"Nid yw dur erioed wedi bod yn bwysicach i'r Deyrnas Unedig; mae'n ddeunydd allweddol ym mywyd beunyddiol. Os nad yw rhywbeth wedi'i wneud o ddur, mae wedi'i wneud gan ddefnyddio dur. 

Bydd Canolfan IGNITE yn rhoi'r cyfle inni weithio gyda diwydiant, gan gefnogi cadernid sector gweithgynhyrchu'r Deyrnas Unedig wrth geisio cyflawni sero net. Bydd y prosiect arloesol hwn o fudd i bawb sy'n dibynnu ar gynnyrch dur ac yn eu defnyddio.”

Mae mwy o wybodaeth ar gael yma

Rhannu'r stori