Ardal o ddŵr mewndirol gyda chreigiau a mynydd yn y cefndir yn erbyn awyr las

Mae astudiaeth newydd gan Brifysgol Abertawe'n canolbwyntio ar ba mor effeithiol mae ardaloedd gwarchodedig wrth ddiogelu cynefinoedd a'r rhywogaethau sy'n byw ynddynt.

Mae sefydlu ardaloedd gwarchodedig wedi dod yn flaenoriaeth gadwriaethol i liniaru'r argyfwng difodiant. Mae'r strategaeth wedi gwella agweddau penodol ar fioamrywiaeth gan gynnwys helaethrwydd a chyfoeth rhywogaethol ar draws ecosystemau. Fodd bynnag, roedd ymchwilwyr o Adran y Biowyddorau eisiau meithrin dealltwriaeth well o sut mae'r ardaloedd hyn yn helpu wrth ddiogelu gweoedd bwyd cyfan: rhwydweithiau o ryngweithiadau ecolegol sy'n canolbwyntio ar berthnasoedd ysglyfaethwr-ysglyfaeth.

Gwnaeth yr astudiaeth ddadansoddi cannoedd o filoedd o gofnodion arsylwadol gwyddoniaeth dinasyddion o gronfeydd data ar-lein megis eBird o 509 o rywogaethau adar wedi'u dosbarthu ar draws 45 o rwydweithiau o ardaloedd gwarchodedig Ewropeaidd wedi'u lleoli o Sbaen i'r Ffindir.  Gwnaethon nhw gyfuno'r data arsylwadol hwn â gwybodaeth am berthnasoedd ysglyfaethwr-ysglyfaeth rhwng y rhywogaethau hyn.

Cymharodd y tîm weoedd bwyd mewn amgylchoedd gwarchodedig yn erbyn rhai anwarchodedig, mewn perthynas ag unrhyw wahaniaethau o ran amodau amgylcheddol, daearyddol a statws cadwraethol yr ardaloedd gwarchodedig.  Roedd y rhain yn cynnwys ffactorau megis pellenigrwydd, amrywiaeth y cynefinoedd, canran y tir a oedd yn goedwigoedd, amaethyddiaeth, pwysau yn sgîl pobl neu ddynodiad penodedig yr ardaloedd gwarchodedig.

Cyhoeddwyd eu canfyddiadau gan y cyfnodolyn o fri Proceedings B of the Royal Society.

Canfu'r gwyddonwyr er bod diogelwch yn cael effaith gadarnhaol ar rai priodweddau gweoedd bwyd, yn gyffredinol, roedd yr effeithiau hyn yn gymysg ar draws bio-ranbarthau Ewropeaidd, heb dueddiadau cyson o ran a oedd gweoedd bwyd mewn sefyllfa well yn yr ardaloedd gwarchodedig neu'r tu allan iddynt.

Yn gyffredinol, roedd gan weoedd bwyd gwarchodedig fwy o rywogaethau, â chanran fwy o'r rhai hynny ar lefelau canolradd y we fwyd. Yn bwysig, roedd maint corff y rhywogaethau ysglyfaethwr mwyaf cyffredin a'r rhai canolradd yn fwy mewn ardaloedd gwarchodedig. Fodd bynnag, ar gyfer priodweddau gwe fwyd eraill megis hyd cymedrig cadwyni bwyd neu gysylltedd y rhwydwaith, nid oedd tueddiadau amlwg. 

Yn nhermau'r ffactorau sy’n sbarduno’r patrymau hyn, canfu'r awduron fod pellenigrwydd yr ardaloedd gwarchodedig, amrywiaeth eu cynefinoedd, pwysau yn sgîl pobl a'r ganran o dir amaethyddol yn cydberthyn yn agos â newidiadau mewn gweoedd bwyd. Yn ddiddorol, roedd effeithiau'r diogelwch yn gryfach mewn ardaloedd gwarchodedig fel rhan o fenter Cyfarwyddebau Adar Ewrop, gan amlygu pwysigrwydd bod â nodau rheoli clir mewn golwg wrth sefydlu ardaloedd gwarchodedig.

Dywedodd y Cyd-awdur Dr Miguel Lurgi, sydd hefyd yn arweinydd y Labordy Ecoleg Gyfrifiadol: "Mae astudiaethau fel ein hastudiaeth ni'n amlygu pwysigrwydd gweithredu dros gadwraeth a phwysigrwydd ystyried agweddau allweddol ar fioamrywiaeth y tu hwnt i gyfoeth rhywogaethol, megis rhyngweithiadau ecolegol a'r rhwydweithiau cymhleth maen nhw'n eu creu, wrth asesu bioamrywiaeth.

"Yn ogystal â strwythuro ein cymunedau a galluogi eu dyfalbarhad, mae'r rhwydweithiau hyn hefyd yn chwarae rolau pwysig yn y swyddogaethau y mae ecosystemau yn eu cyflawni ym myd natur."

Darllenwch y papur llawn Mixed effects of protected areas on avian food webs

Rhagor o wybodaeth am astudio'r Biowyddorau yn Abertawe

 

Rhannu'r stori