Babŵns yn cerdded mewn llinell

Mae ymchwilwyr ym Mhrifysgol Abertawe wedi darganfod bod babŵns yn cerdded mewn llinellau, nid er diogelwch neu strategaeth, ond yn syml i aros yn agos at eu ffrindiau.

Mae babŵns yn aml yn teithio mewn ffurfiannau llinell strwythuredig a elwir yn 'ddilyniannau' wrth iddynt symud drwy eu cartref. Roedd astudiaethau cynt yn cynnig esboniadau a oedd yn gwrthdaro dros yr ymddygiad hwn. Roedd rhai yn cynnig bod y drefn ar hap, tra bod eraill yn dadlau bod babŵns yn gosod eu hunain yn strategol, gydag unigolion sy'n agored i niwed yn y canol i leihau'r risg o ymosodiad.

Nawr, gan ddefnyddio tracio GPS ansawdd uchel, mae ymchwilwyr o Brifysgol Abertawe wedi ail-adolygu'r ymddygiad hwn mewn grŵp o fabŵns chacma gwyllt (Papio ursinus) ym mhenrhyn y Cape, De Affrica. Mae eu canfyddiadau, a gyhoeddwyd yn y cyfnodolyn Behavioural Ecolocy, yn dangos bod patrymau symudiad babŵns yn cael eu llywio gan glymau cymdeithasol yn hytrach na strategaethau goroesi.

Dadansoddodd y tîm 78 o ddilyniannau teithio a dangosant nad oedd y drefn y teithiodd y babŵns unigol ynddi ar hap.

Profodd yr ymchwilwyr pedwar esboniad posib am drefn dilyniant y babŵns:

  1. Amddiffyn y rhai sy'n agored i niwed (rhagdybiaeth risg)
  2. Cystadlu am adnoddau (rhagdybiaeth cystadleuaeth)
  3. Dilyn arweinwyr (rhagdybiaeth gwneud penderfyniad grŵp)
  4. Patrymau sy'n deillio o berthnasoedd cymdeithasol (rhagdybiaeth sbandrel cymdeithasol)

Ar ôl dadansoddi'r data, canfu'r ymchwilwyr fod patrymau symudiad y babŵns yn cael eu llywio gan y perthnasoedd cymdeithasol yn unig.

Meddai Dr Andrew King, Athro Cysylltiol ym Mhrifysgol Abertawe: "Yn syndod, nid yw'r drefn gyson rydym yn gweld yn y babŵns rydym wedi'u hastudio er mwyn osgoi perygl fel y gwelwn mewn ysglyfaeth wrth iddynt osod eu hunain yng nghanol eu grŵp cymdeithasol, neu er mwyn cael mynediad gwell at fwyd neu ddŵr fel y gwelwn mewn symudiadau'r sebra. Yn hytrach, mae'n cael ei llywio gan y rhai hynny mae ganddynt glymau cymdeithasol â nhw. Yn syml, maen nhw'n symud gyda'u ffrindiau, ac mae hyn yn creu trefn gyson."

Mae'r canfyddiad hwn yn cyflwyno'r cysyniad o 'sbandrel cymdeithasol'. Mewn adeiladau, sbandrel yw'r gofodau triongl sy'n sgil-gynnyrch wrth i fwâu gael eu gosod ochr yn ochr. Mewn bioleg, mae sbandrel yn cyfeirio at nodwedd sy'n cael ei chreu fel sgil-effaith rhywbeth arall, nid oherwydd ei bod wedi'i dewis yn uniongyrchol. Yn yr achos hwn, mae'r patrymau teithio cyson ymysg babŵns yn digwydd yn naturiol yn sgîl eu cysylltiadau cymdeithasol â'i gilydd, nid fel strategaeth sydd wedi esblygu er mwyn diogelwch na lwyddiant.

Meddai Marco Fele, awdur arweiniol yr astudiaeth a myfyriwr PhD ym Mhrifysgol Abertawe: "Rydym yn gwybod bod clymau cymdeithasol cryf yn bwysig i babŵns, - maent yn gysylltiedig â bywydau hirach a mwy o lwyddiant wrth atgenhedlu. Ond yn y cyd-destun hwn, nid yw'r clymau hyn at ddibenion penodol. Yn syml, mae’r drefn deithio rydym yn ei gweld yn sgîl-gynnyrch y perthnasoedd hynny, nid strategaeth sydd â manteision uniongyrchol. Mae ein hastudiaeth yn amlygu'r posibilrwydd i'r mathau hyn o sbandrel mewn ymddygiad torfol anifeiliaid."

Rhannu'r stori