
Mae'r Faner Werdd mawr ei bri yn chwifio ar ddau gampws Prifysgol Abertawe unwaith eto.
Mae'r Brifysgol ymhlith record o 315 o safleoedd i dderbyn Gwobr y Faner Werdd, sy'n wobr o fri rhyngwladol, a Gwobr Gymunedol y Faner Werdd gan Cadwch Gymru'n Daclus eleni.
Cafodd ei gydnabod am ei fannau gwyrdd hardd sy'n fuddiol i staff, myfyrwyr a'r gymuned ehangach yn ei gampysau yn Singleton a Bay.
Yn ogystal, cymeradwywyd y Brifysgol am ei gwaith cadwraeth eang sy'n cynnwys gwestai newydd i bryfed a blychau newydd i adar, ardaloedd i dyfu llysiau yn ogystal â blodau gwyllt a choed ffrwythau sydd wedi'u plannu gan wirfoddolwyr. Mae tegeirianau gwyllt, gloÿnnod byw prin a gwenyn wedi cael eu gweld ar ôl i ddolydd a lawntiau gael y cyfle i flaguro yn ystod mis Mai Di-dor. Yn ogystal, mae prosiect cofnodi iNaturalist wedi cael ei roi ar waith, sy'n rhoi'r cyfle i bobl gofnodi'r bywyd gwyllt y maen nhw'n ei weld o gwmpas y campws.
Mae staff talentog tiroedd y Brifysgol nid yn unig yn sicrhau bod y campysau'n edrych yn hardd, ond mae aelodau'r tîm hefyd wedi bod yn rhannu eu harbenigedd yn y gymuned drwy helpu i wella tiroedd Ysgol Gynradd Eglwys Gadeiriol San Joseff yn Abertawe.
Eleni, mae Campws Singleton unwaith eto wedi cael ei anrhydeddu fel Safle Treftadaeth Werdd, sy'n gwobrwyo safleoedd gwerthfawr sy'n dathlu eu harwyddocâd hanesyddol a diwylliannol ochr yn ochr â harddwch amgylcheddol. Daw'r wobr hon wrth i'r Brifysgol barhau â'i rhaglen cynnal a chadw a chadwraeth ar gyfer Abaty Singleton, lle mae ffenestri pren wedi cael eu hadnewyddu yn ogystal â thrwsio gwaith cerrig allanol a chynnal gwaith tirlunio ar y tir.
Dywedodd Niamh Lamond, Cofrestrydd a Phrif Swyddog Gweithredu Prifysgol Abertawe: “Rydym wrth ein boddau bod ein tiroedd arbennig wedi cael eu cydnabod unwaith eto. Er mai dyma'r wythfed flwyddyn yn olynol y bydd y faner yn chwifio uwch ein campysau, nid ydym yn cymryd yr anrhydedd hon yn ganiataol.
"Mae dim ond yn digwydd oherwydd holl waith caled, talent a chreadigrwydd ein tîm Ystadau a Gwasanaethau Campws drwy gydol y flwyddyn, gan sicrhau bod ein lleoedd awyr agored yn ffynnu ac yn parhau i gynnig amgylchedd arbennig iawn i'n staff, ein myfyrwyr a'r gymuned i'w fwynhau. Mae'r lliw a'r amrywiaeth syfrdanol o blanhigion yng ngerddi’r Abaty yn adlewyrchu'r gwaith helaeth i adfer y gerddi hanesyddol gwreiddiol o'r 19eg ganrif.”
Mae Gwobr y Faner Werdd, a sefydlwyd dros dri degawd yn ôl, yn cydnabod parciau a lleoedd gwyrdd sy'n derbyn gofal da iawn mewn 20 o wledydd ar draws y byd.
Dywedodd Lucy Prisk, Cydlynydd y Faner Werdd ar gyfer Cadwch Gymru'n Daclus: "Rydym wrth ein boddau’n gweld 315 o leoedd gwyrdd yng Nghymru yn ennill statws mawr ei bri y Faner Werdd, sy'n tystio i ymrwymiad a gwaith caled cannoedd o staff a gwirfoddolwyr.
"Mae lleoedd gwyrdd yn chwarae rôl hanfodol o ran lles corfforol a meddyliol pobl ar draws Cymru, ac mae cael ein cydnabod ymhlith y goreuon yn y byd yn gyflawniad enfawr - Llongyfarchiadau!"
Gweler y rhestr lawn o enillwyr
Cymerwch olwg fanylach ar ein lleoedd gwyrdd arobryn