
Mae ymchwil newydd wedi taflu goleuni ar y ffactorau niferus sy’n arwain at blant yn mynd i ofal y tu allan i’r cartref mewn gwledydd incwm uchel.
Cyhoeddwyd yr adolygiad cydweithredol yn Children and Youth Services Review Journal, ac mae wedi’i ariannu gan y Sefydliad Cenedlaethol dros Ymchwil Iechyd a Gofal (NIHR).
Mae plant sy’n mynd i ofal y tu allan i’r cartref, megis gofal maeth neu ofal preswyl, yn aml yn wynebu heriau parhaol, gan gynnwys cyflawniad is yn yr ysgol, cyfleoedd gwaith cyfyngedig, a risg uwch o anawsterau ymddygiadol.
Mae ymchwil yn awgrymu, er bod lleoliadau gofal yn gallu cynnig rhywfaint o sefydlogrwydd, nad ydynt yn gwrthweithio effeithiau anawsterau cynnar yn llwyr. Mae’r effaith yn ymestyn y tu hwnt i’r plentyn, gan effeithio ar deuluoedd a chymunedau, yn enwedig mewn ardaloedd difreintiedig lle mae lleoliadau gofal yn fwy cyffredin.
Cynhaliodd ymchwilwyr o CARELINK Cymru archwiliad systematig o adolygiadau i nodi’r prif ffactorau sy’n dylanwadu ar blant yn mynd i systemau gofal y tu allan i’r cartref cyn cyrraedd 18 oed, ac yn mynd yn ôl yno.
Dan arweiniad HDR UK Cymru, mae CARELINK Cymru yn dod ag ymchwilwyr blaenllaw ynghyd o Brifysgol Abertawe, Prifysgol Bangor, Iechyd Cyhoeddus Cymru, Prifysgol Caerdydd, a Phrifysgol Manceinion. Cefnogir y bartneriaeth gan ADR Cymru a’r Ganolfan Iechyd Poblogaethau.
Cyfunodd adolygiad y tîm ganfyddiadau o saith astudiaeth wedi’u hadolygu gan gymheiriaid rhwng 2013 a 2024, gan nodi’r prif ffactorau sy’n dylanwadu ar blant yn mynd i ofal y tu allan i’r cartref, gan ddangos sut mae elfennau'r plentyn, y teulu, y gymuned a'r system yn rhyngweithio mewn ffyrdd cymhleth.
Ffactorau risg:
- Ffactorau sy’n ymwneud â’r plentyn – anghenion iechyd, heriau emosiynol ac ymddygiadol, a phrofiadau sy’n gysylltiedig ag ethnigrwydd;
- Ffactorau teuluol – caledi ariannol ac anawsterau sy’n gysylltiedig â defnyddio sylweddau;
- Ffactorau cymunedol – byw mewn ardaloedd â llai o adnoddau, megis llai o wasanaethau cymorth; a
- Ffactorau sy’n ymwneud â’r system – cysylltiad blaenorol â gwasanaethau lles plant a newidiadau aml mewn lleoliadau gofal.
Ffactorau amddiffynnol:
- Ffactorau sy’n ymwneud â’r plentyn – bod yn yr ysgol gynradd (6–12 oed) ac, mewn rhai achosion, ethnigrwydd;
- Ffactorau teuluol – mwy o fynediad at addysg a sefydlogrwydd ariannol;
- Ffactorau cymunedol – cymunedau cefnogol lle mae gwasanaethau hanfodol fel gofal iechyd ac addysg; a
- Ffactorau sy’n ymwneud â’r system – mwy o gyllid ar gyfer gwasanaethau lles plant i ddarparu mwy o gymorth i deuluoedd.
Meddai Richmond Opoku, myfyriwr PhD ar gyfer ADR Cymru ac awdur arweiniol yr adolygiad: “Gyda’r costau emosiynol ac ariannol sylweddol sy’n gysylltiedig â gofal y tu allan i’r cartref, mae angen amlwg am bolisïau wedi’u targedu’n well a chymorth cynnar i helpu teuluoedd mewn perygl ac i leihau lleoliadau gofal diangen.
Mae ein hadolygiad yn amlygu’r angen am ddulliau holistig sy’n ymestyn y tu hwnt i fesurau adweithiol yn y system gofal cymdeithasol. Rhaid i lunwyr polisïau ac ymarferwyr flaenoriaethu strategaethau ymyrraeth gynnar sy’n mynd i’r afael â ffactorau ehangach fel tlodi, addysg, a chymorth cymunedol.”
Meddai Tash Kennedy, arweinydd CARELINK Cymru: “Drwy grynhoi tystiolaeth ar draws sawl lefel gan gynnwys y plentyn, y teulu, y gymuned a'r system, mae’n amlygu’r anghydraddoldebau strwythurol sy’n rhoi rhai plant mewn mwy o berygl o fynd i ofal y tu allan i’r cartref.
Mae’r canfyddiadau’n atgyfnerthu pwysigrwydd cymorth cynnar wedi’i dargedu a chydweithredu ar draws sectorau i fynd i’r afael â’r achosion sylfaenol, gan gynnwys tlodi, ansicrwydd tai, ac anawsterau iechyd meddwl rhieni.”
Meddai'r Athro Sinead Brophy, Cyd-Arweinydd HDR UK Cymru: “Mae’r adolygiad cynhwysfawr hwn yn nodi bylchau ar gyfer ymchwil a datblygu polisïau yn y dyfodol. Mae’n amlygu’r angen brys am gydweithredu'n well ar draws sectorau ac ymyriadau integredig, wedi’u seilio ar dystiolaeth, sy’n hyrwyddo lles plant a gwydnwch teuluol.”