Penguins in their breeding colony

Yn ôl astudiaeth newydd sy'n cynnwys ymchwilwyr o Labordy Symudiad Anifeiliaid Prifysgol Abertawe, mae pengwiniaid Magellan yn deithwyr mwy clyfar yn y cefnforoedd nag yr oedd pobl yn meddwl yn wreiddiol. Mae'r canfyddiadau'n dangos bod y pengwiniaid hyn yn defnyddio ceryntau llanw nid yn unig i gyrraedd adref yn fwy effeithlon, ond hefyd i chwilio am fwyd ar hyd y ffordd.

Mae'r gwaith hwn wedi cael ei gyhoeddi yn PLOS Biology. Bu'r ymchwilwyr yn olrhain 27 o bengwiniaid a oedd yn oedolion wrth iddynt ddychwelyd o'u teithiau yn chwilio am fwyd yn y cefnfor oddi ar yr Ariannin. Darganfu’r tîm, a arweiniwyd gan Sefydliad Ymddygiad Anifeiliaid Max Planck, fod y pengwiniaid yn aml yn dilyn llwybrau crwm, siâp S a luniwyd gan y llanwau yn hytrach na nofio mewn llinell syth yn ôl i'w nythod. Roedd y llwybrau hyn yn eu helpu i arbed eu hegni a manteisio ar y cyfleoedd i gael bwyd.

Esboniodd y cyd-awdur, yr Athro Rory Wilson o Labordy Symudiad Anifeiliaid Prifysgol Abertawe: "Gwnaethon ni ddefnyddio dyfeisiau olrhain uwch-dechnoleg bychan gyda System Leoli Fyd-eang (GPS) a chwmpawdau, yn ogystal â modelau manwl o geryntau’r cefnfor. Datgelodd y rhain fod y pengwiniaid yn newid y cyfeiriad roedden nhw'n nofio tuag ato, gan ddibynnu ar gryfder a chyfeiriad y ceryntau. Pan oedd y dŵr yn llonydd, roedden nhw'n nofio'n syth am adref, ond pan oedd y ceryntau'n gryfach, roedden nhw'n drifftio i'r ochr. Roedd hyn yn gwneud eu taith yn hirach, ond yn un llai blinedig".

Roedd y strategaeth hon hefyd yn rhoi mwy o gyfleoedd i'r pengwiniaid fwyta.

"Gwelwyd y pengwiniaid yn deifio ac yn chwilio am fwyd am ran helaeth o'u taith adref," dywedodd yr Athro Wilson. "Wrth iddynt agosáu at y nythfa, roedden nhw'n canolbwyntio'n fwy ac yn nofio'n fwy uniongyrchol, ac yn aml yn cyrraedd o fewn 300 metr o’u man cychwyn gwreiddiol - lefel ryfeddol o gywirdeb ar ôl teithio hyd at 75 cilomedr."

Ystyriodd yr ymchwilwyr ddwy strategaeth resymegol y gallai’r pengwiniaid eu defnyddio i ddychwelyd adref. Yn ddamcaniaethol, ac wrth ragdybio bod y pengwiniaid yn 'gwybod' lle roedden nhw, oherwydd nad ydynt yn medru gweld y tir pan fyddant allan yn bell yn y môr, ymddengys fod dau opsiwn amlwg ganddynt o ran sut i gyrraedd adref. Yr ymagwedd 'naïf' fyddai anelu'n syth at y nythfa bob tro, ni waeth am gryfder na chyfeiriad y cerrynt - rhywbeth y mae pobl sy'n cael eu dal mewn llanw terfol neu afonydd yn dueddol o’i wneud. Fodd bynnag, mewn ceryntau cryf a gwrthwynebol, byddai'n rhaid i'r pengwiniaid a fyddai'n gwneud hyn weithio'n galed iawn.

Yn wir, gall ceryntau yn eu rhanbarth nhw fod hyd at 4.5 milltir yr awr - sydd, yn fras, gyfwerth â chyflymder rhai o'r nofwyr Olympaidd gorau ac, er y gall pengwiniaid - sy'n nofio ar gyflymder o dua 4.5 milltir yr awr - deithio'n gynt yn hawdd, mae'n golygu eu bod nhw'n defnyddio llawer mwy o egni. Yr opsiwn mordwyo mwyaf clyfar yw nofio ar ongl i'r nythfa fel y gall effaith gyfunol cyflymder nofio'r pengwin a chyfeiriad y cerrynt arwain at symudiad cyffredinol tuag at y nythfa. Mae hyn yn defnydd llawer mwy effeithlon o egni. Fodd bynnag, mae hyn yn rhagdybio bod pengwiniaid, rhyw ffordd, yn medru sylwi ar effaith y cerrynt neu ei hamgyffred a chywiro y cyfeiriad maen nhw'n nofio tuag ato ar sail hyn.

Yn rhyfeddol, nid yw’r pengwiniaid yn dilyn y naill strategaeth na’r llall yn gyson. "Mewn gwirionedd, nid yw pengwiniaid yn dilyn unrhyw un o'r strategaethau hyn!" dywedodd yr Athro Wilson. "Mae eu hymagwedd yn fwy hyblyg. Mae'n nhw'n ymddangos yn ddigyffro am fod yn y môr - byddan nhw weithiau'n nofio gyda'r cerrynt hyd yn oed os nad yw'n mynd â nhw yn uniongyrchol i'w nythfa. Yn achlysurol, maen nhw'n nofio heibio i'r nythfa ac i lawr yr arfordir".

Yr hyn sy'n rhyfeddol, ychwanegodd yr Athro Wilson, yw ei bod yn ymddangos bod pengwiniaid yn medru synhwyro presenoldeb a chryfder ceryntau, hyd yn oed os nad oes unrhyw arwyddion gweladwy: "Mae'n ymddangos bod pengwiniaid yn medru sylweddoli pan fyddant mewn cerrynt ac hefyd yn medru synhwyro, yn fras, pa mor gryf yw'r cerrynt. Mae'n ymddangos hefyd eu bod nhw'n deall y gylchred lanwol - bod dŵr yn symud mewn un cyfeiriad i ddechrau cyn gwrthdroi. Os ydy'r llanw yn eu cludo nhw'n rhy bell, ymddengys eu bod yn gwybod y bydd y trai yn eu cludo nhw'n ôl yn hwyrach".

Mae'r canfyddiadau hyn yn cynnig dealltwriaeth newydd o sut y mae pengwiniaid Magellan yn addasu eu strategaethau symud mewn amgylcheddau deinamig. Mae'r canfyddiadau hefyd yn cynnig fframwaith ehangach ar gyfer deall sut y gall anifeiliaid morol eraill megis morloi, crwbanod y môr ac adar môr ymateb i amodau cynyddol ddeinamig yn y cefnforoedd, a ysgogir gan newid yn yr hinsawdd, gan gynnwys cerhyntau sy'n cryfhau, newidiadau o ran dosbarthiad ysglyfaeth, a ffryntiau thermol newidiedig.

Rhannu'r stori