Dr Helen Lewis.

Mae academydd o Brifysgol Abertawe wedi derbyn Cymrodoriaeth Churchill nodedig i archwilio mudiad byd-eang sy'n tyfu mewn addysg: cyflwyno cŵn i'r ystafell ddosbarth.

Mae Dr Helen Lewis, Athro Cyswllt mewn Addysg ac Astudiaethau Plentyndod, yn gadeirydd a chyd-sylfaenydd y Gynghrair Genedlaethol Cŵn Ysgol dan arweiniad Prifysgol Abertawe, ac yn un o 118 o unigolion a ddewiswyd ym mlwyddyn nodedig pen-blwydd y Gymrodoriaeth yn 60 oed.

Bydd y Gymrodoriaeth yn caniatáu i Dr Lewis deithio i'r Unol Daleithiau i gydweithio'n bersonol ag ymarferwyr blaenllaw, tra hefyd yn cymryd rhan mewn rhaglen ar-lein gydag arbenigwyr sydd wedi'u lleoli yn Singapore.

Bydd ei chanfyddiadau’n cyfrannu at arbenigedd cynyddol Prifysgol Abertawe mewn lles addysgol. Wrth i raglenni cŵn ysgol ddod yn fwy poblogaidd, mae Dr Lewis yn rhoi mwy o sylw at arferion rhyngwladol effeithiol a’u rhannu ar draws ystafelloedd dosbarth y Deyrnas Unedig.

Wrth siarad am ei gwobr, meddai Dr Lewis: “Mae’n anrhydedd mawr i mi dderbyn y Gymrodoriaeth hon. Mae'n gyfle unigryw i gysylltu ag arbenigwyr rhyngwladol ac archwilio sut mae cŵn ysgol yn cyfoethogi ystafelloedd dosbarth ledled y byd yn effeithiol. Rwy'n gyffrous i ddod â'r mewnwelediadau hyn yn ôl i'r Deyrnas Unedig i helpu i greu mannau diogel a chefnogol lle gall disgyblion ac addysgwyr – a'r cŵn eu hunain – ffynnu.”

Mae Cymrodoriaeth Churchill yn cynnig cyfle unwaith mewn oes i ddinasyddion y Deyrnas Unedig arwain y newid maen nhw am ei weld. Mae pob Cymrodoriaeth yn ariannu unigolyn i dreulio pedair i wyth wythnos yn cwrdd ag arbenigwyr byd-eang yn ei faes dewisol, wyneb yn wyneb neu ar-lein, i adeiladu rhwydweithiau rhyngwladol a chyfnewid gwybodaeth. Yna mae cymrodyr yn troi eu mewnwelediadau yn weithred—gan drawsnewid cymunedau, llunio gwasanaethau, a dylanwadu ar bolisi ledled y Deyrnas Unedig.

Dywedodd Julia Weston, Prif Weithredwr Cymrodoriaeth Churchill: “Rydym wrth ein boddau’n croesawu Cymrodyr Churchill 2025 ac yn gweld yr ymdrech a’r ymroddiad anhygoel y maent yn eu cyfrannu i’w gwaith. Wrth i ni ddathlu 60 mlynedd o Gymrodoriaeth Churchill, rydym yn falch o fod yn rhan wrth rymuso'r unigolion angerddol hyn i ddod yn gatalyddion ar gyfer newid ystyrlon. Boed yn gwneud gwahaniaeth mewn cymuned leol neu'n llunio dadl genedlaethol, rydym yn edrych ymlaen at eu dilyn ar eu teithiau i greu effaith barhaol ledled y Deyrnas Unedig.”

Mae Cymrodyr Churchill 2025 yn ymuno â chymuned o dros 4,000 o bobl sy'n gwneud newid ac sy'n gweithio ar flaen y gad o ran materion hollbwysig heddiw, gan ddatblygu atebion newydd yn seiliedig ar ymchwil fyd-eang a'u harbenigedd personol.

O bob cwr o'r pedair gwlad, ac i bobl rhwng 18 ac 80 mlwydd oed, mae Cymrodyr Churchill wedi cyflawni pethau rhyfeddol, o ddod yn arweinwyr cymunedol a sylfaenwyr elusennau i gyflwyno gwasanaethau newydd ac ymgyrchu dros weithredu mewn meysydd sy'n amrywio o newid hinsawdd i addysg, technoleg a'r celfyddydau.

Dysgwch fwy am waith ymchwil Dr Lewis drwy Gymrodoriaeth Churchill - PPAWS – Promoting Pupils' Positive Attitudes and Wellbeing Through School Dogs.

Rhannu'r stori