
Y Tánaiste Simon Harris TD, yr Athro Helen Griffiths a Phrif Weinidog Cymru Eluned Morgan AS ym Mhrifysgol Abertawe.
Mae Prifysgol Abertawe wedi croesawu’r Tánaiste Simon Harris TD a Phrif Weinidog Cymru Eluned Morgan AS i Gampws y Bae ar gyfer arddangosiad arbennig o brosiectau ymchwil arloesol sy’n tynnu sylw at gryfder y cydweithredu rhwng Cymru ac Iwerddon.
Croesawyd y gwesteion gan yr Athro Helen Griffiths, Dirprwy Is-ganghellor dros Ymchwil ac Arloesi ym Mhrifysgol Abertawe.
Roedd yr ymweliad yn cynnwys taith o amgylch y Sefydliad Ymchwil Diogelwch Ynni (ESRI), lle cafodd y gwesteion eu cyflwyno i waith arloesol yr Athro Serena Margadonna, y mae ei hymchwil yn canolbwyntio ar storio ynni, a’r Athro Ian Masters, sy’n arwain ar ymchwil i ynni adnewyddadwy morol.
Mae gwaith yr Athro Margadonna yn y Labordy Storio Ynni yn arwain datblygiad y genhedlaeth nesaf o dechnolegau batris sodiwm-ion, gyda’r nod o ddarparu atebion ynni cynaliadwy am gost isel. Mewn partneriaeth â Phrifysgol Limerick ac wedi ei gefnogi gan Rwydwaith Arloesi Cymru, mae’r tîm yn datblygu ei dechnoleg flaenllaw ym maes batris metel sodiwm heb anod, gan gyfuno arbenigedd peirianneg Abertawe ag arloesedd Limerick ym maes dylunio deunyddiau i gryfhau cadwyni cyflenwi rhanbarthol ar draws y ddwy wlad.
Mae’r Athro Masters yn y Labordy Ynni Morol yn arwain ar ynni adnewyddadwy ar y môr, ac mae ei ymchwil yn cwmpasu pŵer gwynt, tonnau a llanw. Drwy gydweithio â Choleg Prifysgol Cork gwnaeth prosiect Selkie Interreg Iwerddon Cymru hwyluso cydweithredu a masnacheiddio technolegau ynni’r cefnfor ar draws ffiniau, ym moroedd Cymru ac Iwerddon o amgylch Môr Iwerddon. Gwnaeth mwy na 100 o sefydliadau gymryd rhan mewn gweithgarwch trosglwyddo gwybodaeth i randdeiliaid ym myd diwydiant, gan gynorthwyo Busnesau Bach a Chanolig yn sector ynni’r cefnfor i symud tuag at fasnacheiddio.
Meddai'r Athro Griffiths:
“Roedden ni wrth ein boddau yn croesawu’r Tánaiste a Phrif Weinidog Cymru i’n campws ar gyfer ymweliad i danlinellu’r rôl hanfodol y mae cydweithredu ar draws ffiniau yn ei chwarae wrth hyrwyddo technolegau ynni glân a meithrin dyfodol gwydn a chynaliadwy i Gymru ac Iwerddon.”
Meddai Prif Weinidog Cymru Eluned Morgan:
“Rwy’n ddiolchgar iawn i Brifysgol Abertawe am groesawu’r Tánaiste a minnau i’r campws. Roedd yn wych gweld y cydweithredu arloesol rhwng Cymru ac Iwerddon ym myd ymchwil o lygad y ffynnon. Mae’r prosiectau a welsom yn dangos cryfder anhygoel ein partneriaeth ryngwladol.”