Dr Non Vaughan Williams

Yn Seremoni Wobrwyo’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol eleni, cyhoeddwyd mai Dr Non Vaughan Williams, Uwch-ddarlithydd Cyfryngau Digidol ym Mhrifysgol Abertawe, oedd enillydd y wobr Dathlu’r Darlithydd.

Mae’r wobr yn cael ei chyflwyno i ddarlithydd sydd wedi gwneud gwahaniaeth sylweddol i fywydau myfyrwyr yn y brifysgol, ac fe’i dyfernir ar sail enwebiadau gan y myfyrwyr eu hunain.

Yn wreiddiol o Dregaron, mae Dr Vaughan Williams bellach wedi ymgartrefu yn Llanddarog ger Caerfyrddin. Cafodd ei henwebu gan Cara Walters, myfyrwraig ym Mhrifysgol Abertawe.

Dywedodd Cara: “Mae Non wedi gwneud gwahaniaeth sylweddol i brofiadau dysgu myfyrwyr Cymraeg ar draws y sefydliad. Mae wedi arwain ar brosiectau cyflogadwyedd er mwyn sicrhau fod gennym gwrs ac adnoddau addas, pwrpasol a pherthnasol sy’n ein paratoi ni yn benodol at yrfa yn y cyfryngau yng Nghymru.

“Mae brwdfrydedd ac angerdd Non dros sicrhau bod cynnwys ac adnoddau ar gael yn Gymraeg yn anhygoel ac yn dangos ei phenderfyniad i sicrhau yr un cyfleoedd i fyfyrwyr Cymraeg o fewn y Brifysgol.

“Roedd hefyd yn gyfrifol am sefydlu panel o arbenigwyr o’r diwydiant cyfryngau i gynghori’r adran ar anghenion gweithleoedd Cymru heddiw a sicrhau bod y cwrs yn un cyfoes, perthnasol a blaengar.”

Cyflwynwyd y wobr i Dr Vaughan Williams mewn noson arbennig gan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol yng Nghaerfyrddin ar 19 Mehefin: “Mae’r wobr yn golygu tipyn i mi gan mai myfyrwyr sydd wedi fy enwebu. Rwyf wedi bod yn addysgu ers rhai blynyddoedd yn y sector addysg uwch, felly mae’n hyfryd i gael y gydnabyddiaeth mod i dal i wneud rhywbeth yn iawn!

“Bydd y wobr yn rhoi hyder i mi barhau gyda’r gwaith o gyfoethogi profiad myfyrwyr, er gwaetha’r heriau a’r newidiadau yn y sector.

“I’r dyfodol, rwy’n gobeithio ymgorffori dulliau addysgu arloesol yn y dosbarth fel bod myfyrwyr yn graddio’n hyderus ac yn barod i fynd ymlaen i’r byd gwaith, neu i wneud ôl-radd ymchwil.”

Cyflwynwyd y wobr iddi gan Geraint Evans, Prif Weithredwr S4C, a ddywedodd: “Ei nod, a’i hangerdd ydy rhoi’r cyfleoedd gorau posib i fyfyrwyr o bob lefel hyder, gan gynnwys rhai o gefndiroedd sydd wedi’u thangynrychioli, a’u paratoi ar gyfer gyrfa lewyrchus yn y Gymru gyfoes.”

Ar yr un noson, cafodd 13 o unigolion eraill eu cydnabod gan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol am eu gwaith, eu cyflawniadau neu’u cyfraniad disglair i’r sectorau ysgolion, addysg bellach a phrentisiaethau, ac addysg uwch yng Nghymru.

Dysgwch fwy am y Cyfryngau a Chyfathrebu ym Mhrifysgol Abertawe

Rhannu'r stori