Llun grŵp i ddathlu enwebeion y rownd derfynol eleni a'u cefnogwyr, ym Mhalas San Steffan.

Yn ogystal â swyno'r beirniaid, gwnaeth enwebeion y rownd derfynol hyd yn oed ennill calonnau staff diogelwch Palas San Steffan drwy siglo eu cynffonau a thrwy eu personoliaethau cyfareddol.

Roedd cynffonau'n siglo ym Mhalas San Steffan wrth i bencampwr pedwar coes o'r enw Achilles gyflawni camp hanesyddol fel Ci Ysgol y Flwyddyn cyntaf erioed y DU.

Anrhydeddwyd y Daeargi Norwich neilltuol hwn o Ysgol Gynradd Danson yn Welling, Caint, am ei effaith ragorol ar bresenoldeb disgyblion, eu lles emosiynol a'u brwdfrydedd i ddysgu.

Mae'r wobr, a ddatblygwyd gan y National School Dog Alliance (NSDA) ac a gefnogir gan y Grŵp Hollbleidiol Seneddol Cynghori  ar Les Cŵn (APDAWG) yn cydnabod cŵn sydd wedi cael eu hintegreiddio ym mywyd ysgolion â thrugaredd, gofal ac ymrwymiad dwfn i lesiant.

Mae Achilles, sy'n gweithio ddau ddiwrnod yr wythnos i sicrhau ei les, wedi dod yn gymeriad poblogaidd yn Ysgol Gynradd Danson. Boed yn cyfarch disgyblion wrth y gât neu'n dosbarthu gwobrau am bresenoldeb yn ei enw ef (Gwobrau Achilles Attendance), mae'n llawer mwy na masgot - mae'n ysgogi ac yn cysuro'r disgyblion ac yn aelod annwyl o gymuned yr ysgol.

Meddai Mrs Anne Allen, Cyd-bennaeth Ysgol Gynradd Danson a cheidwad Achilles: "O'r eiliad y cyrhaeddodd, datblygodd Achilles y berthynas fwyaf anhygoel â'r plant. Mae wedi helpu i gynyddu presenoldeb a gwydnwch ar draws yr ysgol. Rydyn ni'n clywed dro ar ôl tro sut mae'n hybu hyder, hunanbarch a chariad at ddysgu."

Yn y rownd derfynol, a gynhaliwyd ddydd Iau 3 Gorffennaf, daeth addysgwyr, disgyblion, ASau, elusennau - a chŵn, wrth gwrs - ynghyd i ddathlu rôl drawsnewidiol cŵn ysgol ledled y DU.

Dewiswyd Achilles o bron 60 o enwebeion, pob un yn cynrychioli ysgolion sy'n ymrwymedig i'r safonau uchaf o ofal ac ymarfer ar gyfer eu cŵn

Yn ymuno ag ef yn San Steffan roedd 11 o gŵn ysbrydoledig eraill a gyrhaeddodd y rownd derfynol, gan gynnwys Denis, Cavapoo hynaws o Ysgol Heol Goffa yn Llanelli, a enillodd yr ail le am gefnogi disgyblion ag anghenion dysgu arbennig drwy raglen Burns By Your Side.

Wrth i olion bawennau cynnydd barhau i ledaenu drwy ysgolion y DU, mae Achilles yn arweinydd balch y cnud - ci bach sy'n gwneud gwahaniaeth mawr.

Meddai Dr Helen Lewis, Athro Cysylltiol Addysg ym Mhrifysgol Abertawe a Chyd-sylfaenydd a Chadeirydd yr NSDA: "Roedd pwyllgor yr NSDA a'r beirniaid parchus wrth eu boddau'n darllen yr enwebiadau. Maen nhw'n cadarnhau pa mor drawsnewidiol gall rhaglen ci ysgol sy'n cael ei rheoli'n dda fod. Rydyn ni'n canmol yr holl ysgolion sy'n mabwysiadu'r ffordd arloesol hon o wella lles, gan sicrhau bod y cŵn yn cael eu hintegreiddio mewn modd moesegol a diogel wrth wneud yn siŵr bod lles y myfyrwyr a'r cŵn wrth wraidd popeth maen nhw'n ei wneud. Mae clywed gan y plant a'r bobl ifanc yn y digwyddiad hwn heddiw wedi bod yn wir ysbrydoliaeth."

Ychwanegodd Dr Marc Abraham OBE, milfeddyg y cyfryngau ac aelod o ysgrifenyddiaeth APDAWG: Byddai pob un o gystadleuwyr y rownd derfynol yn enillydd teilwng. Dydy cŵn byth yn barnu nac yn beirniadu - yn hytrach, maen nhw'n darparu cyfeillgarwch tawel sy'n helpu i leihau straen ac yn galluogi plant i ddysgu ar eu cyflymder eu hunain. Mae ymchwil yn dangos bod cŵn ysgol yn gwella integreiddio cymdeithasol ac yn cynyddu empathi ac ymwybyddiaeth emosiynol. Gallan nhw hefyd gynyddu presenoldeb, gwella agweddau tuag at ddysgu ac addysgu sgiliau bywyd hanfodol megis cyfrifoldeb, parch a thrugaredd."

Roedd y digwyddiad, a gyflwynwyd gan Dr Abraham, yn cynnwys areithiau gan:

  • Y Farwnes Sue Hayman, Is-ysgrifennydd Gwladol Seneddol yn Adran yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig (DEFRA)
  • Rosie Duffield AS, Cadeirydd APDAWG
  • Iarll Courtown, Is-gadeirydd APDAWG
  • Dr Helen Lewis, Cadeirydd yr NSDA

Wedi'i noddi gan IT'S THE DOGS, a'i gefnogi gan Kidscape, Therapy Dog Training UK, HarperCollins, LickiMat UK a Photography by Frankie, taflodd y dathliad oleuni ar fudiad cynyddol addysg â chymorth cŵn.

Drwy'r NSDA, mae Prifysgol Abertawe'n parhau i lywio arfer gorau yn y maes, gan sicrhau bod pob ci ysgol yn cyfoethogi dysgu myfyrwyr gan gefnogi datblygiad a lles y ci ar yr un pryd.

Rhannu'r stori