
Mae Prifysgol Abertawe wedi cyflwyno gradd er anrhydedd i gyn-gapten rygbi menywod Cymru, Siwan Lillicrap, i gydnabod ei chyfraniad rhagorol at rygbi Cymru.
Dyfarnwyd Gradd Meistr mewn Gwyddoniaeth (MSc) er anrhydedd i'r cyn-gapten rygbi 37 mlwydd oed, ddydd Gwener 25 Gorffennaf yn ystod seremoni raddio haf y Brifysgol yn Arena Cymdeithas Adeiladu Abertawe.
Dechreuodd taith Siwan i rygbi rhyngwladol yng Nghlwb Rygbi Waunarlwydd, lle tyfodd i fyny yn gwylio ei thad yn hyfforddi a'i brawd yn chwarae. Heb dîm merched iau ar gael ar y pryd, roedd rhaid iddi aros tan ei bod hi'n 17 mlwydd oed i ymuno â thîm y merched i hyfforddi — ac o fewn pythefnos yn ddiweddarach, gwnaeth ei hymddangosiad cyntaf ar y cae.
Nododd yr ymddangosiad cyntaf hwnnw ddechrau gyrfa rygbi nodedig.
Astudiodd Siwan, sy’n gyn-ddisgybl o Ysgol Gyfun Gŵyr, wyddor chwaraeon ym Mhrifysgol Abertawe, gan raddio yn 2009 wrth chwarae i Glwb Rygbi Waunarlwydd.
Ffynnodd ei gyrfa’n chwarae rygbi i glybiau. Symudodd i Glwb Rygbi Castell-nedd, Clwb Rygbi Abertawe, a Chlwb Menywod y Gweilch, cyn ymuno â Bristol Bears yn 2020 a Gloucester-Hartpury yn 2022.
Enillodd Siwan ei chap cyntaf dros Gymru yn ystod Chwe Gwlad y Menywod yn 2016. Cafodd ei henwi’n gapten cenedlaethol yn 2019, gan arwain Cymru drwy nifer o bencampwriaethau — gan gynnwys Cwpan Rygbi’r Byd 2021 yn Seland Newydd.
Ochr yn ochr â'i gyrfa chwarae, gwasanaethodd Siwan fel pennaeth rygbi Prifysgol Abertawe o 2017 i 2022, gan oruchwylio mwy na 300 o chwaraewyr ar draws rhaglenni’r dynion a’r menywod a helpu i feithrin cymuned rygbi lewyrchus a chynhwysol.
Ym mis Mawrth 2022, gwnaeth hanes drwy ennill contract proffesiynol gan Undeb Rygbi Cymru fel y chwaraewr benywaidd cyntaf. Ymddeolodd o rygbi rhyngwladol ym mis Tachwedd 2022, ar ôl ennill 51 cap dros Gymru.
Mae Siwan bellach yn arwain llwybr perfformio i fenywod Undeb Rygbi Cymru, sy'n cynnwys y timau dan 18 oed a dan 20 oed, ac mae'n sylwebydd rheolaidd i'r BBC.
Wrth dderbyn ei gradd er anrhydedd, meddai Siwan: “Mae’n anrhydedd gwirioneddol i mi dderbyn y dyfarniad hwn gan Brifysgol Abertawe. Mae gan y Brifysgol le arbennig yn fy nghalon oherwydd y nifer o brofiadau cadarnhaol rydw i wedi'u cael yma, fel myfyriwr ac fel aelod o staff.
“Mae wedi bod yn sefydliad arloesol, angerddol a gofalgar erioed — un a wnaeth fy ngalluogi i ffynnu a thyfu. Mae derbyn y dyfarniad hwn yn fy llenwi â balchder mawr, ac rwy'n edrych ymlaen at y cyfle i weithio gyda Phrifysgol Abertawe eto yn y dyfodol.”