
O'r chwith i'r dde: Dr Darren Ould, Dr Marcin Orzech, Dr Sajad Kiani, a Dr Ashley Willow o Brifysgol Abertawe, gyda Dr Emma Freeman, Dr Brent De Boode, a Dr Dan Jones o Batri Ltd — aelodau allweddol o'r tîm sy'n arwain y prosiect arloesol StamiNa.
Mae technoleg a ddatblygwyd ym Mhrifysgol Abertawe wedi ennill cyllid i helpu i ddarparu systemau batri gwell i Affrica Is-Sahara.
Mae’r prosiect StamiNa – Sustainable Transport and Affordable Mobility through Innovation in Na-ion technology—dan arweiniad Prifysgol Abertawe mewn partneriaeth â Phrifysgol Coventry, Batri Ltd, Prifysgol Strathmore (Kenya), Grŵp AceOn, a Phrifysgol Dechnoleg Ffederal Owerri (Nigeria)—yn un o bum cydweithrediad i gael buddsoddiad gwerthfawr gan Sefydliad Faraday.
Mae’r prosiectau i gyd yn ceisio optimeiddio a dilysu systemau batri er mwyn uchafu perfformiad a gwella effeithlonrwydd a hyd oes. Wrth wneud hynny, byddant yn symud y technolegau gam yn nes at fasnacheiddio.
Y buddsoddiad hwn yw ail gam Her Ayrton ar Storio Ynni (ACES), sef rhaglen Ymchwil a Datblygu dan arweiniad Sefydliad Faraday.
Mae StamiNa dan arweiniad yr Athro Serena Margadonna, Athro Gadeiriol mewn Peirianneg Deunyddiau ym Mhrifysgol Abertawe, a nod y prosiect yw dangos a dilysu technoleg batri ïonau sodiwm (SIB) newydd drwy becyn batri cyfnewidiol ar ffurf prototeip, a ddyluniwyd ar gyfer cymwysiadau e-symudedd yn Nwyrain Affrica.
Meddai'r Athro Margadonna: “Rydyn ni’n falch o arwain prosiect StamiNa, sy’n dod ag arbenigedd blaengar ym maes technoleg batri ïonau sodiwm a ddatblygwyd ym Mhrifysgol Abertawe ynghyd â gweledigaeth ar y cyd ar gyfer arloesi cynaliadwy a chyfiawn.
“Mae'r cydweithrediad hwn yn fwy na datblygiadau technolegol – mae’n ymwneud â darparu atebion sy’n gyfrifol yn amgylcheddol, wedi’u sicrhau’n lleol, ac yn hygyrch i bawb. Gyda’n gilydd, ein nod yw cyflymu masnacheiddio wrth gefnogi twf ecosystem batris dan arweiniad Affrica sydd â chadwyn gyflenwi leol.”
Gallai batris SIB gynnig dewis amgen i fatris ffosffad haearn lithiwm (LFP) ar gyfer y trawsnewid i symudedd trydanol yn Affrica Is-Sahara – maent yn haws eu cludo ac nid yw'r gadwyn gyflenwi un mor fregus.
Mewn cydweithrediad, mae Batri Ltd a Phrifysgol Abertawe wedi datblygu technoleg SIB sy’n defnyddio cathodau Prussian White ac anodau carbon caled sy'n deillio o lo, â dwysedd ynni a ragwelir sy’n uwch na’r batris sydd ar gael yn fasnachol ar hyn o bryd, gan wneud hyn yn gystadleuol ag LFP.
Yn wahanol i ddewisiadau eraill, caiff Prussian White ei syntheseiddio mewn dŵr o dan amodau ysgafn ac nid yw’n cynnwys nicel na chobalt. Mae hyn yn galluogi proses gynhyrchu sy’n effeithlon o ran ynni, gan leihau’r effaith amgylcheddol yn sylweddol a chynnig y posibilrwydd o sefydlu cadwyni cyflenwi lleol.
Nod prosiect StamiNa yw:
- Optimeiddio ac ehangu cynhyrchu’r ddau ddeunydd gweithredol;
- Mireinio prosesau cynhyrchu electrodau a chydosod celloedd, a gweithgynhyrchu celloedd amlen aml-haen a chelloedd silindrog 18650 ym Mhrifysgol Coventry;
- Dangos a dilysu perfformiad y celloedd mewn cymwysiadau byd go iawn. Bydd y celloedd silindrog yn cael eu hintegreiddio i becyn batri cyfnewidiol AceOn a’i system rheoli batris, a chynhelir profion maes ar feiciau trydan ym Mhrifysgol Strathmore (Kenya);
- Gwerthuso perfformiad y pecyn yn FUTO (Nigeria) a chymharu’r data â dewisiadau LFP a SIB sydd ar gael yn fasnachol; a
- Gwerthuso cost, dichonoldeb y gadwyn gyflenwi, ailgylchadwyedd a chynaliadwyedd y dechnoleg SIB ar gyfer marchnad e-symudedd Affrica Is-Sahara.
Mae’r prosiect hwn yn ceisio cyflymu masnacheiddio technoleg SIB y Deyrnas Unedig a sefydlu ecosystem storio ynni gynaliadwy dan arweiniad Affrica sy’n cefnogi symudedd glân ac ymdrechion ehangach i drydaneiddio.