
Mae Sefydliad Wolfson wedi dyfarnu grant hael o £100,000 i’r Ganolfan Eifftaidd ym Mhrifysgol Abertawe.
Nod cyllid Sefydliad Wolfson ar gyfer amgueddfeydd ac orielau yw gwella sut caiff casgliadau o bwys cenedlaethol eu harddangos a’u dehongli i'r cyhoedd.
Bydd y cyllid yn cefnogi ailddatblygiad uchelgeisiol o’i horiel, Tŷ Marwolaeth yr hydref hwn. Mae'r dyfarniad hwn yn adeiladu ar gyllid blaenorol o tua £300,000 a dderbyniwyd gan Lywodraeth Cymru fel rhan o'r Rhaglen Grantiau Cyfalaf Trawsnewid.
Bydd y prosiect yn trawsnewid ardal allweddol yn y Ganolfan Eifftaidd i greu man dysgu arloesol, hygyrch, ac ymdrochol.
Mae'r gwelliannau a gynlluniwyd yn cynnwys:
- Creu mwy o fannau ar gyfer profiadau rhyngweithiol gan gynnwys tirweddau arogl a seinweddau;
- Gosod drysau awtomatig i'r orielau i'w gwneud yn fwy hygyrch i gadeiriau olwyn;
- Cistiau gwell newydd i arddangos mwy o wrthrychau ac o dan amodau amgylcheddol/goleuadau gwell; a
- Phaneli dehongli a labeli newydd i adlewyrchu ymchwil gyfredol.
Bydd yr ailddatblygiad hefyd yn moderneiddio’r amgueddfa, gan helpu i ddiogelu'r 7,000 o wrthrychau a gedwir yn ei chasgliad rhyfeddol ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol.
Meddai Dr Ken Griffin, Curadur y Ganolfan Eifftaidd: “Rydym yn hynod ddiolchgar i Sefydliad Wolfson am y grant hwn, a fydd yn cyfrannu’n ystyrlon tuag at yr ailddatblygiad.
“Bydd y prosiect yn sicrhau ein parhad fel canolfan ddiwylliannol ac addysgol berthnasol yma yng Nghymru ac ar draws y Deyrnas Unedig. Rydym yn edrych ymlaen yn fawr at groesawu ymwelwyr hen a newydd pan fydd y Ganolfan Eifftaidd yn ailagor ym mis Ionawr 2026.”
Meddai Prif Weithredwr Sefydliad Wolfson, Paul Ramsbottom: “Bydd adnewyddu Oriel y Tŷ Marwolaeth yn y Ganolfan Eifftaidd yn creu profiad ymdrochol gwych. Bydd yn taflu goleuni newydd ar yr Hen Aifft ac yn rhoi cipolwg ffres ar y casgliad rhyfeddol. Yn hollbwysig i amgueddfa a chasgliad sy’n eiddo i brifysgol, bydd hefyd yn cyfoethogi’r cyfleoedd academaidd ac ymchwil sydd ar gael i gymuned y Brifysgol. Rydym wrth ein boddau yn cyfrannu at hyn.”