Grŵp o 11 o ddynion yn sefyll y tu mewn i gwch

Dr Alex Langlands, Athro Cysylltiol a chyd-gyfarwyddwr CHART, gyda Torsten Bell AS, aelodau o Gyngor Abertawe a'r tîm o Ymddiriedolaeth Cwch Cymunedol Abertawe yn nigwyddiad lansio'r adroddiad.

Mae arbenigwyr o Brifysgol Abertawe yn cefnogi cynllun uchelgeisiol i adfywio dyfrffyrdd gorffennol diwydiannol y ddinas.

Mae'r Ganolfan Ymchwil a Hyfforddiant Treftadaeth (CHART) yn y Brifysgol wedi bod yn gweithio gydag Ymddiriedolaeth Cwch  Cymunedol Abertawe, gyda'r nod o nodi coridor dyfrffordd glas/gwyrdd ar hyd Cwm Tawe, o Glydach i Port Tennant.

Diolch i gyllid gan MEDR - y Comisiwn Addysg Drydyddol ac Ymchwil - ac arweiniad gan dîm CHART, mae'r Ymddiriedolaeth bellach wedi cyhoeddi astudiaeth ddichonoldeb a dadansoddiad budd.

Mae'r astudiaeth hon, a ysbrydolwyd gan wirfoddolwr â blynyddoedd maith o brofiad o ddyfrffyrdd, John Davies, wedi nodi sut y gall camlesi coll a rhannau mordwyol o afon Tawe gynnig cyfle i gyflwyno amrywiaeth o fuddion i Abertawe a'r rhanbarth ehangach.

Mae adfywio Camlas Abertawe a Chamlas Tennant ymhlith nodau niferus y weledigaeth hon, a chred yr ymddiriedolaeth fod ganddi'r potensial i gynnig y cyfle i gymunedau ledled y cwm ailgysylltu â natur drwy gerdded, beicio, caiacio a phadlfyrddio.

Dywedodd Dr Alex Langlands, Athro Cysylltiol a chyd-gyfarwyddwr CHART: "Mae'n bleser gan Brifysgol Abertawe ei bod wedi cefnogi Ymddiriedolaeth Cwch Cymunedol Abertawe mewn ffordd fach i gyflwyno'r adroddiad pwysig hwn ar y potensial enfawr sydd gan ddyfrffyrdd mewndirol ac afon Tawe i wella ansawdd bywyd a bywiogrwydd economaidd y ddinas a'i rhanbarth. 

"Mae'r adroddiad yn cynnig cynllun mentrus ac uchelgeisiol sydd wedi'i fapio'n erbyn yr angen am liniaru ac addasu i'r hinsawdd, adferiad yn sgîl llifogydd, darpariaeth lleoedd gwyrdd, gwerth amwynderau ac adfywiad economaidd. Ond yn fwy na dim, mae'n cynrychioli uchelgais sy'n edrych tua'r dyfodol ac sydd â lles cenedlaethau'r dyfodol wrth ei wraidd."

Mae'r adroddiad hwn, o’r enw Cyrchfannau Newydd, yn amlygu'r effaith gadarnhaol y gall rhwydwaith dyfrffyrdd gwell ei chael ar dwf economaidd yn y rhanbarth, ac mae'n ystyried ailddatblygu rhannau o Gamlas Tennant a Chamlas Castell-nedd.  Mae'n nodi y bydd dyfrffordd fewndirol ranbarthol nid yn unig yn gwella'r ardal, ond y gallai hefyd fod yn ased allweddol wrth gynyddu twristiaeth yn yr ardal.

Dywedodd John Davies o Ymddiriedolaeth Cwch Cymunedol Abertawe: "Os bydd 'Cyrchfannau Newydd' yr Ymddiriedolaeth yn derbyn cefnogaeth gan Gyngor Abertawe, bydd yn creu atyniad mawr newydd i ymwelwyr a fydd yn seiliedig ar dreftadaeth ddiwydiannol falch eich dinas.

"Caiff dyfrffyrdd newydd eu hadeiladu er mwyn cysylltu afon Tawe â chamlesi hanesyddol yn Port Tennant ac yng Nghlydach, er mwyn creu taith 35 milltir o hyd ar gwch ar draws Bae Abertawe. Bydd rhesi o goed yn cysgodi llwybrau'r camlesi rhag newid yn yr hinsawdd ac yn darparu hafan i fywyd gwyllt.

"Caiff dyfrffyrdd newydd eu hadeiladu er mwyn cysylltu afon Tawe â chamlesi hanesyddol yn Port Tennant ac yng Nghlydach, er mwyn creu taith 35 milltir o hyd ar gwch ar draws Bae Abertawe. Bydd rhesi o goed yn cysgodi llwybrau'r camlesi rhag newid yn yr hinsawdd ac yn darparu hafan i fywyd gwyllt.

"Gallai’r prosiect gael ei gyflawni'r mewn camau hawdd, pan fydd cyllid ar gael. Efallai mai'r prosiect unigol cyntaf fydd cysylltu Porthladd Tywysog Cymru â Chamlas Tennant. Byddai hyn hefyd yn gwella Llwybr Arfordir Cymru wrth iddo nesáu at Lannau Abertawe.

"Gwerthfawrogwyd y grant gan Brifysgol Abertawe/MEDR yn fawr oherwydd heb y grant hwn, ni fyddai wedi bod yn bosib i sefydliad cymunedol fel Ymddiriedolaeth Cwch Cymunedol Abertawe' gynnal astudiaeth 'Cyrchfannau Newydd'. Roedd y cymorth a ddarparwyd gan Dr Langlands hefyd yn rhan allweddol o'r fenter hon."

 

Rhannu'r stori