
Ar ôl blynyddoedd o heriau personol ac academaidd sylweddol, o ofalu am dair cenhedlaeth o'i theulu i fyw gyda dyslecsia heb ddiagnosis, mae Karen Armitage wedi graddio o Brifysgol Abertawe.
Mae Karen, 25 mlwydd oed o Gastell-nedd, wedi ennill gradd mewn Eifftoleg a hanes yr henfyd - gan wireddu breuddwyd a oedd ar un adeg yn teimlo’n amhosib.
Dechreuodd ei thaith ofalu pan oedd hi'n 9 mlwydd oed, gan gefnogi ei siblingiaid wrth i'w rhieni frwydro heriau iechyd meddwl.
"Erbyn i mi droi'n 15 mlwydd oed, sylweddolais fy mod i’n gyfrifol am fy nheulu - ac rydw i wedi bod yn y rôl honno ers hynny," meddai.
Parhaodd cyfrifoldebau Karen i dyfu gartref - yn y diwedd roeddent yn cynnwys gofalu am ei thad-cu a'i mam-gu a chefnogi dau o’i siblingiaid iau drwy eu diagnosis o awtistiaeth.
Wrth i'w chyfrifoldebau gofalu dyfu, cynyddodd y pwysau yn yr ysgol, lle dechreuodd heriau academaidd ddod i'r amlwg.
Am flynyddoedd, bu Karen yn brwydro ag effeithiau ei dyslecsia heb ddiagnosis, a gafodd ei ddiystyru dro ar ôl tro er gwaethaf yr effaith amlwg ar ei dysgu.
Ni chafodd ddiagnosis swyddogol nes 2016, moment a newidiodd ei bywyd meddai hi.
"Dechreuais lefain," meddai Karen. "Dyma'r tro cyntaf i mi deimlo'n weledol."
Fodd bynnag, roedd y ffordd ymlaen yn llawn rhwystrau o hyd, ac yn ystod ei TGAU, roedd Karen yn dioddef o gyfnod difrifol o dwymyn chwarennol. O ganlyniad, bu’n rhaid iddi roi’r gorau i sawl pwnc - gan gynnwys ei hoff un, sef hanes.
Gan geisio dod o hyd i'w llwybr drwy adferiad a hunan-amheuaeth, rhoddodd Karen dro ar lwybrau gyrfa gwahanol nes i'r cyfnod clo yn 2020 greu gofod iddi ailystyried yr hyn yr oedd hi wir eisiau ei wneud.
"Rhoddais dro ar drin gwallt a seicoleg, ond doedd dim un ohonyn nhw’n brofiad gwych," meddai Karen. "Covid oedd y tro cyntaf i mi allu stopio'n iawn. Ac yn y llonyddwch hwnnw, dechreuodd fy nheulu wella, yn yr un modd ag agweddau eraill ar fy mywyd."
Gwnaeth yr eglurder hwnnw, ynghyd ag ysbrydoliaeth o ffilmiau megis The Enigma Game a Darkest Hour dynnu Karen yn ôl at hanes, a phenderfynodd gofrestru ym Mhrifysgol Abertawe, lle'r oedd hi wedi gwirfoddoli'n flaenorol yn y Ganolfan Eifftaidd.
Ochr yn ochr â'i hastudiaethau, daeth Karen yn gynrychiolydd pwnc ac ysgol, gan hyrwyddo hygyrchedd a chynhwysiant, a helpu i greu rhwydwaith cymorth ar gyfer myfyrwyr sy'n ofalwyr, fel hi ei hun.
Meddai, "mae popeth rwy'n ei wneud wedi'i lywio gan fy mhrofiad o ddyslecsia ac fel gofalwr, sy'n cynnwys fy mrawd a chwaer niwrowahanol." "Mae fy ymennydd yn naturiol yn chwilio am ffyrdd o leihau straen i bobl sydd yn aml yn cael eu diystyru."
Bellach mae Karen yn gobeithio astudio gradd meistr mewn hanes a threftadaeth cyhoeddus, wrth barhau â'i heiriolaeth drwy rôl newydd fel Swyddog Rhan-amser gydag Undeb y Myfyrwyr.
"Rwy'n berson hollol wahanol i'r person yr oeddwn i yn fy wythnos gyntaf," meddai. "Mae hynny o ganlyniad yn bennaf i'r cymorth rydw i wedi'i dderbyn yn y Brifysgol - a nawr rydw i eisiau sicrhau bod myfyrwyr eraill yn cael yr un cyfle i berthyn."
I Karen, mae'r hyn a ddechreuodd fel twf personol wedi troi'n rhywbeth llawer mwy - dod â newid cadarnhaol i'w theulu.
"Mae mam a finnau'n fwy o dîm nawr. Rydw i mor falch ohoni am gamu i’r adwy tra mod i yn y brifysgol; rhywbeth dwi'n sicrhau fy mod yn ei ddweud wrthi bob dydd."
"Rydw i hefyd yn falch o'm hun am fod y cyntaf yn fy nheulu i raddio," meddai Karen. "Ond y peth gorau i mi yw gweld y cyfleoedd sydd gan fy mrawd a chwaer nawr. Er fy mod i wedi colli allan ar lawer yn ystod fy mhlentyndod, rwy'n falch o’u gweld nhw'n byw bywyd i'r eithaf."