
Mae Prifysgol Abertawe wedi cyflwyno gradd meistr er anrhydedd yn y celfyddydau i Elinor Barker MBE, sydd wedi ennill medalau aur yn y Gemau Olympaidd, er mwyn cydnabod ei chyflawniadau rhagorol a’i chyfraniad at feicio rhyngwladol.
Cafodd Elinor ei geni a’i magu yng Nghaerdydd a dechreuodd ei thaith i feicio byd-eang yn 10 oed, pan ymunodd hi â Chlwb Beicio’r Maindy Flyers. Cydnabuwyd talent Elinor yn fuan iawn, gan arwain ati’n cael ei recriwtio i Academi Datblygiad Olympaidd Beicio Prydain.
Datblygodd Elinor yn gyflym. Daeth hi’n bencampwr y byd yn y ras ymlid i dimau yn 2013 a 2014 cyn ennill medal aur yn y gemau Olympaidd yn Rio yn 2016, pan roedd hi dim ond yn 21 oed. Yna, enillodd fedal arian yng Ngemau Tokyo yn 2021 a medalau arian ac efydd ym Mharis yn 2024 – sy’n golygu mai hi yw’r pencampwr Olympaidd benywaidd o Gymru sydd â’r mwyaf o fedalau, gyda phedair medal Olympaidd.
Yn ogystal â’i llwyddiant yn y Gemau Olympaidd, mae Elinor, sy’n 30 oed, wedi ennill cystadleuaeth y ras ymlid i dimau dair gwaith ym mhencampwriaeth y byd a saith gwaith ym mhencapwriaeth Ewrop. Mae hi hefyd wedi ennill y ras bwyntiau ddwy waith ym mhencampwriaethau’r byd ac wedi ennill yn y rasys “Madison” a’r rasys “Scratch”. Yng Nghemau’r Gymanwlad a gynhaliwyd yn Awstralia yn 2018, enillodd hi’r fedal aur yn y ras bwyntiau.
Dyfarnwyd MBE i Elinor yn Anrhydeddau’r Flwyddyn Newydd 2017 am ei gwasanaethau i feicio.
Yn dilyn genedigaeth ei mab, Nico, yn 2022, dychwelodd Elinor i chwaraeon elît bum mis yn ddiweddarach. Newidiodd Elinor i faes beicio ffordd, gan ymuno â thîm y menywod yn nhaith y byd, sef Uno-X. Cafodd lwyddiant aruthrol yn ei thymor beicio trac, gan ennill dwy fedal aur ym Mhencapwriaethau’r Byd a gynhaliwyd yn Glasgow yn 2023.
Yn ddiweddar, cyhoeddodd Elinor ei bod hi’n feichiog gyda’i hail blentyn, y disgwylir iddo gael ei eni ym mis Rhagfyr, ac mae hi’n parhau i ganolbwyntio ar y posibilrwydd o ddychwelyd i gystadlaethau elît cyn Gemau Olympaidd Los Angeles yn 2028.
Wrth dderbyn ei gradd er anrhydedd, dywedodd Elinor: "Mae'n anrhydedd enfawr derbyn y wobr hon gan Brifysgol Abertawe. Rwy’n teimlo’n freintiedig iawn o gael bod yn rhan o’r dathliadau graddio heddiw, a mwynhau'r achlysur arbennig hwn gyda phawb. Rwy’n hynod ddiolchgar i bawb am y croeso a’r gydnabyddiaeth arbennig".