Yr Athro Yi Min Xie

Mae Prifysgol Abertawe wedi cyflwyno Gradd er Anrhydedd i’r peiriannydd o fri rhyngwladol  sy’n gyn-fyfyriwr disglair, yr Athro Yi Min Xie, er mwyn cydnabod ei gyfraniadau rhagorol at faes optimeiddiaeth adeileddol ac arloesedd ym myd peirianneg.

Mae’r Athro Yi Min ‘Mike’ Xie ar hyn o bryd yn Athro ym Mhrifysgol Hohai yn Tsieina ac mae’n Athro Emeritws yn y ‘Royal Melbourne Institute of Technology’ (RMIT) yn Awstralia. Yn arloeswr yn ei faes, mae’r Athro Xie wedi chwarae rôl ganolog yn natblygiad dulliau optimeiddiaeth adeileddol esblygiadol (ESO) a dulliau ESO deugyfeiriol (BESO) – technegau sydd wedi trawsnewid y ffordd y mae peirianwyr a phenseiri yn dylunio adeileddau effeithlon a chynaliadwy ledled y byd.

Dechreuodd yr Athro Xie ar ei daith academaidd drwy gwblhau gradd baglor mewn mecaneg beirianyddol ym Mhrifysgol Shanghai Jiao Tong ym 1984, cyn cwblhau ei PhD mewn mecaneg gyfrifiadol ym Mhrifysgol Abertawe. Fe wnaeth ei ymchwil ddoethurol osod y sylfaen ar gyfer gyrfa sydd wedi arwain ato’n dod yn un o’r ymchwilwyr y cyfeirir atynt amlaf yn ei ddisgyblaeth, gyda thros 41,000 o gyfeiriadau hyd yn hyn.

Yn 2011, cafodd ei ethol yn Gymrawd o’r ‘Australian Academy of Technologial Sciences and Engineering’. Y flwyddyn ganlynol, sefydlodd y ‘RMIT Centre for Innovative Structures and Materials’, gan atgyfnerthu ei safle blaenllaw yn y maes ymhellach. Mae ei gyflawniadau wedi cael eu cydnabod drwy gyfrwng llawer o anrhydeddau mawr eu bri, gan gynnwys Medal AGM Michell a Gwobr Arloesedd Clunies Ross yn 2017, Gwobr Victoria am Wyddoniaeth ac Arloesedd yn 2020, a theitl Peiriannydd Sifil y Flwyddyn Sir John Holland yn 2022. Yn 2019, cafodd ei benodi’n Aelod o Urdd Awstralia (AM) am ei wasanaeth sylweddol ym maes addysg uwch a pheirianneg sifil.

Drwy gydol ei yrfa, mae’r Athro Xie wedi cydweithio â chwmnïau rhyngwladol blaenllaw , megis Arup a Boeing, gan gymhwyso ei ymchwil i heriau ac arloesiadau byd go iawn.

Wrth dderbyn y radd er anrhydedd, dywedodd yr Athro Xie “Mae’n fraint ac yn anrhydedd i mi dderbyn y dyfarniad hwn gan fy alma mater. Derbyniais addysg ragorol ym Mhrifysgol Abertawe, ac fe wnaeth y Brifysgol sicrhau bod gennyf yr wybodaeth a’r sgiliau angenrheidiol er mwyn dilyn fy mreuddwydion a gwneud cyfraniad ystyrlon at y gymdeithas.”

Rhannu'r stori