Pump o bobl yn sefyll y tu allan i'r adeilad, tri pherson yn y canol yn gwisgo cit rhedeg

Hawliodd cyflymder a dyfalbarhad cyfunol staff a myfyrwyr Prifysgol Abertawe anrhydedd fawreddog yn Hanner Marathon Abertawe eleni.

Enillodd pedwar aelod cyflymaf Tîm Abertawe – y grŵp o gydweithwyr, myfyrwyr a chyn-fyfyrwyr a redodd i godi arian ar gyfer ymgyrch Camau Breision dros Iechyd Meddwl y Brifysgol – yr Her Gorfforaethol.

Bob blwyddyn gall sefydliadau sy'n cyflwyno grŵp o gyfranogwyr gystadlu am yr Her gyda'r pedwar rhedwr cyflymaf o'r un tîm yn hawlio'r teitl a rhodd o £100 gan drefnwyr y ras, Front Runner Events.

Llwyddodd pedwarawd llwyddiannus Prifysgol Abertawe, Leighton Starkie, Toby Linley-Adams, Noah Coulson a Jenny Sanders, i gyrraedd amser cyfunol o 6 awr 22 munud a 5 eiliad.

Meddai Leighton, myfyriwr peirianneg gemegol yn ei flwyddyn gyntaf, a ddaeth yn gyntaf o'r pedwar a orffennodd mewn 1:24:29: “Dyma oedd fy hanner marathon cyntaf, ond nid hwn fydd yr olaf. Fe wnes i fwynhau’r profiad cyfan yn fawr iawn.”

Mae Toby yn dechnegydd ymchwil o Adran y Biowyddorau, mae Noah yn astudio Iechyd Poblogaethau a’r Gwyddorau Meddygol tra bod Jenny yn gweithio yn y Gyfadran Gwyddoniaeth a Pheirianneg. Roeddent yn rhan o dîm o 127 o staff, myfyrwyr a chyn-fyfyrwyr a gofrestrodd i redeg ar ran Cymryd Camau Breision dros Iechyd Meddwl.

Mae’r Ymgyrch yn cefnogi ymchwil hanfodol i atal hunanladdiad a gynhelir yn y Brifysgol yn ogystal â chefnogi iechyd meddwl a lles  myfyrwyr.

Eleni cododd Tîm Abertawe fwy nag £11,500 a chyfanswm o £58,000 yn ystod y tair blynedd y mae'r Brifysgol wedi bod yn brif noddwr y digwyddiad.

Meddai Pennaeth Datblygu ac Ymgysylltu Prifysgol Abertawe, Rachel Thomas: “Rydym yn falch o bob aelod o Dîm gwych Abertawe a wnaeth ei ran i helpu achos mor wych, ond mae ennill teitl yr Her Gorfforaethol hefyd yn fonws go iawn. Roedd y ffaith bod y pedwar buddugol yn staff a myfyrwyr yn adlewyrchu sut roedd y digwyddiad yn dod â phobl ynghyd o bob rhan o gymuned ein Prifysgol.”

Ychwanegodd Tash Smith, o Front Runner Events: “Rydym wedi mwynhau gweithio gyda Phrifysgol Abertawe yn fawr nid yn unig fel ein noddwr teitl ond hefyd gyda’i hymgyrch Camau Breision. Mae ennill yr Her Gorfforaethol wedi bod yn eisin ar y gacen i Dîm Abertawe. Pleser o'r mwyaf oedd gweld festiau porffor y tîm yn croesi'r llinell ar ddiwrnod y ras. Da iawn Dîm Abertawe.”

Denodd yr Hanner Marathon eleni fwy na 7mil a hanner o redwyr ac mae ceisiadau eisoes yn cael eu derbyn ar gyfer digwyddiad y flwyddyn nesaf a gynhelir ddydd Sul, 7 Mehefin, 2026.

 

Rhannu'r stori