Llun agos o law plentyn yn dal pensil

© Matthew Horwood Photography

Mae ymchwil newydd yn awgrymu bod aros yn yr ysgol yn gysylltiedig â llai o apwyntiadau yn yr ysbyty yng nghanol eich oes.

Roedd astudiaeth a gyhoeddwyd yn yr European Journal of Public Health yn archwilio'r berthynas rhwng cofnodion addysgol tua 7,000 o bobl a anwyd yn y 1950au yn Aberdeen a'u defnydd nhw o'r GIG yng nghanol eu hoes.

Darganfyddodd ymchwilwyr o brifysgolion Southampton, Abertawe ac Aberdeen - a gefnogwyd gan Y Sefydliad Cenedlaethol dros Ymchwil Iechyd a Gofal (NIHR) - fod plant gyda gallu academaidd uwch a oedd yn aros mewn addysg amser llawn am gyfnod hwy, ar gyfartaledd, yn defnyddio gwasanaethau'r GIG yn llai aml yng nghanol eu hoes.

Dywedodd Dr Sebastian Stannard, prif ymchwilydd yr astudiaeth o Brifysgol Southampton: "Mae hwn yn fewnwelediad diddorol i fywydau pobl dros 70 mlynedd yn ôl mewn un rhan o'r DU. Gallwn ni gymharu'r data di-enw o'r adeg honno â'r bobl hynny nawr er mwyn darganfod beth sy'n dylanwadu ar eu hiechyd a'u defnydd o'r GIG.

"Mae'n debyg i gael mynediad at gapsiwl amser, ciplun o blentyndod pobl a'i gymharu â bywydau'r bobl hynny nawr". Ychwanegodd yr Athro Rhiannon Owen o Brifysgol Abertawe: "Cyfrannodd raglenGwyddor Data Poblogaethau ym Mhrifysgol Abertawe at ddyluniad yr ymagwedd fethodolegol a wnaeth ein galluogi ni i adnabod y cyswllt rhwng cyrhaeddiad addysgol yn ystod plentyndod a defnydd o ofal iechyd yn ystod oedolaeth. Gellir defnyddio'r dulliau hyn i gydgrynhoi llawer o wybodaeth i'n helpu i ddatgelu perthnasoedd cymhleth a fydd yn ein galluogi i ddefnyddio'r data yn y ffordd orau er mwyn mynd i'r afael â heriau pwysig a chymhleth ym maes iechyd a gofal cymdeithasol".

Mae'r ymchwilwyr yn gobeithio y gallan nhw adnabod ffactorau a all ddylanwadu ar iechyd pobl heddiw - yn enwedig baich cyflyrau hirdymor - drwy archwilio data hanesyddol dienw. Mae hyn yn aml yn cynnwys nifer y meddyginiaethau neu apwyntiadau gyda'r GIG y mae angen i unigolion eu rheoli wrth iddynt fynd yn hŷn.

Dywedodd yr Athro Nisreen Alwan MBE, sy'n arwain ymchwil i Gymunedau Iach ar gyfer NIHR ARC Wessex ac sy'n gyd-awdur yr astudiaeth hon: "Mae'r astudiaeth hon yn cadarnhau'r cyswllt rhwng

cyrhaeddiad addysgol ac iechyd yn hwyrach mewn bywyd. Mae canolbwyntio ar addysg yn ystod blynyddoedd cynnar bywyd nid yn unig yn fuddiol yn y tymor byr, ond gall hefyd effeithio ar iechyd yn y tymor hir".

Mae'r ymchwil hon yn rhan o'r prosiect MELD-B ehangach, sy'n defnyddio dadansoddiad, sydd wedi'i hybu gan Ddeallusrwydd Artiffisial, o ddata carfan enedigaeth a chofnodion iechyd electronig i nodi cyfnodau allweddol yn ystod bywyd ac adegau ymyrraeth er mwyn atal cyflyrau iechyd hirdymor amryfal sydd â dechreuad cynnar ac sy'n faich. Ariennir y prosiect gan y NIGR a chaiff ei gefnogi gan NIHR ARC Wessex.

Darllenwch fersiwn lawn Exploring the relationship between education and academic ability in childhood with healthcare utilization in adulthood: findings from the Aberdeen Children of the 1950s.

Rhannu'r stori