
Mae Joe Nash, Hyrwyddwr Cymraeg a raddiodd yn ddiweddar, yn grynhoi ei amser yn astudio Ieithoedd Modern yn Abertawe: "trawsnewidiol". Baneri Portiwgal, Catalonia, Yr Eidal, Brasil
Mae mwy o ieithoedd bellach ar gael i fyfyrwyr yn Abertawe, wrth ychwanegu Catalaneg, Eidaleg a Phortiwgaleg i'r brif raglen radd, ar yr un pryd â sefydlu cyswllt newydd â'r Gymdeithas Dysgu Ieithoedd: dau arwydd sy'n dangos bod ieithoedd yn ffynnu ym Mhrifysgol Abertawe.
Mae astudio ieithoedd modern yn Abertawe yn galluogi myfyrwyr i ddilyn graddau israddedig sy'n cynnwys Ffrangeg, Almaeneg a Sbaeneg, ynghyd â disgyblaethau cysylltiedig cyfieithu a chyfieithu ar y pryd, gyda chyfleoedd i astudio a gweithio dramor.
Gall myfyrwyr sy'n dilyn y brif raglen radd, BA Ieithoedd Modern, bellach hefyd gynnwys Catalaneg, Eidaleg a Phortiwgaleg fel opsiynau o lefel dechreuwyr os dymunant. Mae llwybrau eraill y gallant eu dilyn yn cynnwys astudiaethau diwylliannol, addysgu ail iaith, a chyfieithu.
Daw hwb diweddar arall i ieithoedd yn Abertawe o bartneriaeth newydd ei sefydlu gyda'r Gymdeithas Dysgu Ieithoedd (ALL), y brif gymdeithas bwnc i'r rhai hynny sy'n ymwneud ag addysgu ieithoedd rhyngwladol ar bob lefel.
Mae Abertawe wedi dod yn aelod corfforaethol o'r Gymdeithas, gan ymuno ag amrywiaeth o gyrff uchel eu bri gan gynnwys y Cyngor Prydeinig, y cyhoeddwyr geiriaduron Collins, a'r Institut Français a'r Goethe Institut, sef y prif sefydliadau sy'n hyrwyddo Ffrangeg ac Almaeneg yn y drefn honno ledled y DU.
Prif fantais bod yn bartner ALL yw y bydd yn gwella cysylltiadau tîm Ieithoedd Modern Abertawe ag ysgolion ymhellach gan fod gan ALL rwydwaith sy'n cynnwys mwy na 4,000 o athrawon ledled y DU. Eisoes, mae tîm Abertawe wedi bod yn cynnig sesiynau allgymorth rhithwir i ddisgyblion ysgol, er enghraifft ar destun penodol maen nhw'n ei astudio, gyda digwyddiad diweddar ar gyfer ysgolion lleol yn denu tua 250 o ddisgyblion.
Mae Abertawe yn dod yn bartner i ALL hefyd yn cyd-fynd â lansio cangen newydd ALL Cymru yng Nghymru.
Yn fwyaf diweddar, mae Prifysgol Abertawe hefyd wedi lansio rhaglen celfyddydau rhyddfrydol newydd, y BA Anrhydedd Cyfunol. Yn ogystal â'r gyfres gyflawn o fodiwlau iaith Ffrangeg, Almaeneg a Sbaeneg, mae myfyrwyr hefyd yn gallu dewis modiwlau o'r holl feysydd pwnc eraill yn yr Ysgol Diwylliant a Chyfathrebu: hwb arall i egin ieithyddion yng Nghymru a thu hwnt.
Meddai Dr Greg Herman, uwch-ddarlithydd mewn Ieithoedd Modern:
"Mwy o ieithoedd ar gael i'n myfyrwyr a chysylltiadau cryfach â disgyblion ysgol drwy'r Gymdeithas Dysgu Ieithoedd; mae'r ddau ddatblygiad diweddar hyn, ynghyd â derbyn mwy o fyfyrwyr dros y pum mlynedd diwethaf, yn dangos sut mae ieithoedd yn ffynnu ym Mhrifysgol Abertawe.
Bydd cynnig Catalaneg, Eidaleg a Phortiwgaleg yn golygu mwy o ddewis i'n myfyrwyr. Bydd partneriaeth ALL yn ein helpu i hyrwyddo ieithoedd mewn ysgolion ledled y DU.
Yn ogystal â rhoi dewis eang o opsiynau i chi eu dilyn, mae astudio ieithoedd yn Abertawe yn cynnig mynediad at labordai iaith, gwasanaethau ffrydio, a thechnoleg cyfieithu a chyfieithu ar y pryd. Hefyd, wrth gwrs, mae gennych yr opsiwn i dreulio eich trydedd flwyddyn dramor, gyda chymorth ein staff, yn rhai o leoedd mwyaf cyffrous Ewrop.
Rydym yn edrych ymlaen at glywed gan unrhyw un sydd eisiau darganfod mwy am astudio ieithoedd gyda ni yma yn Abertawe. Cysylltwch â ni!”
Sylwadau myfyrwyr:
Freddie Bercow:
"Roedd Eidaleg i Ddechreuwyr yn gyflwyniad gwych i'r iaith a'r diwylliant – yn ddiddorol, yn hwyl, ac yn sylfaen wych ar gyfer fy nhaith ieithoedd modern!"
Bryher Thornton-Brake:
"Rydw i wedi bod eisiau dysgu Eidaleg ers pan roeddwn i'n ifanc iawn, ac roedd yn hynod werthfawr caffael yr iaith a chael siarad mor gyflym, yn enwedig mewn awyrgylch mor hwyliog, heb ormod o bwysau. Rwy'n llawn cyffro wrth barhau i astudio Eidaleg eleni."
Gwnaeth Joe Nash, Hyrwyddwr Cymraeg a raddiodd yn ddiweddar, grynhoi ei amser yn astudio Ieithoedd Modern yn Abertawe:
"Mae astudio Sbaeneg ym Mhrifysgol Abertawe wedi bod yn drawsnewidiol. O ddarlithwyr cefnogol i fodiwlau sy'n ysgogol yn ddeallusol, mae pob eiliad wedi dyfnhau fy nghariad at yr iaith. Roedd fy amser yma yn fythgofiadwy ac wedi cyfrannu at fy hyder fel cyfathrebwr byd-eang."