Delwedd o'r feirws sy'n achosi Covid-19. Credyd: Fusion Medical Animation - Unsplash

Credyd: Fusion Medical Animation - Unsplash

Mae ymchwil arloesol a arweinir gan academydd o Brifysgol Abertawe wedi datgelu glycosystem synthetig - nanoronyn polymer â siwgr drosto - sy'n medru atal Covid-19 rhag heintio celloedd dynol, gan leihau cyfraddau heintio bron 99%.

Mae'r glycosystem yn ronyn sydd wedi'i ddylunio'n arbennig ac sy'n efelychu'r siwgrau naturiol a welir ar gelloedd dynol. Mae'r siwgrau hyn, a adnabyddir fel polysialosidau, wedi cael eu gwneud o unedau o asid sïalig sy'n ailadrodd - strwythurau y mae feirysau yn aml yn eu targedu er mwyn dechrau haint. Drwy gopïo’r strwythur hwn, mae'r moleciwl synthetig yn gweithredu fel abwyd, yn rhwymo wrth brotein sbigyn y feirws ac yn ei atal rhag glynu wrth gelloedd go iawn.

Yn wahanol i frechlynnau, sy'n ysgogi ymatebion imiwn, mae'r moleciwl hwn yn gweithredu fel tarian corfforol, gan gynnig ymagwedd newydd at atal heintiau.

Gan ddefnyddio technegau labordy uwch i fesur rhyngweithiadau moleciwlaidd ac i efelychu rhwymo feirysau, darganfyddodd ymchwilwyr fod y glycosystem yn glynu wrth y feirws 500 gwaith yn gryfach na chyfansoddyn tebyg sy'n cynnwys sylffadau ond nad yw'n cynnwys siwgrau. Roedd hefyd yn effeithiol ar ddosau isel iawn ac roedd yn gweithio'n erbyn straen gwreiddiol SARS-CoV-2 , a'r amrywiolyn D614G sy'n fwy heintus.

Dangosodd brofion ar gelloedd ysgyfaint bodau dynol leihad o 98.6% mewn heintiau pan oedd y moleciwl yn bresennol. Yn hollbwysig, amlygodd yr ymchwil fod ei effeithiolrwydd nid yn unig yn deillio o'i lwythiad, ond o'i strwythur siwgr cywir - sy'n rhoi'r gallu pwerus i'r glycosystem atal heintiau.

Mae'r darganfyddiad yn ganlyniad cydweithrediad rhwng Prifysgol Abertawe, Freie Universität Berlin, a Charité – Universitätsmedizin Berlin.

Fel y prif awdur gohebu a goruchwyliwr ymchwil, dywedodd Dr Sumati Bhatia, Uwch-ddarlithydd mewn Cemeg ym Mhrifysgol Abertawe: "Mae arwain yr ymchwil hon, ochr yn ochr â’n partneriaid rhyngwladol, wedi bod yn wobrwyol iawn. Mae'n cyflwyno cyfeiriad newydd ar gyfer defnyddio glycosystemau fel strategaeth therapiwtig yn erbyn SARS-CoV-2 a gallai osod y sylfaen ar gyfer dosbarth newydd o driniaethau gwrthfirol i ddiogelu’r rhai hynny sydd fwyaf mewn perygl".

Mae'r tîm bellach yn paratoi ar gyfer profi biolegol pellach mewn labordai cyfyngiant uchel i asesu effeithiolrwydd y moleciwl yn erbyn straeniau niferus y feirws.

Gallai’r darganfyddiad hwn lywio'r ffordd ar gyfer chwistrelliadau trwynol gwrthfirol, diheintyddion arwyneb, a thriniaethau i ddiogelu grwpiau sy'n agored i niwed, gan gynnig math newydd o amddiffyniad yn erbyn Covid-19 a phandemigau yn y dyfodol.

Darllenwch yr astudiaeth lawn: “Polysialosides Outperform Sulfated Analogues for Binding with SARS‐CoV‐2.”

Rhannu'r stori