
Mae cymdeithasegydd o Abertawe wedi'i anrhydeddu gan y cyfnodolyn Current Sociology, am ei ymchwil newydd i hunan-optimeiddio, sef term am syniadau ac arferion sydd a’r nod o wella at eich hun. Mae enghreifftiau'n amrywio o lyfrau a phodlediadau hunangymorth a dyfeisiau hunan-dracio (yn y llun).
Mae cymdeithasegydd o Abertawe wedi'i anrhydeddu gan y cyfnodolyn Current Sociology, a gyhoeddir gan y Sefydliad Cymdeithasegol Rhyngwladol, am ei ymchwil newydd i hunan-optimeiddio, sef term am syniadau ac arferion sydd a’r nod o wella at eich hun yn barhaus. Mae enghreifftiau'n amrywio o lyfrau a phodlediadau hunangymorth a dyfeisiau hunan-dracio, atchwanegiadau maethol a llawdriniaeth gosmetig.
Mae Dr Daniel Nehring yn Uwch-ddarlithydd mewn Troseddeg yn yr Adran Troseddeg, Cymdeithaseg a Pholisi Cymdeithasol.
Fel cymdeithasegydd mae ganddo ddiddordeb arbennig mewn canlyniadau personol globaleiddio a'r newidiadau cyflym ac annarogan iawn sy'n ail-greu’r byd cymdeithasol.
Mae wedi ennill Dyfarniad Cymdeithasegydd y Mis, gan y cyfnodolyn Current Sociology, am ei erthygl yn y rhifyn diweddaraf, dan y teitl Self-optimisation: Conceptual, discursive and historical perspective. Ysgrifennodd yr erthygl ar y cyd â Dr Anja Röcke o Brifysgol Humboldt, Berlin.
Current Sociology yw cyfnodolyn blaenllaw'r Sefydliad Cymdeithasegol Rhyngwladol (ISA), sefydliad academaidd byd-eang blaenllaw yn y maes.
Sefydlwyd yr ISA ym 1949 dan nawdd UNESCO. Mae'n aelod o’r Cyngor Gwyddoniaeth Rhyngwladol ac mae ganddo statws ymgynghorol NGO gyda Chyngor Economaidd a Chymdeithasol y Cenhedloedd Unedig (ECOSOC).
Meddai Dr Daniel Nehring:
"Rwy'n falch ac yn ddiolchgar am y dyfarniad hwn, am ymchwil ar fater sy'n chwarae rôl fwyfwy bwysig ym mywydau pobl o amgylch y byd."
Amlinellodd yr hyn y mae'r papur ymchwil yn ei gynnwys ac yn ei gyfrannu:
"Mae arferion hunan-optimeiddio yn ceisio gwella agweddau o'ch hunan mewn ffordd gyson, agored o bosib a rhesymol. Mae hunan-optimeiddio yn ymwneud â meysydd megis ffitrwydd, maeth, harddwch perfformiad gwybyddol a chorfforol, rhywioldeb a pherthnasoedd cymdeithasol
Gall holl nodweddion y corff, eich hunan a'ch ffordd o ryngweithio ag eraill ym mywyd pob dydd gael eu hoptimeiddio, gan ddefnyddio ystod eang o ddulliau a thechnolegau gwahanol megis llyfrau a phodlediadau hunangymorth, dyfeisiau hunan-dracio, atchwanegiadau maethol neu lawdriniaeth gosmetig
Mae'r ymdrech am optimeiddio wedi'i hymgorffori'n ddwfn mewn diwylliant o 'uwchraddio' neu 'ail-greu' mewn polisi cyhoeddus ac mewn strategaethau marchnata ar gyfer cynnyrch a gwasanaethau sydd â'r bwriad o droi pobl i'r fersiwn orau o'u hunain
Yn y papur rydyn ni'n dadlau nad yw hunan-optimeiddio wedi’i gysyniadu’n fawr iawn hyd yn hyn mewn ymchwil gymdeithasegol. Rydym yn gosod y cyd-destun ehangach sy'n angenrheidiol i gywiro hyn a chynnig fframwaith dadansoddol.
Yn y ffordd hon mae ein hymchwil yn helpu i wella ein dealltwriaeth o'r ffenomen fwyfwy helaeth a sylweddol hon mewn cymdeithas fodern."
Darganfyddwch fwy am ymchwil Dr Nehring
Troseddeg, Cymdeithaseg a Pholisi Cymdeithasol - astudio yn Abertawe