
Cofnododd y tîm y gwelwyd y siarc llygatfain ddwywaith ddiwedd 2024 - yn gyntaf ar 14 Rhagfyr ar ddyfnder o 23 metr yn ne’r Great Chagos Bank, ac eto ar 30 Rhagfyr, 11.4 km i ffwrdd ar ddyfnder o 29.2 metr. Credyd: Charlotte Oulton.
Mae'r siarc llygatfain wedi'i gofnodi am y tro cyntaf ar y Great Chagos Bank, strwythur atol cwrel mwyaf y byd - sy'n nodi datblygiad mawr o ran deall amrediad daearyddol y rhywogaeth hon sydd o dan beth fygythiad.
Mae'r ffaith iddo gael ei weld yn ddiweddar mewn dolydd morwellt dŵr dwfn yn amlinellu pwysigrwydd ecolegol Ynysfor Chagos a'i Ardal Forol Warchodedig, gan ddatgelu bioamrywiaeth nas darganfuwyd o'r blaen yn ei riffiau a'i gwelyau morwellt.
Wedi'i enwi am ei lygaid meinion nodedig, - y credir eu bod yn gwella golwg mewn amodau golau isel - mae'r siarc llygatfain (Loxodon macrorhinus) wedi addasu'n dda i amgylcheddau dyfnach, â golau gwan yn ogystal â dŵr clir, bas, ac mae bellach wedi'i ddarganfod yn Ynysfor Chagos am y tro cyntaf.
Fe’i gwelwyd mewn morwellt nad oedd wedi'i astudio o'r blaen ar ymyl deheuol y Great Chagos Bank. Cofnodwyd y siarcod dim ond 11 km oddi wrth ei gilydd, ar ddyfnderoedd o 23-29 metr gan ddefnyddio systemau Fideo Tanddwr o Bell ag Abwyd (BRUV) — systemau arolygu tanddwr sy'n denu ac yn cofnodi bywyd morol heb aflonyddu arnynt.
Mae'r arsylwadau hyn yn cynnig cipolwg newydd ar gynefinoedd morwellt dŵr dwfn a ddarganfuwyd gyntaf gan y tîm yn 2016.
O ystyried dosbarthiad eang y rhywogaeth, mae ymchwilwyr yn credu ei bod yn annhebygol ei bod yn brin yn Chagos.
Meddai Charlotte Oulton, arweinydd yr astudiaeth a myfyrwraig Meistr drwy Ymchwil yn y Labordy Ecoleg Forol a Chadwraeth ym Mhrifysgol Abertawe: “Roedd darganfod y siarc llygatfain yn Ynysfor Chagos yn hynod gyffrous. Nid yn unig y mae'n record newydd i'r rhanbarth, ond mae hefyd yn tynnu sylw at faint sydd gennym i'w ddysgu o hyd am ecosystemau morwellt dŵr dwfn a'u rôl wrth gynnal bioamrywiaeth forol, yn enwedig mewn rhanbarthau anghysbell yng Nghefnfor India.”
Ychwanegodd Dr Nicole Esteban, Athro Cysylltiol mewn Ecoleg Forol ym Mhrifysgol Abertawe: “Wrth olrhain crwbanod gwyrdd drwy loeren rydyn ni wedi darganfod dolydd morwellt helaeth ar y Great Chagos Bank ar ddyfnderoedd o 25–30 metr - llawer dyfnach nag a ddisgwyliwyd. Rydym bellach wedi cofnodi amrywiaeth eang o fywyd morol yn defnyddio'r cynefin morwellt hwn ar gyfer lloches a bwyd, gan gynnwys dros 110 o rywogaethau pysgod, ac fel y gwyddom bellach, y siarc llygatfain.”
Gyda rhagolygon y bydd poblogaethau siarcod llygatfain yn gostwng hyd at 29% yn y 15 mlynedd nesaf oherwydd pwysau pysgota, mae'r darganfyddiad hwn yn codi cwestiynau pwysig ynghylch niferoedd rhywogaethau, defnydd o gynefinoedd, a blaenoriaethau cadwraeth. Mae hefyd yn atgyfnerthu'r angen brys i archwilio a gwarchod cynefinoedd dŵr dwfn.
Mae'r canfyddiadau diweddaraf hyn, yn seiliedig ar arolygon a gynhaliwyd ddiwedd 2024, yn rhan o brosiect cydweithredol rhwng Prifysgol Abertawe a phartneriaid rhyngwladol, a ariennir gan Sefydliad Bertarelli drwy Raglen Gwyddor Morol Cefnfor India Sefydliad Bertarelli.
Nodau'r ymchwil yw:
- Mapio hyd a lled y morwellt presennol
- Modelu addasrwydd cynefinoedd i ragamcanu hyd a lled tebygol twf morwellt
- Asesu pwysigrwydd ecolegol ecosystemau morwellt dŵr dwfn ar draws yr Archipelago.
Disgwylir i'r canfyddiadau llawn gael eu cyhoeddi yn 2026.