
Mae astudiaeth ryngwladol o bwys wedi darganfod bod pobl ar draws y byd yn ystyried mwy na nifer y partneriaid rhywiol y mae rhywun wedi'u cael wrth iddynt ddewis partner hirdymor - maen nhw’n ystyried hefyd pryd y digwyddodd y perthnasoedd hynny.
Dyma'r tro cyntaf y mae ymchwilwyr wedi archwilio amseru hanes rhywiol yn ogystal â nifer - gan gynnig safbwynt newydd ar seicoleg paru dynol.
Fe'i harweiniwyd gan Brifysgol Abertawe, a gwnaeth yr astudiaeth holi mwy na 5,000 o gyfranogwyr o 11 gwlad ar draws pum cyfandir. Darganfu fod pobl yn llai parod i ymrwymo i rywun a oedd wedi cael nifer uchel o bartneriaid rhywiol ond yn fwy agored pe bai’r perthnasoedd hynny wedi dod yn llai mynych dros amser, gan awgrymu cefnu’n raddol ar ryw achlysurol.
Esbonia'r prif ymchwilydd, Dr Andrew G. Thomas o Ysgol Seicoleg Prifysgol Abertawe: "Mae pobl yn defnyddio hanes rhywiol fel ciw i asesu risg perthynas. Yn y gorffennol, gallai gwybod beth oedd hanes rhywiol rhywun helpu pobl i osgoi risgiau fel clefydau a drosglwyddir yn rhywiol (STIs), anffyddlondeb, ansefydlogrwydd emosiynol neu gystadleuaeth rhwng cyn-bartneriaid.
"Mae astudiaethau blaenorol wedi dangos bod pobl yn gyffredinol yn llai tebygol o geisio cael perthynas ag unigolion sydd wedi cael llawer o bartneriaid rhywiol yn y gorffennol. Serch hynny, yr hyn sy'n ddiddorol am ganfyddiadau'r astudiaeth hon yw bod yr effaith hon yn lleihau pan ddigwyddodd y perthnasoedd hynny'n bennaf yn y gorffennol a gwelwyd yr un canfyddiadau ledled y byd.”
Dangoswyd llinellau amser gweledol syml i gyfranogwyr a oedd yn cynrychioli hanes rhywiol darpar bartner. Roedd pob llinell amser yn dangos yr un nifer o gyn-bartneriaid, ond rhai â phatrymau gwahanol - roedd rhai’n fwy mynych yn gynharach mewn bywyd, eraill wedi'u gwasgaru'n gyfartal a rhai yn gostwng dros amser. Yna bu cyfranogwyr yn graddio eu parodrwydd i ymrwymo i berthynas, gan ddatgelu bod amseru perthnasoedd yn y gorffennol, yn enwedig pe bai perthynas rywiol â phartneriaid newydd wedi arafu dros amser, yn llywio eu canfyddiadau'n sylweddol.
Fe'i cyhoeddwyd yn Scientific Reports, a chanfu'r astudiaeth braidd dim tystiolaeth o safonau rhywiol dwbl, gyda'r dynion a'r menywod a gymerodd ran yn gwerthuso hanes rhywiol mewn ffyrdd tebyg. Dim ond gwahaniaethau rhywiol bach a gafwyd ar draws gwledydd a diwylliannau.
Meddai Dr Thomas: "Mae canlyniadau'r astudiaeth hon yn awgrymu diffyg safonau rhywiol dwbl, gan herio'r syniad bod menywod yn cael eu beirniadu'n fwy llym am eu gorffennol rhywiol na dynion".
Edrychodd yr astudiaeth hefyd ar sut roedd eu hagweddau eu hunain tuag at ryw achlysurol yn dylanwadu ar eu barn. Nid oedd y rhai hynny a oedd yn fwy agored i berthnasoedd achlysurol yn poeni cymaint am hanes rhywiol partner, er y gwnaethant ddangos peth sensitifrwydd tuag ato.
I gloi, meddai Dr Thomas: "Gall disgwrs ar-lein o ran hanes rhywiol pobl fod yn llym, ond mae canlyniadau'r astudiaeth hon yn datgelu llun sy'n llawer mwy cynhwysfawr. Y farn gyffredinol yw bod cymdeithas yn beirniadu'r rhai hynny â phrofiad rhywiol anturus yn y gorffennol, ond fel unigolion, mae pobl yn llawer mwy maddeuol, yn enwedig os bydd agwedd rhywun at ryw wedi newid.
"Mae canlyniadau'r astudiaeth hon yn taflu goleuni ar natur fyd-eang ein seicoleg rywiol ond gellid eu defnyddio i herio trafodaeth wreig-gasaol am hanes rhywiol ar-lein".
Darllenwch ‘Sexual partner number and distribution over time affect long-term partner evaluation: Evidence from 11 countries across 5 continents’ yn llawn.