Darlun o gelloedd coch y gwaed a phlaten yn llif y gwaed. Cydnabyddiaeth: digitale.de yn Unsplash.

Mae ymchwil newydd y tîm yn datgelu bod platennau hefyd yn storio DNA, gan gynnig arloesi newydd ym maes sgrinio am ganser. Cydnabyddiaeth: digitale.de yn Unsplash.

Mae Prifysgol Abertawe wedi helpu i ddarganfod rôl newydd annisgwyl ar gyfer platennau - un a allai wella’n sylweddol y potensial i ganfod canser yn gynnar.

Mae astudiaeth arloesol, dan arweiniad Prifysgol Rhydychen a gyhoeddwyd yn Science, wedi datgelu bod platennau'n gweithredu fel carthyddion, gan ddal a storio darnau o DNA sy'n cylchredeg yn y gwaed, gan gynnwys DNA wedi'i fwtanu mewn cleifion sydd wedi cael diagnosis o ganser.

Pan fydd celloedd yn marw, maent yn rhyddhau deunydd genetig i lif y gwaed, gan sbarduno ymatebion imiwnedd dieisiau neu broblemau iechyd eraill.

Hyd yn hyn, nid yw gwyddonwyr wedi deall yn llawn sut mae'r corff yn cael gwared â’r moleciwlau hyn a allai fod yn niweidiol, ond mae ymchwil y tîm yn awgrymu bod platennau'n amsugno DNA crwydr, gan helpu i lanhau'r gwaed a chynnal cydbwysedd imiwnedd.

Mae dadansoddi  DNA platennau drwy brawf gwaed syml wedi llwyddo i ganfod presenoldeb newidiadau cyn-ganseraidd hyd yn oed, gan baratoi'r ffordd ar gyfer dulliau sgrinio am ganser cynnar a chywir sy'n llai mewnwthiol.

Gwnaeth yr Athro Paul Rees o Gyfadran Gwyddoniaeth a Pheirianneg Abertawe, a gyd-oruchwyliodd y prosiect, chware rhan allweddol wrth ddadansoddi data microsgopeg a gadarnhaodd y broses hon.

Meddai'r Athro Rees: "Roedd rôl platennau, sy'n ymwneud yn bennaf â tholchennu gwaed, wrth amsugno o’r gwaed DNA a geir y tu allan i gelloedd yn gwbl annisgwyl. Hefyd, mae'r amddiffyniad y maen nhw'n ei roi i'r DNA mewnol rhag diraddio yn y gwaed yn golygu bod y ffynhonnell hon o DNA platennau yn berffaith ar gyfer canfod addasiadau a mwtaniadau sy'n nodi afiechydon fel canser yn y corff yn gynnar iawn."

Mae dadansoddi DNA sy'n cylchredeg yn y gwaed yn dod i'r amlwg fel dull sgrinio pwysig mewn nifer o leoliadau gofal iechyd. Fodd bynnag, mae dulliau presennol yn cael gwared â’r platennau ac yn canolbwyntio’n unig ar blasma gwaed pan fydd y platennau wedi’u tynnu.

Meddai prif awdur y prosiect, Dr Lauren Murphy, ymchwilydd ôl-ddoethurol o Sefydliad Meddygaeth Foleciwlaidd MRC Weatherall:  "Mae ein hastudiaeth yn awgrymu y gallai platennau fod hyd yn oed yn bwysicach i'n hiechyd nag yr oeddem yn sylweddoli o'r blaen. Mae hefyd yn dangos bod dulliau sgrinio ar sail biopsi hylif presennol yn anwybyddu gwybodaeth genetig werthfawr sydd wedi'i chynnwys o fewn platennau."

Yn rhyfeddol, darganfu'r tîm hefyd dystiolaeth o DNA ffetws ym mhlatennau mamau beichiog, gan gynnig posibiliadau newydd o fireinio a gwella dulliau profi genetig a ddefnyddir heddiw.

Meddai Dr Bethan Psaila, Athro Cysylltiol Haematoleg ym Mhrifysgol Rhydychen ac uwch-awdur yr astudiaeth: "Roedd ein darganfyddiad bod platennau'n gweithredu fel ‘sugnwyr llwch’ DNA bychain yn y gwaed yn annisgwyl. Un canlyniad ffodus o hyn yw bod platennau'n meddu ar nodweddion o ddifrod DNA sydd wedi digwydd ym mhob meinwe yn ein cyrff - a gallai dadansoddi platennau wella profion sgrinio, gan gynnwys ar gyfer canser."

Roedd yr astudiaeth yn ymdrech gydweithredol rhwng ymchwilwyr yn Rhydychen, Prifysgol Caeredin, a Phrifysgol Abertawe. Cafodd ei chefnogi gan Cancer Research UK a'i gwneud yn bosibl diolch i roddion samplau hael gan gleifion.

Rhannu'r stori