Mae ymchwil Dr Ross Davey (yn y llun) yn canolbwyntio ar wella sut mae meddygon a gweithwyr gofal iechyd proffesiynol y dyfodol yn cael eu hyfforddi i addysgu.

Mae ymchwil Dr Ross Davey (yn y llun) yn canolbwyntio ar wella sut mae meddygon a gweithwyr gofal iechyd proffesiynol y dyfodol yn cael eu hyfforddi i addysgu.

Mae arbenigwr o Brifysgol Abertawe sy'n ymchwilio i sut i wella sgiliau addysgu ymhlith gweithwyr gofal iechyd proffesiynol wedi ennill ysgoloriaeth deithio gan Gwmni Anrhydeddus Lifrai Cymru, a fydd yn ei alluogi i rannu ei ganfyddiadau yn rhyngwladol.

Mae ymchwil Dr Ross Davey yn canolbwyntio ar wella sut mae meddygon a gweithwyr gofal iechyd proffesiynol y dyfodol yn cael eu hyfforddi i addysgu. Yng Nghyfadran Meddygaeth, Iechyd a Gwyddor Bywyd Prifysgol Abertawe, mae ef yn helpu i arwain rhaglen lle mae myfyrwyr meddygaeth yn gweithio fel uwch-gynorthwywyr addysgu, gan gefnogi dysgu eu cyfoedion o feysydd anatomeg, ffisioleg a sgiliau clinigol.

Roedd dyfarniad Ross gan y Cwmni yn dilyn cystadleuaeth a oedd ar agor i ymchwilwyr Prifysgol Abertawe sydd yng nghyfnodau cynnar eu gyrfa.

Fel rhan o'i radd Meistr mewn addysg feddygol, gwnaeth Ross ddatblygu a phrofi rhaglen hyfforddi newydd i roi sgiliau addysgu cryf i addysgwyr ar ddechrau eu gyrfa o'r cychwyn.

Ar hyn o bryd, nid oes dull safonol ledled y DU ar gyfer hyfforddi addysgwyr clinigol ar y cam hwn, gan arwain at arferion anghyson. Mae ei waith yn ceisio newid hyn drwy hyrwyddo canllawiau clir sy'n seiliedig ar dystiolaeth i sicrhau addysgu cyson o safon ar draws y sector addysg gofal iechyd.

Mae Ross wedi cael gwahoddiad i gyflwyno ei waith yn AMEE 2025 yn Barcelona, un o brif gynadleddau addysg feddygol y byd. Mae hyn yn rhoi cyfle iddo rannu model Abertawe'n rhyngwladol a meithrin cydweithrediadau i helpu i sicrhau bod gan y genhedlaeth nesaf o addysgwyr clinigol yng Nghymru yr arbenigedd a'r hyder i hyfforddi gweithwyr gofal iechyd proffesiynol y dyfodol.

Meddai Dr Ross Davey o Ysgol Feddygaeth Prifysgol Abertawe:

"Mae'n anrhydedd i mi dderbyn cyllid gan Gwmni Anrhydeddus Lifrai Cymru i gyflwyno fy ymchwil, a gynhaliais ym Mhrifysgol Abertawe fel meddyg academaidd.

Bydd cyflwyno fy nhraethawd ymchwil yn y gynhadledd uchel ei bri hon yn fy helpu i ddatblygu fel addysgwr ac ysgolhaig, yn ogystal â'm galluogi i gydweithio â chydweithwyr o bob cwr o'r byd, gan weithio i wella hyfforddiant a chymorth i addysgwyr clinigol ar ddechrau eu gyrfaoedd.

Edrychaf ymlaen at ddefnyddio'r trafodaethau hyn i helpu i ddatblygu proses hyfforddi strwythuredig a all godi ansawdd addysgu clinigol yng Nghymru a thu hwnt."

Sefydlwyd Cwmni Anrhydeddus Lifrai Cymru ym 1993 ac un o'i nodau yw "hyrwyddo addysg, gwyddoniaeth, technoleg a'r celfyddydau yng Nghymru." Mae'n cyflawni hyn drwy helpu pobl ifanc ledled Cymru i ddatblygu eu doniau a'u sgiliau drwy raglen dyfarniadau flynyddol o ysgoloriaethau a bwrsariaethau i fyfyrwyr mewn ysgolion, prifysgolion a cholegau technegol, yn ogystal â phrentisiaethau a phobl ifanc yn y lluoedd arfog.

Meddai Meistr y Cwmni, Henry Gilbert:

"Mae'r cyfle amserol hwn i Ross yn dangos sut y gall gwaith mor werthfawr ac arloesol wneud cyfraniad hanfodol at addysg feddygol yng Nghymru. 

Un o nodau'r Cwmni yw annog a chefnogi myfyrwyr i barhau â phrosiect penodol. Rydym yn codi arian drwy ddigwyddiadau elusennol amrywiol a hefyd drwy ymgyrchoedd codi arian ymhlith aelodau'r Cwmni Lifrau ond yn y gymuned ehangach yng Nghymru. Rydym yn annog sefydliadau yng Nghymru sy’n rhannu ein nodau ac sydd â diddordeb mewn hyrwyddo addysg, gwyddoniaeth, technoleg a'r celfyddydau yng Nghymru i gefnogi ein gweithgareddau.                                                                                                     

Rydym yn falch iawn o allu cefnogi Ross wrth fwrw ymlaen â'r prosiect hwn a rhannu ei waith ymchwil pwysig â chynulleidfa ryngwladol a dylanwadol ehangach."

Rhagor o wybodaeth am Gwmni Anrhydeddus Lifrai Cymru

 

Rhannu'r stori