
Mae dealltwriaeth newydd gan Fanc Data SAIL arobryn Prifysgol Abertawe wedi helpu i lywio strategaeth weithredol newydd gwasanaethau ambiwlans Cymru.
Bu'r gwaith ymchwil yn archwilio sut caiff gwybodaeth am iechyd ei defnyddio ac fe'i hysgogwyd gan brosiect a oedd yn rhan o Raglen Interniaeth Haf Gwyddor Data Poblogaethau 2023. Arweiniodd at gyhoeddi papur dulliau ymchwil a oedd yn cynnig dealltwriaeth bwysig o sut gallai Mynegai Amddifadedd Lluosog Cymru (WIMD) gael ei ddefnyddio mewn ymchwil data iechyd.
Mae'r Mynegai yn ffordd o ganfod pa ardaloedd yng Nghymru sydd â'r heriau neu'r anfanteision mwyaf. Mae'n helpu'r llywodraeth a sefydliadau i ddeall lle mae angen y cymorth pennaf drwy archwilio ffactorau gwahanol sy'n effeithio ar fywydau pobl gan gynnwys incwm, iechyd, addysg a mynediad at wasanaethau.
Yn dilyn cyhoeddi'r papur yn BMC Public Health, mae Ymddiriedolaeth GIG Gwasanaethau Ambiwlans Cymru (WAST) yn bwriadu rhoi'r canfyddiadau ar waith - gan ddangos sut gall ymchwil gael dylanwad uniongyrchol ar gyflwyno gwasanaethau iechyd yn y byd go iawn.
Lluniwyd y papur ar y cyd rhwng ymchwilwyr Banc Data SAIL a greodd un adnodd dyfynadwy i ymchwilwyr sy'n defnyddio WIMD ynghyd ag awgrymiadau ar sut caiff yr wybodaeth ei dadansoddi.
Dywedodd Uwch-ddadansoddwr WAST, Adam Nicholls, a'r Arweinydd Datblygu Clinigol, Luke Watkins, y byddai'r papur yn cael effaith uniongyrchol ar eu gwaith pennu lefel risg.
Meddai'r cyd-awdur Dr Hywel Turner Evans, Uwch-wyddonydd Data ac Arweinydd Cymorth Defnyddwyr Banc Data SAIL: "Dyma'r math o effaith rydyn ni’n gobeithio ei chael - os ydyn ni’n lwcus - ar ryw bwynt yn ein gyrfaoedd. Dylen ni i gyd fod yn falch iawn o'r hyn a gyflawnwyd yn y prosiect hwn.
"Mae gweld rhywbeth sy'n cael ei ddatblygu mewn interniaeth dros yr haf ac yna'n cael ei fabwysiadu gan dimau gweithredol yn y GIG o fewn blwyddyn yn anhygoel. Mae'n dangos beth gall dulliau trwyadl a'r partneriaethau cywir ei gyflawni.
"Mae'r cyfle i interniaid gyfrannu at ymchwil o safon yn gwneud y rhaglen hon mor wych".
Ei gyd-awdur oedd yr intern Shamsudeen Mohammed sydd wedi symud ymlaen i fod yn Gymrawd Ymchwil yn Ysgol Hylendid a Meddygaeth Drofannol Llundain.
Ychwanegodd Cyfarwyddwr y Rhaglen Interniaeth Gwyddor Data Poblogaethau, yr Athro Ashley Akbari: "Rydyn ni’n falch o gynnig profiadau go iawn i'n hinterniaid sy'n cysylltu gwyddor data ag effaith gyhoeddus ac ar wasanaethau. Mae'r papur hwn yn enghraifft wych o waith ein hinterniaid ar brosiectau ymchwil weithredol, ar ddatblygiadau technegol ac ar raglenni llawn effaith sy'n cyfrannu'n uniongyrchol at ymchwil a chyflwyniad llawn effaith".
Mwy o wybodaeth am Gynllun Interniaeth Haf Gwyddor Data Poblogaethau
Darllenwch y papur ymchwil llawn