
Cododd y gynulleidfa ar ei thraed i gymeradwyo'r Athro Hallam. Llun: Eisteddfod Genedlaethol
Tudur Hallam, Athro Emeritws Adran y Gymraeg ym Mhrifysgol Abertawe, sydd wedi ennill y Gadair yn Eisteddfod Genedlaethol Wrecsam 2025.
Fe’i cyflwynir am awdl neu gasgliad o gerddi mewn cynghanedd gyflawn, ar fwy nag un o’r mesurau traddodiadol, hyd at 250 llinell, ar y testun ‘Dinas’. Y beirniaid oedd Peredur Lynch, Llŷr Gwyn Lewis a Menna Elfyn.
Mae'r awdl fuddugol yn agor â gêm bêl-droed i ferched yn Sir Gâr, dan hyfforddiant y bardd, cyn symud i Ysbyty Glangwili, lle mae'n cael diagnosis o ganser.
Mewn seremoni emosiynol ddydd Gwener 8 Gorffennaf, cododd y gynulleidfa ar ei thraed i gymeradwyo'r tad priod i dri o blant wrth i'r Archdderwydd ei gyfarch.
Gwnaeth brawd yr Athro Hallam, Gwion, annerch y dorf â cherdd dwymgalon hefyd.
Wrth siarad ar ôl y seremoni, meddai’r Athro Hallam: "Rwy'n credu y gall ysgrifennu fod o gymorth mawr i bobl, ac yn bersonol roeddwn i eisiau ysgrifennu yn syth ar ôl y diagnosis, ond allwn i ddim.
"Rwy'n credu yr oeddwn i mewn cyflwr o sioc, ac yna ym mis Ionawr, ar ôl cael newyddion drwg nad oedd y driniaeth i mi gael mwy o amser wedi bod yn llwyddiannus, yn sydyn dechreuodd y geiriau lifo.
"Rwy'n teimlo'n hapus, yn falch fy mod wedi cystadlu oherwydd doeddwn i ddim yn siŵr a ddylwn i gyflwyno'r awdl ai peidio. Rydw i wedi bod rhwng dau feddwl am y peth oherwydd bod cynnwys yr awdl mor emosiynol, ond mae heddiw yn teimlo fel dathliad. Nawr rwy'n falch fy mod wedi creu rhywbeth cadarnhaol o sefyllfa anodd iawn.”
Roedd 15 wedi cystadlu eleni, y nifer fwyaf ers 1989, a dywedodd y beirniaid y bu hi'n gystadleuaeth "anghyffredin o gref".
Meddai’r beirniad Menna Elfyn: “Canodd prifeirdd eraill am farwolaeth aelodau o deulu neu drasiedi angheuol cydnabod neu ffrindiau iddynt ond dyma’r tro cyntaf i mi ddod ar draws rhywun yn ysgrifennu am ei gyflwr ei hun a’i feidroldeb, yn gignoeth a heb arlliw o hunandosturi.
“Afraid dweud y caiff yr awdl hon ei darllen yn helaeth ac yn enwedig gan y rhai sy’n anghenus a newynog am farddoniaeth fel balm i’r galon mewn dyddiau geirwon. Dyna yw’r hyn y dylai barddoniaeth ei wneud sef ein hatgoffa ni, ie, ohonom ni ein hunain ac mae hon yn bendant yn rhoi gwefrau iasoer ond hefyd yn atsain yn orfoleddus beth yw byw a hynny o enau bardd sy’n canu o dannau tyn ei awen gain.”
Dyma’r eildro i’r Athro Hallam dderbyn y wobr, yn dilyn ei lwyddiant yn y gystadleuaeth yn Eisteddfod Genedlaethol Blaenau Gwent a Blaenau’r Cymoedd yn 2010.