Menyw aeddfed sy'n profi'r menopos gartref yn edrych ar liniadur wrth gael pwl o wres ac yn ffanio ei hun.

Mae adolygiad newydd o dystiolaeth a gynhaliwyd gan academyddion Prifysgol Abertawe i ddeall profiadau ac anghenion pobl Awtistig sy'n gysylltiedig â'r menopos yn well, wedi datgelu bylchau sylweddol mewn gwybodaeth, cymorth a darpariaeth gofal iechyd, ac yn nodi'r angen am adnoddau ac ymyriadau wedi'u targedu.

Cynhaliodd Dr Aimee Grant o Ysgol Iechyd a Gofal Cymdeithasol y Brifysgol, a arweiniodd yr adolygiad a gyhoeddwyd yn y cyfnodolyn Autism in Adulthood, chwiliad systematig o astudiaethau academaidd a chyfrifon uniongyrchol i archwilio profiadau pobl Awtistig o'r menopos.

Nododd dri chanfyddiad allweddol: diffyg gwybodaeth am y menopos; profiadau o ystod eang o symptomau’r menopos a thriniaeth annigonol o symptomau’r menopos.

Nododd yr adolygiad nad oedd pobl Awtistig yn aml yn ymwybodol o symptomau'r menopos pan ddechreuon nhw eu profi, ond roedd fforymau ar-lein a grwpiau cyfoedion yn chwarae rhan hanfodol wrth eu helpu i ddysgu am y newid menopos a rhannu eu profiadau.

Yn ail, awgrymodd yr adolygiad fod ystod eang o symptomau’r menopos yn cael eu hadrodd gan bobl Awtistig gan gynnwys heriau iechyd meddwl, problemau gwybyddol, blinder, gweithredu llai, aflonyddwch wrth gysgu, chwiwiau poeth a chwysu yn ystod y nos. Mae'r rhain yn debyg i'r hyn a welir mewn grŵp cyffredinol o bobl sy'n profi'r menopos, ond gallai pobl Awtistig hefyd ganfod bod eu sensitifrwydd synhwyraidd wedi cynyddu, gan arwain weithiau at orlethu a gofid sylweddol. Canfu dwy astudiaeth fod pobl Awtistig yn dangos symptomau menopos gwaeth na phobl nad ydynt yn Awtistig. Dywedodd rhai cyfranogwyr fod symptomau'r menopos wedi effeithio ar waith, perthnasoedd a sut roeddent yn teimlo amdanynt eu hunain.

Yn olaf, nododd y dadansoddiad fod y driniaeth a'r cymorth a brofwyd gan bobl Awtistig yn amrywio'n fawr ac roedd llawer ohonynt yn defnyddio strategaethau ymdopi anfeddygol, fel mwy o orffwys. Disgrifiwyd y rhan fwyaf o'r rhyngweithiadau â gweithwyr gofal iechyd proffesiynol fel rhai negyddol ac ychydig o gyfranogwyr oedd wedi rhoi cynnig ar Therapi Adfer Hormonau (HRT).

Nododd yr adolygiad sawl maes nad oedd digon o ymchwil ynddo:

  • Effaith y menopos ar grwpiau dan anfantais ymysg y gymuned Awtistig
  • Symptomau troethgenhedlol, gan gynnwys anymataliaeth wrinol
  • Y defnydd o HRT a’i effeithiolrwydd
  • Datblygu a phrofi adnoddau i gefnogi pobl Awtistig yn ystod y menopos

Meddai Dr Grant: “Mae fy adolygiad yn dangos bod angen gwirioneddol i ddatblygu adnoddau o ansawdd uchel, wedi’u cyd-gynhyrchu i helpu pobl Awtistig i baratoi ar gyfer y menopos. Rwyf hefyd yn credu y dylid archwilio a gwerthuso modelau cymorth gan gymheiriaid a bod angen hyfforddiant a gwybodaeth wedi'u teilwra i weithwyr gofal iechyd proffesiynol er mwyn darparu gofal priodol i bobl Awtistig yn ystod y cyfnod bywyd hwn.”

Meddai Willow Holloway, Cyfarwyddwr Autistic UK ac un o awduron yr astudiaeth: “Mae angen cydnabod ar frys yr anghenion cyfathrebu a mynediad gwahanol sydd gan bobl Awtistig yn ystod y menopos. Mae'n bwysig bod gweithwyr iechyd proffesiynol yn canolbwyntio ar y rhwystrau ychwanegol sy'n gysylltiedig â bod yn Awtistig, a all arwain at ychwanegu at anghydraddoldebau iechyd presennol. Roedd yr adolygiad hwn yn cynnwys pobl Awtistig â phrofiad byw, ac mae'n hanfodol bod yr atebion yn cael eu datblygu ar y cyd.

Darllenwch yr adolygiad a gyhoeddwyd yn y cyfnodolyn Autism in Adulthood yma.

Rhannu'r stori