
Cydnabyddiaeth: Stansislav Harvancik.
Pam bod rhai anifeiliaid yn defnyddio lliwiau llachar i rybuddio ysglyfaethwyr tra bod eraill yn dewis cuddliwio er mwyn osgoi ymosodiad? I ddysgu rhagor, mae ecolegwyr ledled y byd wedi cydweithio ar astudiaeth fawr newydd sy'n archwilio'r hyn sydd wedi arwain at esblygiad un strategaeth dros strategaethau eraill.
Arweiniodd Dr Iliana Medina, o Brifysgol Melbourne, a Dr William Allen, o Brifysgol Abertawe, arbrawf byd-eang ar draws chwe chyfandir gan ddefnyddio mwy na 15,000 o ysglyfaeth artiffisial mewn tri lliw gwahanol - patrwm rhybuddio clasurol oren a du, lliw brown diflas sy'n cyd-fynd â lliw eu hamgylcheddau, a lliw du a glas llachar unigryw.
Mae eu canfyddiadau, sydd newydd gael eu cyhoeddi yn Science, yn datgelu bod cyd-destun yn hollbwysig wrth atal ysglyfaethwyr, ac mae nifer o ffactorau'n chwarae rhan wrth benderfynu p'un ai strategaeth cuddliwio neu rybuddio sy'n gweithio orau.
Dywedodd y prif awdur, Dr Allen: “Am amser hir, mae gwyddonwyr wedi pendroni pam bod rhai anifeiliaid yn defnyddio un amddiffyniad yn lle'r llall - ac mae'r ateb yn gymhleth. Mae'r gymuned o ysglyfaethwyr, y gymuned o ysglyfaeth a'r cynefin oll yn dylanwadu ar yr ateb. Mae hyn yn helpu i esbonio pam ein bod ni'n gweld anifeiliaid yn cuddliwio ac yn defnyddio lliwiau rhybudd ledled y byd."
Canfu'r astudiaeth mai'r gymuned o ysglyfaethwyr oedd yn cael yr effaith fwyaf ar ba liw ysglyfaeth oedd fwyaf llwyddiannus. Mae canlyniadau'r tîm yn cefnogi'r syniad bod ysglyfaethwyr yn fwy tebygol o ymosod ar ysglyfaeth a all fod yn beryglus neu'n annymunol pan fyddan nhw'n cystadlu'n frwd am fwyd. O ganlyniad, roedd cuddliwio'n fwyaf llwyddiannus mewn ardaloedd lle roedd llawer o ysglyfaethu.
Ond, nid yw cuddliwio bob tro'n gweithio. Roedd ysglyfaeth a oedd wedi'i chuddliwio’n fwy gweladwy mewn amgylcheddau llachar na mewn amgylcheddau tywyllach, ac ymosodwyd arni'n fwy nag ysglyfaeth gyda lliwiau rhybuddio clasurol. Mae bod yn gyfarwydd ag ysglyfaeth sy'n defnyddio strategaethau lliwiau gwahanol hefyd yn bwysig - mewn lleoedd lle mae ysglyfaeth sydd wedi'i chuddliwio yn doreithiog, mae cuddio'n llai effeithiol oherwydd bod ysglyfaethwyr yn fwy llwyddiannus wrth chwilio am ysglyfaeth sydd wedi'i chuddliwio.
Ar y cyfan, dangosodd y canlyniadau sut mae nifer o fecanweithiau yn penderfynu pa strategaeth sydd fwyaf manteisiol mewn sefyllfa benodol.
Ychwanegodd Dr Medina: "Mae rhai cwestiynau ym maes ecoleg yn cynnwys amrywiaeth mor eang o newidion, dim ond cydweithrediad a dyblygiad byd-eang sy'n medru ein helpu i ddeall sut mae natur yn gweithio. Roedd yn bleser gweithio gyda grŵp o gydweithwyr mor amrywiol a wnaeth yr ymchwil hon yn bosibl."
Mae'r ymchwilwyr yn dweud y bydd eu canfyddiadau yn helpu i feithrin dealltwriaeth well o esblygiad a dosbarthiad byd-eang rhai o'r strategaethau lliwiau gwrth-ysglyfaethwyr mwyaf cyffredin ymhlith anifeiliaid.
Darllenwch y papur llawn, Global selection on insect antipredator coloration.