
Credyd: lenina11only | Shutterstock.
Mae ymchwil newydd o Brifysgol Abertawe'n datgelu sut mae gwerthoedd personol, cysylltiadau cymdeithasol, a gallu'r corff i reoli straen yn dylanwadu ar les meddyliol a gofid seicolegol wrth i bobl heneiddio.
Gan dynnu ar ddata o dros 8,000 o gyfranogwyr UK Biobank, ag oedran cyfartalog o 65, mae'r astudiaeth yn amlygu gwybodaeth ymarferol, sy'n seiliedig ar dystiolaeth i gefnogi iechyd meddwl yn ddiweddarach mewn bywyd.
Dan arweiniad Dr Darren J. Edwards, y myfyriwr PhD Tom C. Gordon, a'r Athro Andrew Kemp, darganfu'r ymchwil:
- Mai gwneud yr hyn sydd bwysicaf i’r unigolyn (ymddygiad wedi’i lywio gan ystyr) oedd y rhagfynegydd cryfaf o les uchel a salwch isel, yn rhannol oherwydd ei fod yn meithrin cysylltiad cymdeithasol a gwydnwch.
- Bod amrywioldeb cyfradd curiad y galon, marciwr o ba mor dda mae'r corff yn addasu i straen, yn gysylltiedig yn gyson â lles goddrychol uwch.
- Mai adfyd gydol oes a ddangosodd y cysylltiad uniongyrchol cryfaf â salwch.
Mae'r canfyddiadau hyn yn amlygu nad yw iechyd meddwl yn ymwneud â lleihau risgiau yn unig, ond ei fod yn ymwneud hefyd â meithrin adnoddau sy'n helpu pobl i ffynnu.
Mae'r astudiaeth hefyd yn datgelu sut mae ffactorau gwahanol yn rhyngweithio mewn ffyrdd cymhleth:
- Nid pegynau sbectrwm yn unig yw salwch a lles.
- Mae cynnydd yn amrywioldeb cyfradd curiad y galon yn creu gwelliannau cynyddol fwy mewn lles.
- Mae gan adfyd cynnar mewn bywyd, effaith negyddol anghymesur o fawr ar iechyd meddwl.
Defnyddiodd y tîm ddulliau uwch megis modelu Bayesaidd a hafaliad strwythurol i ddatgelu'r patrymau cudd hyn. Roedd y dadansoddiad yn groestoriadol, sy'n golygu y nododd gydgysylltiadau yn hytrach na phrofi achos ac effaith. Fodd bynnag, mae'r canlyniadau'n amlygu cyfeiriadau addawol ar gyfer astudiaethau ymyrraeth yn y dyfodol.
Meddai Dr Darren J. Edwards, Athro Cysylltiol mewn Iechyd Cyhoeddus ac un o’r cyd-awduron: "Mae ein hymchwil yn atgyfnerthu gwerth ymagweddau sy'n seiliedig ar broses, gan helpu pobl i alinio ymddygiad â gwerthoedd personol, cysylltu ag eraill a rheoli straen yn fwy effeithiol."
Ychwanegodd Tom C. Gordon, myfyriwr PhD a’r prif awdur: "Gall cymorth weithio orau pan fo’n cydweddu â'r unigolyn. Mae helpu pobl i wneud mwy o'r hyn sy'n bwysig, adeiladu perthnasoedd a rheoleiddio straen yn fwy addawol na dibynnu ar unrhyw dacteg unigol."
Meddai'r Athro Andrew Kemp, Arweinydd yr Ymchwil ar gyfer yr Ysgol Seicoleg ac un o’r cyd-awduron: "Gyda phoblogaethau sy'n heneiddio ac anghenion iechyd meddwl cynyddol, mae'r canfyddiadau hyn yn nodi potensial ymagweddau sy'n adeiladu pwrpas, cysylltiad a gwydnwch ochr yn ochr ag ymagweddau traddodiadol sy'n ymwneud â rheoli symptomau."
Gyda phoblogaethau sy'n heneiddio ac anghenion iechyd meddwl cynyddol, mae'r canfyddiadau hyn yn cynnig arweiniad amserol ar gyfer darparwyr gofal iechyd, llunwyr polisi a sefydliadau cymunedol.