
Mae ymchwil arloesol gan Brifysgol Abertawe, a gomisiynwyd gan yr elusen 1001 Crititical Days Foundation a lansiwyd yn ddiweddar, wedi datgelu bod rhwng dau a thri o fabanod yn colli eu tadau oherwydd hunanladdiad bob wythnos yn y DU.
Gan gyd-fynd â Diwrnod Atal Hunanladdiad y Byd ar 10 Medi, mae'r astudiaeth hon, yr un gyntaf o'i bath yn y byd ac sy'n defnyddio data ar sail canfyddiadau yng Nghymru, yn amlygu argyfwng iechyd meddwl tadau nad yw'n cael sylw digonol.
Mae’r 1001 Critical Days Foundation yn elusen newydd a sefydlwyd gan y Gwir Anrh y Fonesig Andrea Leadsom. Ei chenhadaeth yw sicrhau bod pob baban yn cael y gefnogaeth angenrheidiol i'w helpu i gael y dechrau gorau yn ei fywyd drwy ariannu elusennau rheng flaen, comisiynu ymchwil a thrwy eirioli ledled y byd dros y 1001 o ddiwrnodau critigol cyntaf.
Arweiniwyd yr astudiaeth chwe mis hon gan yr Athro Ann John o Brifysgol Abertawe, Cyfarwyddwr y Ganolfan Genedlaethol ar gyfer Ymchwil i Atal Hunanladdiad a Hunan-niwed, ynghyd â'r cyd-ymchwilwyr, Dr Kate Ellis-Davies a Dr Kim Dienes o Ysgol Seicoleg Prifysgol Abertawe, a bu'n gweithio gyda Banc Data SAIL i ddadansoddi cofnodion iechyd, data am farwolaethau a defnydd o wasanaethau iechyd meddwl yng Nghymru.
Wrth gyfeirio at ganfyddiadau'r astudiaeth, meddai'r Athro John: "Gwnaethon ni ganfod bod cyfraddau hunanladdiad ymhlith tadau yn ystod beichiogrwydd a dyddiau cynnar magu plant yn is na rhai gwrywod eraill, ond serch hynny, rydyn ni'n meddwl bod hwn yn gyfnod critigol ar gyfer ymyrryd a gwasanaethau sy'n cynnwys tadau o ran iechyd meddwl amenedigol. Yn aml rydyn ni'n cynnal ymgyrchoedd sy'n gofyn i ddynion geisio cymorth am eu hiechyd meddwl, ond gallen ni fod yn llawer mwy rhagweithiol a chynnig cymorth yn ystod y cyfnodau allweddol hynny o newid pan fyddan nhw mewn cysylltiad â gwasanaethau.”
"Credir bod 8-13% o dadau'n profi iselder meddwl yn ystod beichiogrwydd a dyddiau cynnar magu plant. Ar hyn o bryd, does dim system genedlaethol i olrhain na chategoreiddio hunanladdiad tadau, yn wahanol i gyfraddau marwolaeth mamau, sy'n cael eu mesur fel mater o drefn. Mae'r bwlch hwn yn cyfyngu ar ymwybyddiaeth a thargedu cymorth.
"Mae data o Gymru dros y 22 mlynedd diwethaf yn datgelu bod saith gwaith mwy o dadau na mamau wedi marw drwy hunanladdiad yn ystod y 1001 o ddiwrnodau critigol. Mae'r anghydraddoldeb hwn yn adlewyrchu gwahaniaethau rydyn ni'n eu gweld o ran hunanladdiad mewn dynion a menywod yn y boblogaeth gyffredinol. Mae'n bosib atal hunanladdiad ond, yn y grŵp hwn o ddynion, mae angen llwybrau arnon ni, o adnoddau hunanofal i wasanaethau iechyd meddwl amenedigol arbenigol, a dylai'r rhain gael eu darparu a'u teilwra i dadau yn ogystal â mamau.
"Yn ogystal â sefydlu cyfraddau gwaelodlin yng Nghymru, gallai ein hymchwil ni hefyd lywio gwasanaethau sgrinio, ymyrryd yn gynnar a llunio polisïau i gefnogi rhieni a babanod yn well yn ystod 1001 o ddiwrnodau critigol cyntaf bywyd baban."
Mae'r ymchwil yn datgelu sefyllfa wirioneddol drychinebus ar gyfer pob un o'r teuluoedd sy'n dioddef colled oherwydd hunanladdiad tad, ond mae hefyd yn amlygu sut gallai'r costau gael eu gwario'n well ar weithgarwch atal. Cyfanswm cost economaidd-gymdeithasol ledled y DU yw tua £217m bob blwyddyn. Ar hyn o bryd, nid yw gwasanaethau iechyd meddwl amenedigol yn cynnwys tadau, yn hytrach, maent ar gael i famau yn unig.
Wrth siarad yn nigwyddiad lansio'r elusen, meddai'r Fonesig Andrea: “Mae'r wyddoniaeth yn ddigamsyniol - mae profiadau baban yn ystod y cyfnod rhwng beichiogrwydd a dwy flwydd oed yn ffurfio blociau adeiladu ei iechyd emosiynol a chorfforol gydol oes. Dangosodd fy mhrofiad personol o iselder ôl-enedigol i mi pa mor anodd gall y diwrnodau cynnar hynny fod a pha mor bwysig yw cefnogi mamau, tadau a gofalwyr.
“Hunanladdiad yw prif achos marwolaethau mamau o hyd, ond dydyn ni ddim hyd yn oed yn mesur hunanladdiad tadau. Mae'n rhaid i hynny newid. Bydd yr ymchwil rydyn ni wedi'i hariannu ym Mhrifysgol Abertawe'n taflu goleuni ar yr argyfwng cudd hwn ac yn helpu llunwyr polisi i ddyfeisio'r ymyriadau iawn i achub bywydau."
Mae'r elusen wedi dyfarnu £1m mewn arian grant i Home-Start UK i'w galluogi i roi'r rhaglen Dad Matters ar waith yn genedlaethol.