
Cydnabyddiaeth: Leon Woods ar Pexels.
Mae cwmni deillio arobryn ym Mhrifysgol Abertawe o'r enw Bionema Group Ltd wedi cael hwb cyllid mawr gan Innovate UK.
Mae Bionema yn arweinydd blaenllaw ym maes bioreolaeth ac amaethyddiaeth gynaliadwy a bydd yn defnyddio'r grant gwerth £650,000 i ddatblygu molysgladdwr biolegol systemig cyntaf y byd fel rhan o'r rhaglen ‘Launchpad’ Diwydiant Sero Net: De-orllewin Cymru.
Mae'r prosiect, Net-Zero Slug Control: Developing the UK's First Systemic Biological Molluscicide for Climate-Smart Farming, yn mynd i'r afael ag un o heriau amaethyddol mwyaf parhaus y DU - plâu gwlithod a malwod, sy'n achosi colledion blynyddol gwerth mwy na £100 miliwn o ran cnydau mewn grawnfwydydd, tatws ac olew rêp.
Mae'r datblygiad arloesol hwn yn defnyddio alcaloidau Loline – sy'n adnabyddus am eu priodweddau pryfleiddiol ac atal pryfed – sy’n deillio o laswellt endoffytig i ddarparu ateb gweithred deuol sy'n ddiogel ac yn gynaliadwy.
- Diogelwch Gweithredol: mae pelenni abwyd wedi'u cyfoethogi â Lolines yn denu ac yn dinistrio gwlithod a malwod; a
- Diogelwch Systemig: Mae planhigion yn amsugno Lolines, gan wneud cnydau yn fwy gwydn o'r tu mewn.
Yn wahanol i folysgladdwyr synthetig traddodiadol, sy'n wenwynig i fywyd gwyllt ac yn cyfrannu at allyriadau carbon uchel, mae pelenni Bionema yn seiliedig ar ddeunydd biolegol, nid ydynt yn wenwynig, maent yn fioddiraddadwy ac yn gallu dal carbon. Mae hyn yn cyd-fynd â Chynllun Gwella'r Amgylchedd DEFRA, Menter Cymhelliad Ffermio Cynaliadwy'r DU, a strategaeth 'Launchpad' Diwydiant Net Sero Cymru, wrth gyfrannu at nifer o Nodau Datblygu Cynaliadwy'r Cenhedloedd Unedig.
Dywedodd Dr Minshad Ansari, Sefydlydd a Phrif Swyddog Gweithredol Bionema: "Mae'r cyllid hwn gan Innovate UK yn cyflymu ein cenhadaeth i ddisodli plaladdwyr cemegol sy'n achosi llygredd gydag atebion biolegol amgen sy'n ddiogel ac yn effeithiol.
"Yn ogystal ag amddiffyn cnydau a hybu cynnyrch, bydd hefyd yn cyfrannu'n uniongyrchol at leihau carbon, cael pridd iachach ac arferion ffermio mwy cynaliadwy. Mae'n dangos sut gall arloesedd Cymru ddarparu atebion ag arwyddocâd byd-eang ar gyfer diogelwch bwyd a gwydnwch hinsawdd."
Caiff y prosiect ei gyflwyno mewn cydweithrediad â Phrifysgol Abertawe, Eurofins Agrotesting UK, ac Applied Insect Science (APIS). Gyda'i gilydd, mae'r consortiwm yn darparu arbenigedd mewn creu bioblaladdwyr, cemeg ddadansoddol, cydymffurfiaeth reoleiddiol a dilysu maes ar raddfa fawr.
Ychwanegodd Dr Fawzi Belblidia, Cyfarwyddwr Technegol Canolfan Ymchwil ASTUTE, Prifysgol Abertawe: "Rydym yn falch o fod yn cydweithio â Bionema ar y prosiect arloesol hwn. Drwy gyfuno arbenigedd gwyddonol Prifysgol Abertawe ag arloesedd Bionema a'i arweinyddiaeth yn y diwydiant bioreolaeth, rydym yn helpu i ddatblygu ateb hinsawdd-ddeallus a fydd o fudd i ffermwyr, yr amgylchedd ac economi Cymru, wrth sefydlu Cymru fel arweinydd byd-eang mewn amaethyddiaeth gynaliadwy."
Bydd y rhaglen 18 mis yn optimeiddio dulliau cynhyrchu, yn dilysu perfformiad drwy dreialon maes ledled y DU ac yn paratoi ar gyfer cymeradwyaeth reoleiddiol. Disgwylir i'r prosiect greu £50 miliwn yn y DU a £100 miliwn yn fyd-eang erbyn 2035.