
(Cydnabyddiaeth: I T S | Shutterstock).
Mae astudiaeth gan Brifysgol Abertawe wedi datgelu'r straen emosiynol a gweithredol dwys a brofwyd gan staff ambiwlansys brys ledled y DU yn ystod pandemig Covid-19.
Yn rhan o brosiect TRIM (What TRIage model is safest and most effective for the Management of 999 callers with suspected Covid-19), arweiniwyd yr ymchwil ddiweddaraf hon gan yr Athro Alan Watkins a'r Athro Helen Snooks o Brifysgol Abertawe ac mae'n amlygu sut gwnaeth ymatebwyr rheng flaen addasu prosesau brysbennu a gwneud penderfyniadau dan bwysau eithafol.
Bu Dr Alison Porter, Athro Cysylltiol Mewn Ymchwil i’r Gwasanaethau Iechyd, yn goruchwylio'r llinyn a ganolbwyntiodd ar wasanaethau ambiwlans a'r rhai sy'n cydweithio â nhw mewn adrannau brys - gan archwilio sut newidiodd timau eu ffordd o weithio i ymateb i alwadau 999 a oedd yn cynnwys achosion lle amheuwyd Covid-19, ac archwilio canlyniadau clinigol a phrofiadau personol staff.
Wedi'i datblygu mewn cydweithrediad â phartneriaid cynnwys cleifion a'r cyhoedd, mae'r astudiaeth yn tynnu ar 25 o gyfweliadau o bell â phersonél, gan gynnwys parafeddygon, ymatebwyr galwadau brys am ambiwlans a chlinigwyr adrannau brys sy'n gweithio ym mhedwar o wasanaethau ambiwlans y GIG ac ysbytai rhanbarthol cyfatebol.
Nododd yr astudiaeth bedair thema allweddol:
- Gofal wedi'i flaenoriaethu â chyswllt cyfyngedig: Canolbwyntiodd timau ambiwlans ar yr achosion mwyaf brys, gan leihau rhyngweithio wyneb yn wyneb er mwyn lleihau'r risg o heintio.
- Newid i frysbennu o bell: Newidiodd arferion ymateb i alwadau'n sylweddol, gan asesu cleifion o bell yn lle gwerthusiadau wyneb yn wyneb traddodiadol.
- Tarfu eang ar systemau: Effeithiodd newidiadau ehangach ar draws y dirwedd gofal iechyd ar lif cleifion, gan ychwanegu cymhlethdod at weithrediadau ambiwlans.
- Straen meddyliol ac emosiynol: Bu'n rhaid i staff ymdopi â phrotocolau newidiol, penblethau moesegol a phwysau seicolegol parhaus.
Tynnwyd sylw at effaith emosiynol y pandemig dro ar ôl tro yn y cyfweliadau.
Meddai un atebydd galwadau: "Byddwn i'n dweud mai dyna'r peth mwyaf anodd dwi erioed wedi'i wneud [...] Roeddwn i'n dod adref gan sefyll yn y coridor, yn tynnu fy iwnifform ac yn rhedeg i'r gawod ac yn beichio wylo dydd ar ôl dydd."
Er gwaethaf yr heriau anferth, amlygodd yr astudiaeth hefyd ymdeimlad cryf o falchder a gwydnwch ymhlith staff gofal iechyd brys.
Meddai rheolwr gwasanaeth ambiwlans: "Dwi'n meddwl ein bod wedi mynd i'r afael â'r her yn ystod Covid a gwnaethon ni job gwych. A gwnaeth pob un clinigwr yn y rheng flaen [...] y rhai oedd yn ateb galwadau, y rhai oedd yn anfon ambiwlansys, ddangos pa mor hyblyg ac addasadwy a pha mor wydn ydyn ni fel gwasanaeth.”
Meddai Dr Porter: "Mae'r gwasanaethau ambiwlans brys yn gweithredu mewn amgylcheddau pwysau mawr hyd yn oed mewn amgylchiadau arferol. Yn ystod Covid-19, cynyddodd y pwysau hynny'n gyflym.
“Datgelodd ein hymchwil ni y realiti roedd staff rheng flaen yn ei wynebu - newid ac ansicrwydd cyson, a galwadau emosiynol llethol - wrth iddynt ymdrechu i ddarparu gofal diogel ac effeithiol."
Mae canfyddiadau'r astudiaeth yn glir: dylai gwasanaethau brys y dyfodol gael eu seilio ar sylfeini hyblygrwydd, tosturi a chymorth seicolegol. Drwy ddysgu o brofiadau pandemig Covid-19, gall systemau iechyd ddiogelu staff rheng flaen yn well a darparu gofal ymatebol o ansawdd uchel pan fo ei angen mwyaf.
Meddai Dr Mike Brady (PhD), Cyfarwyddwr Clinigol Cynorthwyol ar gyfer Gofal Clinigol o Bell yn Ymddiriedolaeth GIG Gwasanaethau Ambiwlans Cymru, a oedd yn rhan o'r tîm ymchwil: "Mae canfyddiadau astudiaeth TRIM yn datgelu'r straen emosiynol a gweithredol dwys roedd staff Canolfannau Gweithrediadau Brys yn ei wynebu yn ystod y pandemig, yn ogystal â'u gallu rhyfeddol i addasu mewn amgylchiadau a oedd yn newid yn gyflym.
"Mae'r canfyddiadau hyn yn hynod berthnasol heddiw, wrth i wasanaethau iechyd y DU wynebu trawsnewidiadau ar raddfa fawr yn eu model clinigol, eu hymatebion paratoi am y gaeaf ac ymarferion paratoi am bandemig yn y dyfodol.Mae'r canfyddiadau hyn yn tanlinellu pwysigrwydd gwasanaethau ambiwlans y DU yn cyfrannu at ymchwil o ansawdd uchel a phwysig."