Darlun

Mae sioeau egnï 'Explosive Food and Fire Up' y Sefydliad Brenhinol ymhlith y prif ddigwyddiadau yng Ngŵyl Wyddoniaeth Abertawe eleni, sy'n dychwelyd yn ystod hanner tymor mis Hydref eleni.

Cynhelir gŵyl eleni, sy’n bartneriaeth rhwng Prifysgol Abertawe ac Amgueddfa Genedlaethol y Glannau, yn Amgueddfa Genedlaethol y Glannau ddydd Sadwrn 25 a dydd Sul 26 Hydref, gan gyflwyno penwythnos sy’n llawn sioeau anhygoel, arbrofion ymarferol, a sgyrsiau llawn ysbrydoliaeth ar gyfer pobl o bob oed.

Bydd y rhai hynny sy'n dwlu ar fyd natur wrth eu boddau wrth i'r cyflwynwyr a'r gwneuthurwyr ffilmiau sy'n adnabyddus yn rhyngwladol, Lizzie Daly a Hamza Yassin, gamu i’r llwyfan i rannu straeon ysbrydoledig o'r byd naturiol. Gall cynulleidfaoedd hefyd fwynhau hwyl gwych ar thema wyddonol gyda'r sioeau Swigod a Balŵns a'r 'Superhero Scientists' sydd bob tro'n boblogaidd iawn, ac sy'n sicr o gynnig adloniant ac ysbrydoliaeth.

Drwy gydol y penwythnos, gall ymwelwyr archwilio rhaglen lawn o sgyrsiau ac arddangosiadau, gan brofi popeth o beirianneg arloesol i sut y gellir defnyddio cynrhon meddygol mewn ffyrdd rhyfeddol, a hyd yn oed y wyddoniaeth y tu ôl i losin a chwrw.

Ochr yn ochr â’r prif ddigwyddiadau, bydd gweithgareddau galw heibio ac arddangosfeydd rhyngweithiol am ddim ar gael yn yr amgueddfa, gan sicrhau bod rhywbeth at ddant pawb.

Mae Gŵyl Wyddoniaeth Abertawe wedi datblygu'n un o'r hoff ddigwyddiadau yng nghalendr diwylliannol y ddinas ers i'r ŵyl gael ei lansio yn 2016, gan ddenu mwy na 10,000 o ymwelwyr yn ystod blynyddoedd blaenorol.

Meddai'r Athro Helen Griffiths, Dirprwy Is-ganghellor Prifysgol Abertawe ar gyfer Ymchwil ac Arloesi:
"Ers 2016, mae Gŵyl Wyddoniaeth Abertawe wedi bod yn ddigwyddiad allweddol ar gyfer y ddinas, un sy'n dod â’r gymuned a'n hacademyddion a'n hymchwilwyr ynghyd drwy gyfrwng cariad at wyddoniaeth. Rydym yn edrych ymlaen at groesawu pawb wyneb yn wyneb i ddigwyddiad sy'n argoeli i fod yn ddathliad gwyddoniaeth i bob oedran na ddylech ei golli".

Gweler y rhaglen lawn ac archebwch docynnau.

Rhannu'r stori