
Mae casgliad newydd trawiadol o ysgrifennu a gwaith celf wedi cael ei gyhoeddi, gan ddathlu lleisiau balch, personol ac amrywiol pobl LHDTC+ ledled Cymru.
Wedi'i hysbrydoli gan ddrama glodwiw Natalie McGrath, The Beat of Our Hearts, mae'r antholeg am ddim o'r un enw yn casglu ynghyd straeon, cerddi a myfyrdodau am gariad, unigrwydd, hunaniaeth a pherthyn mewn cymunedau Cymreig.
Mae'r casgliad ar gael i'w ddarllen ar-lein ar ystorfa Prifysgol Abertawe.
Lansiwyd y prosiect yn Amgueddfa Caerdydd ym mis Chwefror 2025 drwy ddangos ffilm o ddrama McGrath a dilynwyd hyn gan weithdai ysgrifennu dan arweiniad yr hanesydd LHDTC+ Norena Shopland. Gwahoddwyd cyfranogwyr i fyfyrio ar sut roedd themâu’r ddrama yn cael eu hadlewyrchu yn eu bywydau eu hunain, yn enwedig mewn ardaloedd gwledig ac arfordirol lle nad yw lleisiau cwiar yn cael eu clywed i’r un graddau yn aml.
Meddai Dr Charlotte Jones, darlithydd cymdeithaseg ym Mhrifysgol Abertawe a arweiniodd y fenter: "Roedd hi'n ysbrydoliaeth treulio'r diwrnod gyda grŵp mor angerddol ac ymrwymedig, pob un yn cynnig ei lais a'i safbwynt unigryw ar fywyd LHDTC+ yng Nghymru. Yr elfen fwyaf trawiadol oedd yr ymddiriedaeth a'r parodrwydd i fod yn agored yn yr ystafell - gwnaeth y cyfranogwyr rannu drafftiau o'u gwaith, yn aml am y tro cyntaf. Roedd hi'n teimlo'n fraint go iawn gweld y gwreichion cynnar hynny o fynegi creadigol."
Mae'r antholeg ganlyniadol yn fywiog ac yn emosiynol. Mae'r uchafbwyntiau'n cynnwys: A Pink Haired Queer in the Valleys gan Colin John, stori amrwd o ddod i delerau â hunaniaeth mewn pentref glofaol, a Porsha's Journey, stori gweithredwr trawsryweddol o Gaerdydd, Porsha Ross. Mae cyfraniadau eraill yn archwilio treftadaeth, iaith a chymuned gwiar, gan greu darlun cyfoethog ac amrywiol o brofiad y gymuned LHDTC+ yng Nghymru heddiw.
Dywedodd Dr Jones ei bod hi'n gobeithio y byddai cyfranwyr yn ymfalchïo yn y cyhoeddiad ond y byddai hefyd yn taflu goleuni ar gymunedau sydd wedi cael eu hesgeuluso. "Gobeithio y bydd y cyfranwyr yn teimlo balchder a llawenydd wrth weld eu gwaith yn cael ei gyhoeddi a'i werthfawrogi. Yn fwy na hyn, gobeithio bod y casgliad yn amlygu bywydau LHDTC+ yng Nghymru, yn enwedig y rhai hynny mewn cymunedau gwledig. Mae llawer o waith i'w wneud o hyd i sicrhau bod lleisiau cwiar yn cael eu clywed, eu hariannu a'u gwerthfawrogi yn yr ardaloedd hyn - yn enwedig yn y celfyddydau a'r cyfryngau."
Mae'r fenter yn adeiladu ar ymchwil Dr Jones i iechyd meddwl ac unigrwydd yn y gymuned LHDTCRhA+ ac mae'n ategu gwaith Amgueddfa Cymru sy'n parhau i ehangu ei chasgliadau a'i harddangosfeydd LHDTC+.
Ychwanegodd Dr Jones: “Mae'r casgliad hwn yn dathlu amrywiaeth lleisiau LHDTC+ ac yn myfyrio ar bresenoldeb cynyddol bywydau cwiar mewn archifau ac amgueddfeydd. Ein gobaith yw y bydd yn cyfrannu at ymdrechion parhaus i sicrhau bod hanesion, creadigrwydd a chymunedau LHDTC+ yn cael eu hamddiffyn a’u dathlu fel rhan hanfodol o dreftadaeth ddiwylliannol Cymru. Yn rhy aml, mae'r straeon hyn wedi cael eu dileu neu eu hesgeuluso. Mae'r casgliad hwn yn cyfrannu at y gwaith o adennill lle."