
Credyd: Blue Bird | Pexels.
Mae Sefydliad Gweithgarwch Corfforol, Iechyd a Chwaraeon Cymru(WIPAHS), drwy dîm dan arweiniad ymchwilwyr o Brifysgol Abertawe, wedi creu Cerdyn Gwlad Cymru GoPA! 2025 - ciplun allweddol o dueddiadau symudiad y genedl, sy'n datgelu cynnydd mewn gweithgarwch corfforol ymysg oedolion.
Wedi'i ddatgelu fel rhan o Gynhadledd HEPA Ewrop 2025, mae trydydd cyhoeddiad Cardiau Gwlad GoPA! yn cadw cofnod o ymdrechion cenedlaethol mewn ymchwil, gwyliadwriaeth a pholisi ar draws 186 o wledydd.
Mae cerdyn Cymru wedi'i greu gan dîm dan arweiniad yr Athrawon Kelly Mackintosh a Melitta McNarry, cyd-gyfarwyddwyr WIPAHS, mewn cydweithrediad ag Iechyd Cyhoeddus Cymru.
O'i gymharu â 2020, a gofnododd gyfradd o 54% ar gyfer gweithgarwch corfforol ymhlith oedolion yng Nghymru, mae cerdyn 2025 yn dangos cynnydd bach ond nodedig i 55%. Fodd bynnag, mae hefyd yn adlewyrchu newid yn yr asesiad o bolisi gweithgarwch corfforol Cymru - o "Uchel" i "Ganolig" - sy'n amlygu'r angen am ffocws strategol newydd i gefnogi cynnydd parhaus.
Meddai Dr Amie Richards, swyddog ymchwil yn WIPAHS a chyfrannwr allweddol at y cerdyn: "Mae cyfrannu at y Cardiau Gwlad wedi ein galluogi i gasglu a rhannu data hanfodol sy'n cefnogi gwneud penderfyniadau ar sail tystiolaeth ac yn codi ymwybyddiaeth o dueddiadau gweithgarwch corfforol a bylchau yng Nghymru. Mae'r mewnwelediadau hyn yn allweddol er mwyn ymgysylltu â rhanddeiliaid ar draws y byd academaidd, y llywodraeth ac iechyd y cyhoedd."
Ychwanegodd John Bradley, o Iechyd Cyhoeddus Cymru sydd hefyd yn rhan o'r tîm: "Mae cwblhau'r Cerdyn Gwlad GoPA ar gyfer Cymru unwaith eto'n cyfrannu at yr ymagwedd barhaus, a arweinir gan ddeallusrwydd at bolisi a chynllunio gweithgarwch corfforol ar draws Cymru.
"Mae WIPAHS wedi arwain datblygiad Cerdyn Gwlad 2025 mewn modd effeithlon a chadarn ac, ochr yn ochr ag Iechyd Cyhoeddus Cymru, bydd yn parhau i hyrwyddo a lledaenu'r adnodd i sicrhau ei effaith ar draws y system."
Mae'r fersiwn ddiweddaraf yn cyflwyno dangosyddion newydd, gan gynnwys anghydraddoldebau rhywedd mewn cyfranogiad ac ymchwil, yn ogystal â data sydd wedi'i rannu yn ôl meysydd megis nifer yr oedolion sy'n cymryd rhan mewn hamdden (52%) a thrafnidiaeth actif (39%.)
Mae'r holl gardiau ar gael yn Saesneg ac wedi'u cyfieithu i 66 o ieithoedd ychwanegol - gan gynnwys y Gymraeg - gan ddyblu'r nifer ers eu cyhoeddi yn 2020 sy’n cefnogi hygyrchedd byd-eang.
Mae GoPA! hefyd wedi lansio gwefan sydd wedi cael ei hail-ddylunio sy'n cynnwys dangosfwrdd rhyngweithiol a chyfeiriadur polisïau chwiliadwy, gan ei gwneud yn haws nag erioed archwilio a defnyddio'r data.
Meddai Dr Michael Pratt, Cyd-gadeirydd GoPA!: "Mae gan GoPA! y data hwnnw ar gyfer bron pob gwlad yn y byd, ac mae ansawdd a lled y data'n parhau i wella. Nawr yw'r amser i roi'r data ar waith i leihau anweithgarwch corfforol ledled y byd."
Mae anweithgarwch corfforol yn parhau'n un o’r prif ffactorau risg ar gyfer clefyd cronig. Yn fyd-eang, mae 1 ymhob 3 oedolyn yn anweithgar, gyda chyfartaleddau rhanbarthol yn amrywio o 5% yn Affrica i bron 10% yn Ewrop a Chyfandiroedd America.
Mae'r Cardiau Gwledydd yn fwy nag ystadegau - maen nhw'n broffiliau byw sy'n amlygu cynnydd, bylchau a chyfleoedd i adeiladu cymdeithasau iachach, mwy actif. Maen nhw'n adlewyrchu ymrwymiad byd-eang i degwch, cynhwysiant, ac iechyd cyhoeddus cynaliadwy.
Meddai Dr Pedro Hallal, Cyd-gadeirydd GoPA!: "Mae pawb sy'n cynnal ymchwil o ansawdd uchel ym maes gweithgarwch corfforol ac iechyd yn cydnabod GoPA! Y cam nesaf yw annog llywodraethau ledled y byd i alw eu hunain i gyfrif am hyrwyddo cymunedau mwy actif."
Mae'r lansiad hefyd yn nodi dechrau newydd GoPE!, chwaer-fenter sy'n canolbwyntio ar systemau gweithgarwch corfforol mewn ysgolion, ac sydd wedi rhyddhau ei chyfres o Gardiau Gwlad ei hun ochr yn ochr â rhai GoPA!.
Archwiliwch y gyfres gyfan o Gardiau Gwlad ac offer digidol.