
Aelodau tîm Prifysgol Abertawe a wnaeth helpu'r Brifysgol i ennill y wobr (o'r chwith) Kim Hughes, Chloris Aspland-Jones a Gareth Williams.
Mae Prifysgol Abertawe wedi ennill Gwobr Masnach Deg uchel ei bri i Brifysgolion a Cholegau yn 2025, gan roi cydnabyddiaeth i'r Brifysgol am hyrwyddo treuliant moesegol a chyfiawnder masnach yn ystod y ddwy flynedd ddiwethaf.
Mae'r wobr yn adlewyrchu gweithgareddau'r Brifysgol wrth hyrwyddo masnach deg, cynaliadwyedd yn natblygiad y cwricwlwm, caffael cynaliadwy, ac ymgysylltu â myfyrwyr.
Aseswyd y Brifysgol ar draws meysydd, gan gynnwys ei gwaith academaidd, ymgyrchu dros fasnach deg, a'r gyfran o eitemau sydd ar werth ledled y Brifysgol. Mae'r wobr hefyd yn gwobrwyo dulliau arloesol o annog myfyrwyr a staff i ymgysylltu â chynaliadwyedd byd-eang a masnach foesegol.
Mae'r wobr yn cael ei dyfarnu ar y cyd gan y Sefydliad Masnach Deg a Students Organising for Sustainability UK (SOS-UK). Mae'n annog cydweithredu rhwng myfyrwyr, staff ac undebau myfyrwyr. Mae'r rhaglen yn cefnogi sefydliadau i arfogi myfyrwyr â'r ddealltwriaeth a'r offer i ysgogi newid byd-eang cadarnhaol.
Dywedodd Teifion Maddocks, Rheolwr Cynaliadwyedd: "Mae ennill y wobr hon yn adlewyrchu ymrwymiad Prifysgol Abertawe i ganfod pethau mewn ffordd foesegol, cyfrifoldeb amgylcheddol a chyfiawnder cymdeithasol. Mae'r gydnabyddiaeth hon yn cyd-fynd yn agos â'n gweledigaeth am ddatblygiad cynaliadwy a nodau'r mudiad Masnach Deg ar gyfer cynaliadwyedd cymdeithasol, economaidd ac amgylcheddol.
"Rydym yn falch o weithio gyda'n myfyrwyr a’n staff i hyrwyddo tâl teg, amodau gweithio diogel a chadwyni cyflenwi cynaliadwy. Mae'r ardystiad hwn hefyd yn grymuso myfyrwyr i ymgysylltu â heriau cynaliadwyedd byd-eang a datblygu sgiliau gwyrdd gwerthfawr megis archwilio ESG.
“Mae'n atgyfnerthu ein hymrwymiad i'r nodau a nodwyd yn Strategaeth Gynaliadwyedd y Brifysgol ac mae'n sicrhau bod y cynhyrchion rydym yn eu cynnig ar y campws yn cyfrannu at fyd tecach a mwy cynaliadwy."
Dywedodd Sarah Brazier, Pennaeth Ymgyrchoedd y Sefydliad Masnach Deg: "Ar ôl dathlu 30 mlynedd o Fasnach Deg yn y DU y llynedd, mae prifysgolion yn chwarae rôl allweddol yn y mudiad Masnach Deg. Mae angerdd ac egni myfyrwyr yn ganolog i greu byd tecach. Mae gwerthu cynhyrchion Masnach Deg ar y campws, siarad dros ffermwyr a gweithwyr ledled y byd, a mentrau dan arweiniad myfyrwyr oll wedi cyfrannu at newid.”
Aseswyd prifysgolion ar draws ystod eang o feysydd, gan gynnwys:
- Ymchwil a'r cwricwlwm;
- Ymgyrchu a dylanwadu; a
- Chaffael, manwerthu ac arlwyo
Dyfarnwyd pwyntiau ychwanegol am ddulliau arloesol sy’n creu effaith wrth gysylltu myfyrwyr a staff â materion cynaliadwyedd byd-eang a masnach foesegol.