Cynrychiolwyr o Brifysgol Abertawe gyda myfyrwyr rhyngwladol sydd wedi ffoi o'u cartrefi oherwydd gwrthdaro.

Cynrychiolwyr o Brifysgol Abertawe gyda myfyrwyr rhyngwladol sydd wedi ffoi o'u cartrefi oherwydd gwrthdaro.

Mae Prifysgol Abertawe wedi derbyn statws Prifysgol Noddfa am y croeso a'r cymorth y mae'n eu cynnig i bobl sydd wedi ffoi o'u cartrefi oherwydd gwrthdaro.

Mae'r wobr yn amlygu mentrau megis Ysgoloriaethau Noddfa'r Brifysgol a phartneriaeth â Phrifysgol Genedlaethol Petro Mohyla'r Môr Du yn Wcráin, sydd wedi galluogi 53 o fyfyrwyr o Wcráin i ddod i astudio yma yn Abertawe.

Wedi'u hariannu drwy gymorth hael cyn-fyfyrwyr a chefnogwyr Prifysgol Abertawe, mae'r Ysgoloriaethau Noddfa yn helpu i ddileu rhwystrau ariannol ac yn cynnig cyfleoedd sy'n newid bywydau i bobl sy'n ffoi rhag gwrthdaro, gan eu galluogi nhw i barhau â'u haddysg mewn amgylchedd diogel a chefnogol.

Mae Universities of Sanctuary yn rhwydwaith cenedlaethol sy'n gwneud sefydliadau addysg uwch yn lleoedd o ddiogelwch, solidariaeth a grym i'r rhai sy'n ceisio noddfa.

Daeth Abertawe'n ail Ddinas Noddfa swyddogol y DU yn 2010. Ers hynny, mae cannoedd o sefydliadau, gan gynnwys cynghorau, ysgolion, llyfrgelloedd a theatrau, wedi ymrwymo i feithrin diwylliant o gynwysoldeb a chroeso.

Er mwyn derbyn y wobr, cafodd gwaith Prifysgol Abertawe ei asesu gan banel o arbenigwyr Universities of Sanctuary, a ymwelodd â'r campws i siarad â staff a myfyrwyr sy'n ceisio noddfa.

Mae cymorth Prifysgol Abertawe'n cynnwys:

  • Cynnal 53 o fyfyrwyr o Wcráin am ymweliadau astudio semester o hyd, drwy ei phartneriaeth â Phrifysgol Genedlaethol Petro Mohyla'r Môr Du, dinas borthladd yr ymosodwyd arni'n fynych ers i luoedd Rwsia ymosod yn 2022.
  • Cefnogi dau aelod o staff academaidd a oedd mewn perygl yn eu gwledydd cartref i barhau â'u gwaith ymchwil yn ddiogel.
  • Cynnig tair Ysgoloriaeth Noddfa ar gyfer rhaglenni gradd meistr ôl-raddedig a addysgir cymwys, gan dalu am ffïoedd dysgu a chostau byw.
  • Cefnogi Discovery, elusen dan arweiniad myfyrwyr y Brifysgol sy'n cefnogi'r gymuned noddfa a Chymorth Ceiswyr Lloches Abertawe.
  • Gan gynnig staff penodol i gefnogi ysgolheigion noddfa ac aelodau'r gymuned.
  • Trefnu Diwrnod Ymweld Noddfa ar gyfer pobl leol sydd wedi wynebu mudo dan orfod.

Meddai Ana, a gafodd Ysgoloriaeth Noddfa, ac a astudiodd am MA mewn Cyfieithu a Chyfieithu ar y Pryd yn Abertawe: "Mae'r Ysgoloriaeth Noddfa yn fraint sydd wedi gwneud i mi deimlo'n groesawgar iawn yn y wlad hon ac wedi newid fy mywyd, bywyd fy ngŵr a’m dau blentyn ifanc. Ar ôl graddio, rwy'n edrych ymlaen at ddefnyddio'r sgiliau rydw i wedi'u dysgu ym Mhrifysgol Abertawe i helpu eraill yn y gymuned. Rydw i hefyd yn ddiolchgar iawn am y caredigrwydd a'r cymorth rydw i wedi eu derbyn yn ystod fy astudiaethau yma."

Mae ymchwil academaidd yn Abertawe hefyd yn cyfrannu at ddeall dadleoli a mudo'n orfodol. Mae hyn yn cynnwys gwaith gan yr Athro Sergei Shubin (Daearyddiaeth), Dr Gwennan Higham (Cymraeg), Dr Ashra Khanom (Meddygaeth), Dr Tracey Maegusku-Hewett, Dr Jo Pye a Beth Pearl (Gwaith Cymdeithasol), a myfyrwyr PhD Walaa Mouma a Holly Mogford.

Gan fyfyrio ar gyflawniad y Brifysgol, meddai'r Athro Paul Boyle, Is-Ganghellor Prifysgol Abertawe: "Mae'n anrhydedd i Brifysgol Abertawe gael statws Prifysgol Noddfa. Mae'r gydnabyddiaeth hon yn adlewyrchu angerdd ac ymrwymiad ein staff, ein myfyrwyr a'n cyn-fyfyrwyr i greu amgylchedd gwirioneddol groesawgar a chefnogol i'r rhai sydd wedi wynebu'r amgylchiadau mwyaf heriol ledled y byd.

"Ar adeg pan fydd cynifer yn gorfod ffoi o'u cartrefi oherwydd gwrthdaro ac erledigaeth, mae gan brifysgolion rôl hollbwysig, ac rwy'n falch bod Abertawe bellach yn rhan o rwydwaith cynyddol o sefydliadau sy'n cydweithio i gynnig diogelwch, cyfle a gobaith, yn ogystal â mynediad parhaus at addysg.  Mae'r wobr hon yn dyst i'r gwerthoedd rydym yn eu rhannu ar draws cymuned ein Prifysgol ac yn ein rhanbarth, ac rwy'n ddiolchgar iawn i bawb sydd wedi cyfrannu at y gwaith pwysig hwn.

"Rydym yn arbennig o ddiolchgar am y rhoddion hael gan ein graddedigion a'n cefnogwyr gwych, sy'n helpu i wneud yr ysgoloriaethau a'r cyfleoedd trawsnewidiol hyn yn bosib".

Cefnogwch Ysgoloriaethau Noddfa Prifysgol Abertawe.

Rhannu'r stori