Arwydd petryal gwyn sydd â chroes goch a GOFAL BRYS arni.

Mae astudiaeth newydd gan Brifysgol Abertawe sy'n defnyddio data ar raddfa'r boblogaeth, wedi datgelu gwybodaeth am sut mae pobl yn defnyddio gwasanaethau iechyd a gofal yn ystod eu blwyddyn olaf o fywyd, ac yn amlygu'r angen am adnabod a chynnig cymorth gwell i'r rhai hynny sydd angen gofal lliniarol.

Mae'r ymchwil, a gyhoeddwyd yng nghyfnodolyn Ewropeaidd The Lancet Regional Health - yn nodi bod y rhan fwyaf o bobl yn treulio eu blwyddyn olaf o fywyd yn eu cartref, ond roedd yr angen am ofal brys yn cynyddu'n sydyn yn agos at farwolaeth.

Roedd y bobl oedd wedi cael eu cofrestru am ofal lliniarol yn defnyddio mwy o wasanaethau iechyd a gofal o adref ond roedd y rhai hynny mewn cartrefi gofal - gyda nyrsys a hebddynt - yn defnyddio llai o’r gwasanaethau hyn. Roedd yr ymchwil hefyd wedi darganfod bod y bobl a oedd wedi cofrestru am ofal lliniarol yn cael eu rhyddhau o safleoedd ysbyty brys yn gyflymach ac felly'n aros am lai o amser mewn ysbyty brys na'r rhai nad ydynt wedi cofrestru am ofal lliniarol.

Mae hefyd yn datgelu anghysondebau mewn mynediad at ofal lliniarol, gyda dynion, preswylwyr trefol, pobl sy'n byw ar eu pennau eu hunain, a'r rhai hynny mewn cymunedau difreintiedig wedi’u tangynrychioli ar y gofrestr gofal lliniarol.

Mae'r tîm ymchwil yn nodi bod eu hastudiaeth yn datgelu angen brys i nodi pobl a fyddai'n elwa o ofal lliniarol yn gynt ac i roi cymorth ychwanegol ar yr aelwyd, yn enwedig i'r grwpiau dan anfantais. Mewn cyfnod lle mae systemau iechyd a gofal cymdeithasol yn wynebu pwysau cynyddol, mae'r ymchwil yn nodi bod angen cynllunio ar lefel  system a strategaethau sydd wedi'u llywio gan ddata i reoli'r galw cynyddol am wasanaethau diwedd oes. 

Meddai arweinydd y gwaith ymchwil, yr Athro Rhiannon Owen o Gyfadran Meddygaeth, Iechyd a Gwyddor Bywyd Prifysgol Abertawe:

"Roedd y gwaith hwn o alluogi gwerthusiad system gyfan o boblogaeth  Cymru gyfan yn bosib drwy gysylltu data iechyd a gweinyddol dienw a hwyluswyd gan Fanc Data SAIL. Mae ein canfyddiadau'n sylfaen hanfodol sy'n seiliedig ar dystiolaeth i gefnogi polisi gweinidogaethol er mwyn llunio gofal diwedd oes mwy effeithlon, tosturiol a theg yng Nghymru."

Cynhaliwyd y gwaith ymchwil mewn ymateb i'r Rhaglen Genedlaethol Gofal Lliniarol a Diwedd Oes yng Nghymru sydd wedi'i chomisiynu gan Lywodraeth Cymru drwy'r Ganolfan Dystiolaeth Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru.

Gallwch ddarllen yr ymchwil yng nghyfnodolyn Lancet Regional Health - Europe.

Rhannu'r stori